Zacharias 6 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VI.Gweledigaeth y pedwar cerbyd.

1Hefyd mi a droais, ac a ddyrchefais fy llygaid, ac a edrychais; ac wele bedwar o gerbydau yn dyfod allan oddi rhwng dau fynydd, a’r mynyddoedd fynyddoedd o brês.

2Yn y cerbyd cyntaf meirch cochion: ac yn yr ail cerbyd meirch duon.

3Ac yn y trydydd cerbyd meirch gwynion, ac yn y pedwerydd cerbyd meirch brithion, gwineuon.

4Yna’r attebais, ac y dywedais wrth yr hwn a oedd yn ymddiddan â mi: beth y rhai hyn fy Arglwydd?

5A’r Angel a attebodd, ac a ddywedodd: dymma bedwar yspryd y nefoedd, yn dyfod allan o sefyll ger bron Arglwydd yr holl ddaiar.

6Yr hon meirch duon ynddi a aethant allan i dîr y gogledd; a’r gwynnion a aethant allan ar eu hôl hwythau, a’r brithion a aethant allan i’r deheu-dîr.

7A’r gwineuon a aethant allan, ac a geisiasant fyned i rodio’r bŷd, ac efe a ddywedodd, ewch, rhodiwch y byd: felly y rhodiasant y byd.

8Efe a waeddodd, ac a lafarodd wrthif, gan ddywedyd: edrych y rhai a aethant i dîr y gogledd, a lonyddasant fy Yspryd yn nhîr y gogledd.

9Yna y bu gair yr Arglwydd wrthif gan ddywedyd:

10Cymmer gan y carcharorion a ddaethant o Babilon, gan Heldai, Tobiah, a Iedaia, a thyret y dydd hwnnw, a dos i dŷ Iosiah fab Sophonia:

11A chymmer arian, ac aur, a gwna goron, a gosod am ben Iosuah fab Iosedec yr arch-offeiriad,

12A dywet wrtho gan ddywedyd: fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd: wele y gŵr ai enw Blagurun, oi lê hefyd y blagura, ac yr adailada Deml yr Arglwydd.

13Teml yr Arglwydd a adailada efe, ac efe a ddŵg glod, ac a eistedd, ac a lywodraetha ar ei frenhin-faingc, bydd yn offeiriad hefyd ar ei frenhin-faingc, a chyngor hedd a fydd rhyngddynt ill dau.

14A’r goron fydd i Helem, ac i Tobia, ac i Iedaia, ac i Hen fab Zophonia: er coffadwriaeth yn Nheml yr Arglwydd.

15Canys pelledigion a ddeuant, ac a adailadant yn Nheml yr Arglwydd, a chewch wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m anfonodd attoch, a a fydd, os gan wrando y gwrandewch ar lais yr Arglwydd eich Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help