1Scrifenna at angel eglwys Ephesus, hyn y mae yr hwn sydd yn dal y saith seren yn ei law ddehau, ac sydd yn rhodio yng-hanol y saith ganhwyll-bren aur, yn ei ddywedyd:
2Mi a adwen dy weithredoedd, a’th boen, a’th ddioddefgarwch, ac na elli gyd-ddwyn â’r rhai drwg, o phrofi o honot y rhai sy yn dywedyd eu bôd yn Apostolion, ac nid ydynt, a thi a’u cefaist hwynt yn gelwyddoc.
3A thi a oddefaist, ac yr ŵyt yn oddefgar, ac a gymmeraist boen er mwyn fy enw i, ac ni ddeffygiaist.
4Ac er hynny, y mae gennif yn dy erbyn, am i ti ymadel â’th gariad cyntaf.
5Meddylia am hynny o ba le y syrthiaist, ac edifarhâ, a gwna y gweithredoedd cyntaf, ac onid ê, mi a ddeuaf ar frŷs yn dy erbyn, ac a symmudaf dy ganhwyll-bren allan o’i le, oni ediferhei di.
6Ond hyn sydd gennif, dy fôt ti yn casâu gweithredoedd y Nicolaiaid, y rhai yr wyf i hefyd yn eu casâu.
7Y neb sydd â chlust ganddo gwrandawed, pa beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi, i’r gorchfygwr y rhoddaf fwyta o bren y bywyd, yr hwn sydd yng-hanol paradwys Dduw.
8Ac scrifenna at Angel eglwys yr Smyrniaid, hyn a ddywed yr hwn sydd gyntaf a diweddaf, yr hwn a fu farw, ac sydd yn fyw,
9Mi a adwen dy weithredoedd, a’th gystudd, a’th dlodi, (eithr yr ŵyt yn gyfoethog) ac gabledd y rhai sy yn dywedyd eu bod yn Iddewon, ac nid ydynt, ond y maent yn Synagog Satan.
10Nac ofna ddim o’r pethau a orfydd i ti eu goddef, wele, y cythrael a fwrw rai o honoch chwi i garchar, fel y gellir eich profi chwi: a chwi a gewch gystudd ddeng-nhiwrnod, bydd ffyddlon hyd farwolaeth, a mi a roddaf i ti goron y bywyd,
11Y nêb sydd â chlust ganddo, gwrandawed pa bêth a ddywed yr Yspryd wrth yr eglwysi, ni niweidir y gorchfygŵr gan yr ail farwolaeth.
12Ac scrifenna at angel eglwys Pergamus, hyn y mae efe yn ei ddywedyd yr hwn sydd a’r cleddyf llym dau finiog ganddo.
13Mi a adwen dy weithredoedd, a’th drig-le lle mae gorseddfaingc Satan, a thi a gedwaist fy enwi, a’m ffydd i ni’s gwedaist, ie yn y dyddiau pan laddwyd fy ffyddlon ferthyr Antipas yn eich plith chwi, lle y mae Satan yn trigo.
14Eithr y mae gennif ychydig bethau yn dy erbyn, canys y mae yno gennit rai yn dal dysc Num.23.14. hefyd.25.1.Balam, yr hwn a ddyscodd i Balac fwrw rhwystr ger bron meibion Israel, i beri iddynt fwytta o’r pethau a aberthasid i eulynnod, a godinebu,
15Felly hefyd y mae gennit rai yn dal dysc y Nicolaiaid, yr hyn bêth yr wyfi yn ei gasau.
16Edifarhâ, ac os amgen, mi a ddeuaf attat ar frys, ac a ryfelaf yn eu herbyn hwynt â chleddyf fyng-enau.
17Y nêb sydd â chlust ganddo gwrandawed pa bêth a ddywed yr Yspryd wrth yr eglywysi, i hwn a orchfygo, mi a roddaf iddo ef fwytta o’r Manna, yr hwn sydd guddiedic, ac mi a roddaf iddo ef gareg wen, ac yn y gareg henw newydd yn scrifennedic, yr hwn nid edwyn nêb, ond a’i derbynio,
18Scrifenna hefyd at angel Eglwys Thyatira, hyn y mae Mâb Duw yn ei ddywedyd, yr hwn sydd a’i lygaid fel fflam dân, a’i draed, fel prês coeth:
19Mi a adwen dy weithredoedd, a’th gariad, a’th wasanaeth, a’th ffydd, a’th ddioddefgarwch, a’th weithredoedd, a bôd yr hyn diweddaf yn fwy nâ’r cyntaf:
20Eithr y mae gennif ychydig bethau yn dy erbyn, a’m iti oddef y wraig honno 1.Bren.16.13.Iezabel, yr hon sydd yn ei galw ei hun yn brophwydes i ddyscu, ac i dwyllo fyng-wasanaethwŷr i odinebu, ac i fwytta bwydydd wedi eu haberthu i eulynnod,
21A mi a roddais amser iddi i edifarhâu am ei godineb, ac ni chymmerth hi edifeirwch.
22Wele, mi ai bwriaf hi i wely, a’r sawl a wnant odineb gyd â hi i gystudd mawr, onid edifarhânt a’m eu gweithredoedd,
23Ac mi a laddaf ei phlant hi â marwolaeth, a’r holl eglwysi a gydnabyddant mai 1.Sam.16.7. psal.7.10.|PSA 7:10. iere.11.20.|JER 11:20. hefyd.17.10.myfi ŵyf yr hwn sydd yn chwilio yr arennau, a’r calonnau, ac mi a roddaf i bôb vn o honoch yn ôl eich gweithredoedd.
24Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, ac i’r lleill yn Thyatira, pa sawl bynnac nid oes ganddynt y ddysc hon, ac ni adnabuant ddyfnder Satan, fel y dywedant) ni roddaf arnoch faich ar all,
25Ond y pêth sydd gennwch eusus, deliwch yn dda hyd oni ddelwyf.
26Canys yr vn a orfyddo, ac a gadwo fyngweithredoedd hyd y diwedd, mi a roddaf iddo ef, awdurdod ar genhedloedd, 26b ac efe a’u bugeilia hwynt â Psal.2.9.gwialen haiarn, a hwynt a ddryllir fel llestri pridd.
27Ac yn y môdd y derbynniais gā fy Nhâd, 27b felly y rhoddaf fi iddo ef y seren foreu.
28Y neb sydd â chlûst ganddo, gwrandawed pa bêth a ddywed yr Yspryd wrth yr eglwysi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.