Psalmau 136 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. cxxxvj.

1 Clodforwch yr Arglwydd canys da o herwydd ei drugaredd yn dragywydd.

2Clodforwch Dduw’r duwiau: o blegit ei drugaredd yn dragywydd.

3Clodforwch Arglwydd yr arglwyddi: o herwydd ei drugaredd yn dragywydd.

4Yr hwn yn vnic sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: canys ei drugaredd yn dragywydd.

5Yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb: o herwydd ei drugaredd yn dragywydd.

6Yr hwn a estynnodd y ddaiar ar y dyfroedd: o blegit ei drugaredd yn dragywydd.

7Yr hwn a wnaeth oleuadau mawrion: canys ei drugaredd yn dragywydd.

8Yr haul i lywodraethu’r dydd: canys ei drugaredd yn dragywydd.

9Y lleuad, a’r sêr i lywodraethu’r nos: canys ei drugaredd yn dragywydd.

10Yr hwn a darawodd yr Aipht, ai chyntaf-anedic: o herwydd ei drugaredd yn dragywydd.

11Ac a ddug Israel oi mysc hwynt: o herwydd ei drugaredd yn dragywydd.

12A llaw gref, ac â braich estynnedic: o herwydd ei drugaredd yn dragywydd.

13Yr hwn a rannodd y môr côch yn dau: o herwydd ei drugaredd yn dragywydd.

14Ac a wnaeth i Israel fyned trwy ei ganol: o herwydd ei drugaredd dragywydd.

15Ac a escyttiodd Pharao ai lû yn y môr côch: o herwydd ei drugaredd yn dragywydd.

16Ac a dywysodd ei bobl drwy’r anialwch: o herwydd ei drugaredd yn dragywydd.

17Yr hwn a darawodd frenhinoedd mawrion: o herwydd ei drugaredd yn dragywydd.

18Ac a laddodd frenhinoedd ardderchog: o herwydd ei drugaredd yn dragywydd.

19Sehon brenin yr Amoriaid: o herwydd ei drugaredd yn dragywydd.

20Ac Og brenin Basan: o herwydd ei drugaredd yn dragywydd.

21Ac a roddodd eu tîr hwynt yn etifeddiaeth: o herwydd ei drugaredd yn dragywydd.

22Yn etifeddiaeth i Israel ei wâs: o herwydd ei drugaredd yn dragywydd.

23Yr hwn yn ein cystudd a’n cofiodd ni: o herwydd ei drugaredd yn dragywydd.

24Ac a’n hachubodd ni oddi wrth ein gelynnion: o herwydd ei drugaredd yn dragywydd.

25Yr hwn sydd yn rhoddi ymborth i bôb cnawd: canys ei drugaredd yn dragywydd.

26Clodforwch Dduw’r nefoedd: canys ei drugaredd yn dragywydd.

27 Clodforwch Arglwydd yr Arglwyddi: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help