1Dymma hefyd yr offeiriaid a’r Lefiaid y rhai a ddaethant i fynu gyd a Zorobabel mab Salathiel, ac Iesua: Seraiah, Ieremia, Esdras.
2Amaria, Maluc, Hattus.
3Secania, Rehum, Meremoth.
4Ido, Ginnethon, Abiiah.
5Mitamin, Maadia, Bilga.
6Semaiah, ac Ioiarib, Iedaiah.
7Salu, Amoc, Helcia, Iedaiab: dymma bennaethiaid yr offeiriaid ai brodyr hwynt yn nyddiau Iesua.
8A’r Lefiaid: Iesua, Binnui, Cadmiel Serebiah, Iuda, Mattani ar y gerdd efe ai frodyr.
9Bachucia hefyd, ac Unni, eu brodyr hwynt ar eu cyfer yn y gwiliadwriaethau.
10Ac Iesua a genhedlodd Ioiacim: ac Ioiacim a genhedlodd Eliasib, ac Eliasib a genhedlodd Ioiada.
11Ac Ioiada a genhedlodd Ionathan, ac Ionathan genhedlodd Iadua.
12Ac yn nyddiau Ioiacim, yr offeiriaid oeddynt bennau cenedl: o Seraiah Meraiah, o Ieremia, Hanania.
13O Esdras Mesulam, o Amariah Iehohanan.
14O Melicu Ionathan, o Sebaniah Ioseph.
15O Harim Adna, o Meraioth Helcai.
16O Ido Zechariah, o Ginnethon Mesulam.
17I Abliah Zichri: o Miniamina Moadiah Piltai.
18O Bilga Samua, o Semaiah Ionathā.
19Ac o Ioiarib Mattenai, o Iedaia Uzzi.
20O Salai Calai, o Amoc Eber.
21O Helciah Hasabeiah, o Iedaiah Mathanel.
22Y Lefiaid yn nyddiau Eliasib, Ioiada, ac Iohanan, ac Iaduah wedi scrifennu yn bennau cenedl: a’r offeiriaid ar deyrnasiad Darius y Persiad.
23Meibion Lefi wedi eu scrifennu ([sef] y pennau) yn llyfr y Cronicl hyd ddyddiau Iohanan mab Eliasib.
24A phennaethiaid y Lefiaid Hasabiah, Serebiah, ac Iesua mab Cadmiel, ai brodyr hwynt ar eu cyfer, i ogoneddu, i foliannu yn ôl gorchymyn Dafydd gŵr Duw: gwiliadwriaeth ar gyfer gwiliadwriaeth.
25Mattaniah, a Bacbuciah, O badia, Mesulam, Talmon, Accub yn borthorion yn cadw gwiliadwriaeth yn nhrothwyau y pyrth.
26Y rhai hyn yn nyddiau Ioiacim fab Iesua, fab Iosadac: ac yn nyddiau Nehemias y tywysog, ac Esdras ’r offeiriad, scrifennudd.
27Ac yng-hyssegriad mur Ierusalem y ceisiasant y Lefiaid oi holl leoedd iw dwyn hwynt i Ierusalem, i wneuthur cyssegriad, a gorfoledd, mewn diolchgarwch, ac mewn cân, a Symbalu, nablau, ac a thelynau.
28Yna meibion y cantorion a ymgynnullasant o’r gwastadedd o amgylch i Ierusalem, ac o drefydd Necophati.
29Ac o dŷ Gilgal, ac o feusydd Geba, ac Azmafeth: canys y cantorion a adailadasent drefydd iddynt o amgylch Ierusalem.
30Yr offeiriaid hefyd, a’r Lefiaid a ymlanhausant: glanhausant hefyd y bobl, a’r pyrth, a’r mur.
31A mi a berais i dywysogiō Iuda ddringo ar y mûr: a gosodais ddwy fawr o rai yn moliannu, a mynediad ar y llaw ddehau ar y mûr tua phorth y domm.
32Ac ar eu hôl hwynt yr aeth Hosaiah, a hanner tywysogion Iuda.
33Azariah hefyd, Esdras, a Mesulam.
34Iuda, a Beniamin, Semaiah hefyd, ac Ieremia.
35Ac o feibion yr offeiriaid ag vdcyrn: Zechariah mab Ionathan, fab Semaiah, fab Mathaniah, fab Michaia, fab Zaccur, fab Asaph.
36Ai frodyr ef Semaiah, ac Azarel, Milalai, Gilalai, Mai, Nethaniel, ac Iuda, Hanani ag offer cerdd Dafydd gŵr Duw: ac Esdras yr scrifennudd oi blaen hwynt.
37A thua phorth y ffynnon, yr hon ar eu cyfer hwynt y dringasant ar risiau dinas Dafydd yn nringfa y mûr: oddi ar dŷ Ddafydd hyd borth y dwfr tua’r dwyrain.
38A’r ail o’r rhai oeddynt yn moliannu oedd yn myned o’r tu arall, a minnef ar eu hôl: a hanner y bobl ar y mur, ar dŵr y ffyrnau hyd y mûr llydan.
39Ac oddi ar borth Ephraim, sef ar yr hên borth, ac ar borth y pyscod, a thŵr Hananeel, a thŵr Meah, hyd borth y defaid: a hwynt a safasant ym mhorth y wiliadwriaeth.
40Felly y ddwy y rhai oeddynt yn moliannu a safasant yn nhŷ Dduw: minne hefyd, a hanner y swyddogion gyd a mi.
41Yr offeiriaid hefyd, Eliacim, Maaseiah, Miniamin, Michaiah, Elioenai, Zechariah, Hananiah ag vdcyrn.
42Maeseiah hefyd, a Semaiah, ac Eleazar, ac Uzzi, ac Iehohanan, Malciah hefyd ac Elam, ac Ezer: a’r cantorion a ganâsant yn grôch, ac Izrahiah y blaenor.
43A’r diwrnod hwnnw’r aberthasant ebyrth mawrion, ac y llawenychasant, canys Duw ai llawenhause hwynt a llawenydd mawr, y gwragedd hefyd, a’r plant a orfoleddasant: fel y clywyd llawenydd Ierusalem hyd ym mhell.
44A’r dwthwn hwnnw y swyddwyd gwyr ar gelloedd y tryssorau, ar yr offrymmau, ar y blaen-ffrwyth, ac ar y degymmau i gasclu iddynt hwy o feusydd y dinasoedd y rhannau cyfreithlon i’r offeiriaid, a’r Lefiaid: canys llawenydd Iuda ar yr offeiriaid, ac ar y Lefiaid rhai oeddynt yn sefyll
45Y cantorion hefyd a’r porthorion a gadwasant wiliadwriaeth eu Duw, a gwiliadwriaeth y glanhâd, yn ôl gorchymyn Dafydd, Salomon ei fab.
46Canys 1.Cron.15.16.gynt yn nyddiau Dafydd, ac Asaph y penn cantorion, a chaniadau canmoliaeth, a moliant i Dduw.
47Ac yn nyddiau Zorobabel, ac yn nyddiau Nehemias, holl Israel oeddynt yn rhoddi rhannau i’r cantorion, a’r porthorion, dogn dydd yn ei ddydd: a hwynt a offrymmasant i’r Lefiaid, a’r Lefiaid a offrymmasant i feibion Aaron.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.