1Ac etifeddiaeth llwyth Manasses oedd (canys efe Gene.46.14.gyntafanedic Ioseph: ) i Machir cyntafanedic Manasses tad Gilead, o herwydd ei fod efe yn rhyfel-wr, yr oedd Gilead, a Basan yn eiddo ef.
2Ac yr oedd i’r rhan arall o feibion Manasses yn ôl eu teuluoedd i feibion Abiezer, ac i feibion Helec, ac i feibion Asriel, Num.26.29.ac i feibion Sichem, ac i feibion Hepher, ac i feibion Semida: dymma feibion Manasses, fab Ioseph y rhai gyrfiaid yn ôl eu teuluoedd.
3Ac Num.26.33. & 27.1. & 32.1.am Zalphaad fab Hepher, fab Gilead, fab Machir, fab Manasses nid oedd iddo ef feibion onid merched: ac dymma enwau ei ferched ef Mahala a Noa, Hogla, Milcha, a Thirsa:
4Y rhai a ddaethant o flaen Eleazar yr offeiriad, ac o flaen Iosuah mab Nun, ac o flaen y tywysogion gan ddywedyd, yr Arglwydd a orchymynnodd i Moses roddi i ni etifeddiaeth ym mysc ein brodyr: am hynny efe a roddodd iddynt etifeddiaeth yn ôl gair yr Arglwydd ym mysc brodyr eu tadau hwynt.
5A dec rhan-dir a syrthiasant i Manasses: heb law gwlâd Gilead, a Basan y rhai tu hwnt i’r Iorddonen.
6Canys merched Manasses a etifeddasant etifeddiaeth ym mysc ei feibion ef: a gwlad Gilead oedd eiddo y rhan arall o feibion Manasses.
7A therfyn Manasses oedd o Aser i Micmethah, yr hon gyferbyn a Sichem: a’r terfyn hwn oedd yn myned ar y llaw ddehau hyd bresswyl-wyr Entaphua.
8Gwlâd Taphua oedd eiddo Manasses: ond Taphua wrth derfyn Manasses[oedd]eiddo meibion Ephraim.
9A’r terfyn hwn sydd yn myned i wared i afon Canah tu’r dehau i’r afon, y dinasoedd hyneiddo Ephraim ym mhlith dinasoedd Manasses: a therfyn Manasses o du’r gogledd i’r afon, ai diwedd oedd y môr.
10Y dehau[oedd] eiddo Ephraim, a’r goglodd eiddo Manasses, a’r môr oedd ei derfyn ef: ac yn Aser yr oeddynt yn cyfarfod, o’r gogledd, ac yn Issachar o’r dwyrain.
11Yn Issachar hefyd, ac yn Aser yr oedd gan Manasses Bethsean ai phētrefydd, ac Ibleam ai phentrefydd, a thrigolion Dor ai phentrefydd, a thrigolion Endor ai phentrefydd, a phresswyl-wŷr Thaanac ai phentrefydd, a thrigolion Megido ai phentrefydd: y tair talaith hynny.
12Ond ni allodd meibion Manasses orescyn y dinasoedd hynny: eithr mynnodd y Canaaneaid bresswylio yn y wlâd honno.
13Etto pan gryfhaodd meibion Israel yna hwynt a osodasant y Canaaneaid tann drêth: ond gan orescyn ni orescynnodd efe hwynt.
14Yna meibion Ioseph a lefarasant wrth Iosuah gan ddywedyd: pa ham y rhoddaist i mi yn etifeddiaeth vn afel, ac vn rhan, a minne yn bobl aml, wedi i’r Arglwydd hyd yn hyn Gen.48.19.fy mendithio i?
15Ac Iosuah a ddywedodd wrthynt, os pobl aml ydwyt dos i fynu i’r coed, a thorr it yno yng-wlâd y Phereziaid a’r cawri: od yw mynydd Ephraim yn gyfyng i ti.
16Yna meibion Ioseph a ddywedasant, ni bydd y mynydd ddigon i ni: hefyd cerbydau heirn gan yr holl Canaaneaid y rhai ydynt yn trigo yn y dyffryn-dir chan y rhai yn Bethsean, ai phen trefydd, a chan y rhai yng-lynn Iezrael.
17Ac Iosuah a ddywedodd wrth dy Ioseph, wrth Ephraim ac wrth Manasses gan ddywedyd: pobl aml ydwyt, a nerth mawr gennit, na fydded it vn rhann
18Eithr bydded y mynydd eiddo ti, os coedoc yw, yna arloesa ef fel y byddo ei eithafoedd ef eiddo ti: canys ti a orescynni y Canaaneaid er cerbydau heirn ganddynt, er eu hwynt yn gryfion.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.