Exodus 26 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXVI.1 Llûn y babell. 31 Y llenn. 33 Llê’r Arch: 34 Lle y drugareddfa, a’r bwrdd, a’r canhwyll-bren. 36 Y llen ar ddrws y babell.

1Y Tabernacl hefyd a wnei di o ddêc llenn o sidan gwyn cyfrodedd, ac o sidan glâs, a phorphor, ac scarlat yn Gerubiaid o gywreinwaith y gwnei hwynt.

2Hŷd vn llenn wyth gufydd ar hûgain, a llêd vn llenn pedwar cufydd, yr vn mesur a fydd i’r holl lennî.

3Pum llenn a fyddant yng-lŷn bob vn wrth ei gilydd, a phum llenn a fyddant yng-lŷn wrth ei gilydd.

4A gwna ddolennau o sidan glâs ar ymyl vn llenn, ar y cwrr yn y cydiad, ac felly y gwnei ar ymyl llenn eithaf, yn yr ail cydiad.

5Dêc dolen a deugain, a wnei di i vn llenn, a dêc dolen a deugain a wnei ar gwrr y llenn yr hon yn yr ail cydiad: y dolennau a dderbyniant bob vn ei gilydd.

6Gwna hefyd ddêc derbyniad a deugain o aur, a chydia a’r derbyniadau y llenni bob vn wrth ei gilydd, fel y byddo yn vn tabernacl.

7A gwna lenni o geifr yn babell-len ar y tabernacl, yn vn llenn ar ddêc a y gwnei hwynt.

8Hŷd vn llenn dêc cufydd ar hugain, a llêd vn llen pedwar cufydd, a’r vn mesur i’r vn llen ar ddêc.

9A chydia bum llenn wrthynt eu hun, a chwe llenn wrthynt eu hun, a dybla y chweched lenn ar gyfer wyneb y babell-len.

10A gwna ddêc dolen a deugain ar ymyl y naill lenn ar y cwrr yn y cydiad, a dêc dolen a deugain ar ymyl y llenn yn yr ail cydiad.

11A gwna ddêc derbyniad a deugain o brês; a dôd y derbyniadau yn y dolennau, a chylymma y babell-len fel y byddo yn vn.

12A’r gweddill a fyddo tros benn o lenn y babell-len yr hanner llenn weddill a adewir ar du cefn y tabernacl

13Fel o’r gweddill gufydd o’r naill dû, a chufydd o’r tu arall, o hŷd y babell-len: bydded y gweddill dros ddau ystlys y tabernacl o bob-tu iw orchguddio.

14A gwna dô i’r babell-len o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a thô o grwyn daiar-foch yn vchaf.

15A gwna styllod o goed Sittim i’r tabernacl yn eu sefyll.

16O ddêc cufydd o hŷd yr styllen, ac o gufydd a hanner cufydd o lêd mewn pob styllen.

17[Bydded] dau dŷno i vn bwrdd, wedi gosod fel ffynn yscal, pob vn ar gyfer ei gylydd: felly y gwnei am holl fyrddau y tabernacl.

18A gwna styllod i’r tabernacl, vgain styllen o’r tu dehau, tu a’r dehau.

19A gwna ddeugain mortais arian tann yr vgain styllen, dwy fortais tann vn styllen iw dau dŷno, a dwy fortais tan styllen arall iw dau dŷno.

20A i ail ystlys y tabernacl, o du’r gogledd vgain styllen.

21A deugain mortais o arian dwy fortais tann bob styllen,

22Hefyd i ystlys y tabernacl o du’r gorllewin y gwnei chwech styllen.

23A dwy styllen a wnei i gonglau y tabernacl rhwng y ddau ystlys.

24A byddant wedi eu cyssylldu oddi tanodd, byddant hefyd wedi eu cyd gydio oddi arnodd wrth vn fodrwy: felly y bydd iddynt ill dau, ŷn y ddwy gongl y byddant.

25A byddant yn wyth styllen, ai morteisiau arian yn vn mortais ar bymthec, dwy fortais dann vn styllen, a dwy fortais tann styllen arall.

26Gwna hefyd farrau o goed Sittim, pump i styllod vn ystlys i’r tabernacl.

27A phum barr i styllod ail ystlys y tabernacl, a phum barr i ystlys y tabernacl o du’r gorllewin.

28A’r barr canol Cerubiaid o waith cywreint y gwnei hi.

32A dod hi ar bedair colofn o Sittim wedi eu goreuro ag aur, ai pennau o aur, ar bedair mortais arian.

33A dod y wahan-len wrth y derbynniadau, fel y gellech ddwyn yno o fewn y wahan-lenn Arch y destiolaeth, a’r wahan-lenn a wna wahan i chwi rhwng y cyssegr, a’r cyssegr sancteiddiolaf.

34Dod hefyd y drugareddfa ar Arch y destiolaeth yn y cyssegr sancteiddiolaf.

35A gosot y bwrdd o’r tu allan i’r wahan-lenn, a’r canhwyll-bren gyferbyn a’r bwrdd, ar y tu dehau i’r tabernacl: a dod y bwrdd ar du y gogledd,

36A gwna gaead-lenn i ddrws y babell, o sidan glâs porphor, ac scarlat, ac o sian gwyn cyfrodedd o wniad-waith.

37A gwna i’r gaead-len bum colofn, Sittim, a goreura hwynt ag aur, ai pennau o aur, a bwrw iddynt bump mortais brês.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help