1Am hynny gan ein cyfiawnhau trwy ffydd y mae gennym heddwch tu ag at Dduw trwy ein Harglwydd Iesu Grist.
2 Ephe.2.18. Trwy’r hwn hefyd y mae i ni ddyfodfa trwy ffydd i’r grâs hyn, yn yr hwn yr ydym yn sefyll, ac yn ymlawenychu tann obaith gogoniant Duw.
3Ac nid yn vnic, eithr hefyd Iac.1.2.yr ydym yn ymlawenychu mewn gorthrymderau gan ŵybod fod gorthrymder yn peri dioddefgarwch,
4A dioddefgarwch brofiad, a phrofiad obaith:
5A gobaith ni chywilyddia, am fod cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau, trwy yr Yspryd glân yr hwn a roddwyd i ni,
6Canys Crist pan oeddem ni yn ddinerth, yn yr amser a fu farw tros Heb.9.15. 1.pet.3.18.rai annuwiol.
7Diau mai braidd y bydd nêb farw tros vn cyfiawn, er hynny tros da fe alle y bydde vn farw.
8Eithr y mae Duw yn eglurhau ei gariad, tu ag attom, (o blegit a nyni etto yn bechaduriaid) marw o Grist trosom.
9Mwy ynte o lawer gan ein cyfiawnhau ni trwy ei waed ef, i’n hachubir rhag digofaint trwyddo ef.
10Canys os pan oeddem elynion, i’n heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fâb ef, mwy o lawer wedi ein heddychu, i’n achubir trwy ei fywyd ef.
11Ac nid yn vnic, eithr ymlawenychu yr ydym hefyd yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, gan yr hwn yr awr hon y derbyniasom y cymmod.
12Am hynny megis trwy vn dŷn y daeth pechod i’r bŷd, a marwolaeth trwy bechod, ac felly yr aeth marwolaeih ar bôb dyn, yn gymmaint a phechu o bawb.
13Canys hyd amser y ddeddf yr oedd pechod yn y byd: eithr ni chyfrifir pechod, pryd nad oes ddeddf.
14Eithr teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, arnynt hwy hefyd y rhai ni phechasant yn ôl cyffelybiaeth camwedd Adda, yr hwn yw ffurf yr vn a ddeue.
15Eithr nid yw’r dawn felly megis y mae’r camwedd: o blegit os trwy gamwedd vn y bu feirw llawer, mwy o lawer yr amlhauodd grâs Duw, a’r dawn trwy râs yr vn dyn Iesu Grist i laweroedd.
16Ac nid yw’r dawn trwy’r vn a bechodd: canys y farn a o’r vn i gondemniad: eithr y dawn sydd o gamweddau lawer i gyfiawnhâd.
17Canys os trwy gamwedd vn y teyrnasodd angeu trwy vn, mwy o lawer y teyrnasa y rhai a dderbyniasant y lliosogrwydd o râs, ac o ddawn y cyfiawnder, ym mywyd, trwy yr vn, Iesu Grist.
18Canys yr vn modd megis trwy gamwedd vn ar bob dyn i gondemniad, felly trwy gyfiawnhâd vn, i bôb dŷn, er cyfiawnhâd bywyd.
19O blegit megis trwy anufydd-dod vn dyn, y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid: felly trwy vfydd-dod vn y gwneir llawer yn gyfiawn.
20Eithr y ddeddf a ddaeth i mewn, fel yr amlhaue y camwedd: eithr lle yr amlhauwyd pechod yr amlhaodd grâs yn fwy o lawer
21Fel megis y teyrnassodd pechod i angeu, felly hefyd y teyrnase grâs trwy gyfiawnder i fywyd tragywyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.