1A Salomon 1.Bren.6.1.a ddechreuodd adailadu tŷ yr Arglwydd yn Ierusalem ym mynydd Moria: lle yr ymddangosase i Ddafydd ei dad ef yn y lle yr hwn a ddarparase Dafydd yn llawr dyrnu 2.Sam.24.16.Ornan y Iebusiad.
2Ac efe a ddechreuodd adailadu ar yr ail o’r ail mîs, yn y bedwaredd flwyddyn oi deyrnasiad ef.
3Ac dymma sylfaeniad Salomon wrth adailadu tŷ Dduw, yr hyd o gufyddau wrth y mesur cyntaf yn dri vgain cufydd, a’r lled yn vgain cufydd.
4A’r porth yr hwn wrth dalcen hŷd y tŷ vn hŷd a lled y tŷ yn vgain cufydd, ai vchter yn chwech vgain cufydd, ac efe a oreurodd hwn o fewn ag aur pûr.
5A’r tŷ mawr a fyrddiodd efe a ffynnid-wŷdd, ac ai goreurodd ag aur da, ac a gerfiodd balm-wŷdd, a chadwynau ar hyd-ddo ef.
6Ac efe a wiscodd y tŷ a meîni gwerthfawr yn hardd, a’r aur aur Parfaim.
7Ie efe a oreurodd y tŷ, y trawstydd, y rhiniogau, ei barwydydd hefyd, ai ddorau ag aur: ac efe a gerfiodd Gerubiaid ar y parwydydd.
8Ac efe a wnaeth dŷ y cyssegr sancteiddiolaf, ei hŷd vn hyd a llêd y tŷ yn vgain cufydd, ai lêd yn vgain cufydd: ac efe ai goreuodd ef ag aur dâ a chwe-chant talent.
9Ac pwys yr hoelion o ddêc sicl a deugain o aur, y llofftydd hefyd a oreurodd efe ag aur.
10Ac efe a wnaeth yn nhŷ y cyssegr sancteiddiolaf ddau Gerub ar waith bechgin, ac ai gwiscasant hwynt hefyd ag aur.
11Ac 1.Bren.6.24.adenydd y Cerubiaid vgain cufydd eu hyd, y naill aden o bump cufydd yn cyffwrdd a phared y tŷ: a’r aden arall o bump cufydd yn cyffwrdd ag aden y Cerub arall.
12Ac aden y Cerub arall o bump cufydd yn cyffwrdd a phared y tŷ, a’r aden arall o bump cufydd yng-lyn wrth aden y Cerub arall.
13Adenydd y Cerubiaid hyn a ledwyd yn vgain cufydd, a hwythau oeddynt yn sefyll ar eu traed, ai hwynebau tu ag i fewn.
14Ac efe a wnaeth wahan-lenn o sidan glâs, a phorphor, ac scarlet, a lliain main, ac a gerfiodd Gerubiaid ar hynny.
15Gwnaeth hefyd ddwy golofn o flaen y tŷ, yn bymthec cufydd ar hugain o hŷd, a chap yr hwn ar ei phen o bum cufydd.
16Ac efe a wnaeth gadwyni wrth y gafell, ac ai rhoddodd ar benn y colofnau: ac efe a wnaeth gant a bomgranadau, ac ai rhoddodd ar y cadwynau.
17A chyfododd y colofnau o flaen y deml, 1.Bren.7.20.vn o’r tu dehau, ac vn o’r tu asswy, ac a alwodd henw yr dehau Iachin, a henw yr asswy Boaz.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
