Psalmau 40 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. xl.Expectans expectaui.Psalm Dafydd at y pen-cerdd.

1Disgwiliais yn ddyfal am yr Arglwydd, ac efe a ostyngodd attaf: ac a glybu fy llefain.

2Cyfododd fi hefyd o’r pydew terfyscus allan o’r pridd tomlyd: ac a osododd fy nhraed ar graig, gan hwylio fyng-herddediad.

3A rhoddodd yn fyng-enau ganiad newydd o foliant i’n Duw ni: llawer a wêlant ac a ofnant, ac a ymddyriedant yn yr Arglwydd.

4Gwyn ei fyd y gŵr yr hwn a osodo’r Arglwydd yn ymddyried iddo: ac ni thrŷ at feilchion, nac at y rhai a droant at gelwydd.

5Lluosog y gwnaethost ti fy Arglwydd Dduw dy ryfeddodau, a’th amcannion i ni, ni yn drefnus eu cyfrif i ti: mi ai mynegwn, ac ai traethwn amlach ydynt nag y gellir eu rhifo hwynt.

6Aberth a bwyd offrwm ni’s ewyllysiaist, agoraist i’m glustiau: poeth offrwm a phech aberth ni’s gofynnaist.

7Yna y dywedais, wele’r ydwyf yn dyfod, yn rhol y llyfr yr scrifennwyd am danaf.

8Ewyllysiais wneuthur dy fodd fy Nuw: a’th gyfraith o fewn fyng-halon.

9Pregêthais gyfiawnder yn y gynnulleidfa fawr: wele nid attaliaf fyng-wefusau, ti Arglwydd ai gwyddost.

10Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fyng-halon, treuthais dy wirionedd a’th iechydwriaeth: ni chelais dy drugâredd na’th wiriônedd yn y gynnulleidfa luosog.

11Tithe Arglwydd nac attal dy drugarêddau oddi wrthif: cadwed dy drugaredd, a’th wirionedd fi bŷth.

12Canys drŷgau anifeiriol a gylchynâsant o’m hamgylch, fy mhechodau a’m daliasant fel na allwn edrych amlach ydynt nâ gwallt fy mhen, am hynny y pallodd fyng-halon gennif.

13Rhynged bodd it Arglwydd, fyng-waredu: bryssia Arglwydd i’m cymmorth.

14Cyd-gywilyddier, a gwradwydder y rhai a geisiant fy enioes iw difetha, troer yn eu hôl, a chywilyddier y rhai a ewyllysiant i mi ddrwg.

15Diffeithier yn lle gobrwy eu gwaradwydd, y rhai a ddywedant wrthif, ffei, ffei.

16Llawenyched, ac ymhyfryded ynot ti y rhai oll a’th geisiant di: dyweded y rhai a garant dy iechydwriaeth bôb amser, mawryger yr Arglwydd.

17Er fy mod i yn wann, ac yn druan, yr Arglwydd a feddwl am danaf, fyng-hymmorth a’m gwaredudd ti: fy Nuw, na hîr drîga.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help