1Mor hawddgar dy bebyll di ô Arglwydd y lluoedd.
2Fy enaid a chwennychodd, ac a flysiodd hefyd am dy gynteddau di ô Arglwydd: fyng-halon a’m cnawd a orfoleddant yn Nuw byw.
3Aderyn y tô hefyd a gafodd dŷ, a’r wennol nŷth iddi, lle y gesid ei chywion: sef dy allorau di ô Arglwydd y lluoedd fy Mrenin a’m Duw.
4Gwynfyd presswylwŷr dy dŷ: yn wastad i’th foliannant.Selah.
5Gwyn ei fyd y dŷn y mae ei gadernid ynot, ffyrdd yn ei galon.
6Y rhai sydd yn myned trwy ddyffryn wylofain ai gosodant yn ffynnon, a’r glaw a leinw y llynnau.
7Ant o nerth i nerth, ymddengys ger bron Duw yn Sion.
8O Arglwydd Dduw’r lluoedd clyw fyng-weddi, gwrando ô Dduw Iacob.Selah.
9O Dduw ein tarian gwel, ac edrych wyneb dy eneiniog.
10Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mîl: dewiswn gadw drws yn nhŷ fy Nuw, o flaen trigo ym-mhebyll annuwioldeb.
11Canys haul, a tharian yw’r Arglwydd Dduw, yr Arglwydd a rydd râd a gogoniant: ni attal efe ddaioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith.
12O Arglwydd y lluoedd gwynfyd y dyn a ymddiriedo ynot.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
