Psalmau 89 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. lxxix.Athrawiaeth Ethan yr Esrehiad.

1 Trugareddau’r Arglwydd a ddatcanaf byth, a’m genau y mynêgaf dy wirionedd di o genhedlaeth hyd genhedlaeth.

2Canys dywedais yr adailedir trugaredd yn dragywydd: yn y nefoedd y cadarnhei dy wirionedd.

3Gwneuthum ammod a’m etholedig, tyngais i’m gwâs Dafydd.

4Yn dragywydd y siccrhâf dy hâd ti: ac o genhedlaeth i genhedlaeth yr adailadaf dy orseddfaingc di.Selah.

5Am hynny ô Arglwydd, y nefoedd a foliannant dy ryfeddod, a’th wirionedd yng-hynnulleidfa y sainct.

6Canys pwy yn yr wybrennau a gystedlir â’r Arglwydd? a gyffelybir i’r Arglwydd ym mysc y duwiau?

7Duw sydd ofnadwy iawn yng-hynnulleidfa’r sainct: ac iw arswydo yn ei holl amgylchoedd.

8O Arglwydd Dduw’r lluoedd pwy sydd fel tydi yn gadarn Ior, a’th wirionedd o’th amgylch?

9Ti ydwyt yn llywodraethu ymchwydd y môr, pan gyfodo ei donnau ti ai gostegi.

10Ti a drybaeddaist yr Aipht fel lladdedic: drwy nerth dy fraich y gwascêraist dy elynnion.

11Y nefoedd eiddo ti, a’r ddaiar eiddo ti: ti a seiliaist y bŷd ac sydd ynddo.

12Ti a greaist ogledd a dehau: Thabor a Hermon a lawenŷchant yn dy enw.

13[Y mae] i ti fraich, a chadernid, cadarn yw dy law, ac vchel yw dy ddeheu-law.

14Cyfiawnder, a barn trigfa dy orseddfaingc: trugaredd a gwirionedd a ragflaenant dy wyneb.

15Gwyn ei fyd y bobl y rhai a fedrant lawenychu yn llewyrch dy wyneb ô Arglwydd y rhodiant hwy.

16Yn dy enw di y gorfoleddant beunydd, ac yn dy gyfiawnder yr ymdderchafant.

17Canys godidawgrwydd eu cadernid hwynt ti, ac o’th ewyllys dâ y derchefi ein cyrn ni.

18Canys o’r Arglwydd ein tarian ac o Sanct Israel ein Brenin.

19Yna’r ymddiddenaist mewn gweledigaeth a’th sainct, ac a ddywedaist, gosodais gymmorth ar cadarn: ac a dderchefais vn etholedic o’r bobl.

20Cefais Ddafydd fyng-wasanaeth-wr eneiniais ef a’m holew sanctaidd.

21Yr hwn y cadarnheuir fy llaw gyd ag ef: a’m braich ai nertha ef.

22Ni orthrymma y gelyn ef, a’r mab anwir nis cystuddia ef.

23Canys coethaf ei elynnion oi flaen, ai gaseion a darawaf.

24Fyng-wirionedd hefyd, a’m trugaredd gyd ag ef: ac yn fy enw y derchefir ei gorn ef.

25A gosodaf ei law ar y môr, ai ddeheulaw yn yr afonydd.

26Efe a’m geilw ti fy Nhâd, fy Nuw a chraig fy iechydwriaeth.

27Minne ai rhoddaf yntef yn gynfab, goruchaf ar frenhinoedd y ddaiar.

28Cadwaf iddo fy nhrugaredd yn dragywydd: a’m cyfammod fydd ffyddlon iddo ef.

29Gosodaf hefyd ei hâd yn dragywydd: ai orsedd-faingc fel dyddiau y nefoedd.

30Os ei feibion a adawant fyng-hyfraith: ac ni rodiant yn fy marnedigethau.

31Os fy neddfau a halogant: a’m gorchymynnion ni chadwant.

32Yna gofwyaf eu camwedd â gwialen, ai hanwiredd â ffrewyllau.

33Ond ni thorraf fy nhrugaredd oddi wrtho ef: ac ni phallaf o’m gwirionedd.

34Ni thorraf fyng hyfammod: ac ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan o’m genau.

35Tyngais vnwaith i’m sancteiddrwydd na phallwn i Ddafydd

36Bydd ei hâd ef yn dragywydd: ai orseddfaingc fel yr haul ger fy mron i.

37Siccrheir ef yn dragywydd fel y lleuad, ac y tystion ffyddlon yn yr wybr.Selah.

38Ond ti a ffieiddiaist, ac a ddiystyraist, a ddigiasit wrth dy eneiniog.

39Diddymmaist gyfammod dy wâs, halogaist ei goron i lawr.

40Drylliaist ei holl gaeau ef, gosodaist ei amddeffynfeudd yn adwyau.

41Yr holl fforddolion ai hyspeiliasant ef: aeth yn warthrudd i’w gymmydogion.

42Derchefaist ddeheu-law ei wrthwyneb-wŷr ef, a llawenheaist ei holl elynnion ef.

43Troaist hefyd fin ei gleddyf, ac ni chadarn-heaist ef mewn rhyfel.

44Peraist iw lendid ddarfod, a bwriaist ei orsedd-faingc i lawr.

45Byrheaist ddyddiau ei ieuengctid, thoaist gywilydd trosto ef.Selah.

46Pa hŷd Arglwydd yr ymguddi?’n dragywydd? a lysc dy ddigofaint ti fel tân?

47Cofia pa oes sydd mi, pa ham y creaist holl blant dynnion yn ofer?

48Pa ŵr a fydd byw, ac ni wêl farwolaeth? a wared ei enaid o feddiant vffern? Selah.

49Pa lê y mae dy hên drugareddau ô Arglwydd a dyngaist i Ddafydd yn dy wirionedd?

50Cofia ô Arglwydd wradwydd dy weision, a ddygais yn fy monwes holl bobloedd fawrion.

51A’r hwn y gwarthruddodd dy elynnion ô Arglwydd, y rhai a gablasant ôl troed dy eneiniog.

52Bendigêdic fyddo’r Arglwydd yn dragywydd, felly y byddo, ac Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help