1Y dydd hwnnw yr ymwel yr Arglwydd ai gleddyf caled, mawr a chadarn yn erbyn a Lefiathan y sarph hîr-braff, îe yn erbyn Lefiathan y sarph dorchoc: ac efe a ladd y ddraig yr hon yn y môr.
2Yn y dydd hwnnw gwinllan y gwîn coch: cenwch iddi.
3Myfi’r Arglwydd ai ceidw; ar moment y dyfrhaf hi, cadwaf hi nôs a dydd rhac ymweled â hi.
4Nid lidiawgrwydd ynof, pwy a osode fieri a drain yn fy erbyn mewn rhyfel? myfi a awn trwyddynt, mi ai lloscwn hwynt yng-hyd.
5Neu a ymeifl a’m nerth i? gwnaed heddwch â mi, gwnaed heddwch â mi.
6Efe a wna i hiliogaeth Iacob wreiddio, Israel a flodeua, ac a flaendardda, fel y llawnant wyneb y byd â chnwd.
7A darawodd efe ef, fel y tarawodd yr hwn ai tarawse ef? a laddwyd ef fel lladdfa lladdedigion hwnnw?
8Wrth fessur y berni hon gan ei bwrw allan, efe a fwriodd ymmaith ai wynt caled, ar ddydd dwyrein-wynt.
9Am hynny trwy hyn y maddeuir anwiredd Iacob, ac dymma’r holl ffrwyth, tynnu ymmaith ei bechod: pan osodo efe holl gerric yr allor fel cerric calch briwedic, ni saif y llwyni, na’r delwau.
10Os amgen, y ddinas gadarn vnic, annedd wedi ei adel, ai wrthod megis yn anialwch, yno y pawr y llô, ac y gorwedd, ac y difa ei blagur hi.
11Pan wywo ei brîg hi, hwynt a ddryllir, gwragedd a ddeuant, ac ai llosgant hi: canys nid pobl ddeallgar ydynt: am hynny’r hwn ai gwnaeth ni thosturia wrthynt, a’r hwn ai llunniodd ni thrugarhâ wrthynt.
12A’r dydd hwnnw y bydd i’r Arglwydd ddyrnu o gamlas yr afon hyd afon yr Aipht: yna chwi meibion Israel a gesclir bôb yn vn.
13Ac yn y dydd hwnnw’r vdcenir ag vdcorn mawr, yna y daw y rhai ar ddifethwyd yn nhir Assyria, a’r rhai a wascarwyd yn nhir yr Aipht, ac a addolant yr Arglwydd yn y mynydd sanctaidd yn Ierusalem.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
