Esay 60 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. LX.Galwedigaeth y cenhedloedd drwy bregethiad yr efangyl. 15 Daioni Duw iw eglwys.

1Cyfot, llewyrcha, canys daeth dy oleuni, a thywynndodd gogoniant yr Arglwydd arnat

2Canys wele tywyllwch a orchguddia y ddaiar, a achwmwl y bobloedd: ond arnat ti y tywynna yr Arglwydd, ai ogoniant a welir arnat.

3Cenhedloedd hefyd a rodiant at dy oleuni, a brenhinoedd yn niscleirded dy dywyniad.

4Cyfot dy lygaid oddi amgylch, ac edrych, ymgasclasant hwy oll daethant attat: dy feibion a ddeuant o bell, a’th ferched a dadmeithir wrth dy ystlys.

5Yna y cei weled, ac yr ymddiscleiri, dy galon hefyd a ddychryna, ac a helaethir, am droir attat luosogrwydd y môr, golud y cenhedloedd a ddeuant i ti.

6Mintai o gamêlod a’th orchguddiant, cyflym gamêlod Madian ac Epha: hwynt oll o Saba a ddeuant, aur a thus a ddygant, a moliant yr Arglwydd a fynegant.

7Holl ddefaid Cedar a ymgasclant attat ti, hyrddod Nebaioth a’th wasanaethant: hwy a ddeuant i fynu yn ewyllyscar ar fy allor, ac mi a anrhydeddaf dŷ fyng-ogoniant.

8Pwy y rhai hyn a ehedant fel cwmwl? ac fel colommennod iw ffenestri?

9Canys yr ynysoedd a’m disgwiliant, a llongau Tharsis yn bennaf, i ddwyn dy feibion o bell, eu harian ai haur gyd â hwynt, i enw’r Arglwydd dy Dduw, ac i Sanct Israel, canys efe a’th ogoneddodd di.

10Meibion dieithr a adailadant dy furiau, ai brenhinoedd a’th wasanaethant, canys yn fy nîg i’th darewais, ac o’m trugaredd fy hun y tosturiais wrthit.

11A’th byrth a agorir yn wastad, ni cheuir hwynt ddydd na nôs, i ddwyn attat olud y cenhedloedd, eu brenhinoedd hwynt hefyd a ddygir

12Canys y genhedlaeth ar deyrnas yr hon ni’th wasanaetho di a ddifethir: a’r cenhedloedd hynny a lwyr ddinistrir.

13Gogoniant Libanus a ddaw attat, y ffynid-wŷdd, ffawydd, ac yspyddaid yng-hyd, i harddu lle fyng-hyssegr, harddaf hefyd le fy nhraed.

14A meibion dy gystudd-wŷr a ddeuant attat yn ostyngedic: a’r rhai oll a’th ddiystyrâsant a ymostyngant hyd wadnau dy draed, ac a’th alwant yn ddinas yr Arglwydd, yn Sion Sanct Israel.

15Lle y buost yn wrthodedic, ac yn gâs, ac heb gynniwerudd gosodaf di yn ogoniant tragywyddol, yn llawenydd drwy yr holl oesoedd.

16Sugni hefyd laeth y cenhedloedd, îe bronnau brenhinoedd a sugni, a chei ŵybod mai myfi’r Arglwydd dy achubudd, a’th waredudd cadarn Iacob.

17Yn lle prês y dygaf aur, ac yn lle haiarn y dygaf arian, ac yn lle coed, prês, ac yn lle cerrig, haiarn, a gosodaf dy swyddogion yn heddychol, a’th dreth-wŷr yn gyfiawn.

18Ni chlywir mwy drais yn dy wlâd, destruw, na dinistr yn dy derfynau: eithr cyhoeddi iechydwriaeth ar dy fagwyrydd, a moliant dy byrth.

19Ni bydd yr haul i ti mwyach yn oleuni y dydd, a’r lleuad ni oleua yn llewyrch it: eithr yr Arglwydd fydd i ti yn oleuni tragywyddol, a’th Dduw yn ogoniant i ti.

20Ni fachluda dy haul mwyach, a’th leuad ni phalla, o herwydd yr Arglwydd dy Dduw fydd i ti yn oleuni tragywyddol, a dyddiau dy alar a ddarfyddant.

21Dy bobl hefyd fyddant gyfiawn oll, etifeddant y tîr byth, impin fy mhlanhigion, gwaith fy nwylo fel i’m gogonedder.

22Y bychan a fydd yn fil, a’r gwael yn genhedl gref, myfi’r Arglwydd a bryssuraf hynny yn ei amser.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help