1Yna Esdras a gyfododd o gyntedd y Deml, a aeth i stafell Ioannan mab Eliasib,
2Ac a arhosodd yno, ni fwytaodd fwyd, ac ni yfodd ddiod, eithr wylodd tros anwireddau mawrion y dyrfa.
3Ac fe a glyhoeddwyd drwy holl Iuda, ac Ierusalem, am i’r holl rai a’r a oeddynt o’r gaeth-glud ymgasclu yng-hyd i Ierusalem,
4A phwy bynnac ni chyfarfydde yno o fewn dau ddydd neu drî, fel y y gorchymynnase yr henuriaid y rhai oeddynt yn llywodraethu, eu hanifeiliaid hwynt a attafaelyd i gyfraid y Deml, ai wthio yntef allan o blith y rhai oeddynt o’r gaeth-glud.
5Yna yr holl rai a’r oeddynt o lwyth Iuda a Beniamin a ddaethant yng-hyd o fewn tridiau i Ierusalem y nawfed mîs, ar yr vgainfed o’r mîs.
6A’r holl gynnulleidfa yn crynu a eisteddasant yn ehangder y Deml, canys gaiaf ydoedd hi.
7Yna Esdras a gyfododd, ac a ddywedodd wrthynt hwy, chwi a bechasoch: o herwydd i chwi briodi estronesau, ac felly amlhau pechodau Israel.
8Yn awr gan hynny cyfaddefwch chwi, a rhoddwch ogoniant i Arglwydd Dduw ein tadau:
9A gwnewch ei ewyllys ef, ac ymnailltuwch chwi oddi wrth bobl y wlâd, ac oddi wrth y gwragedd dieithr.
10Yna yr holl dyrfa a waeddasant, ac a ddywedasant â llef vchel, nyni a wnawn fel y dywedaist ti.
11Ond o herwydd bod y gynnulleidfa yn fawr, ac yn amser gaiaf, fel nad allom ni sefyll allan, ac o herwydd nad ellir gorphen y gwaith ymma mewn vn diwrnod, neu ddau, gan i lawer o honom ni bechu yn yr achos ymma,
12Arhosed pennaethiaid y dyrfa, a’r holl rai o’n teuluoedd ni, a’r y sy ganddynt wragedd dieithr:
13A deued yr offeiriaid, a’r barn-wŷr allan o bôb lle ar yr amser gosodedic, hyd oni lonyddāt ddigofaint yr Arglwydd yn ein herbyn, am y peth hyn.
14Yna Ionathas mab Azaiel, ac Ezecias Thecan a swyddwyd o herwydd yr achos ymma, a Mosolam, a Lefis, a Sabatheus ai cynnorthwyodd hwynt.
15A hwynt y rhai oeddynt o’r gaeth-glud a wnaethant ar ôl hyn oll.
16Ac Esdras yr offeiriad a ddetholodd iddo y gwŷr pennaf o’r teuluoedd erbyn eu henwau oll: ac ar y dydd cyntaf o’r decfed mîs hwynt a gyd-eisteddasant i holi yr achos ymma.
17Felly yr oedwyd y pethau hyn am y gwŷr y rhai a briodasent wragedd dieithr) hyd y dydd cyntaf o’r mîs cyntaf.
18Ac o’r offeiriaid y rhai a briodasent wragedd diethr, fe a gafwyd yno,
19O feibion Iesus Iosedec, ai frodyr, Mathelas Eleazar, Ioribus, ac Ioadanus:
20Y rhai a roddasant eu dwylo hefyd i fwrw allan eu gwragedd, ac a offrymmasant hwrdd, yn iawn wrth eu sancteiddio hwynt.
21Ac o feibion Emmer, Ananias, a Zabdeus, a Chanes, a Samaius, a Hiereel, a Azarias.
22Ac o feibion Phaisu, Elionas, Massias, Esmaelus, a Nathanael, ac Osidelus, a Thalsas.
23Ac o’r Lefiaid, Iorabadus, a Semis, a Cholius, yr hwn a elwid hefyd Calitas, a Putheus, ac Ondas, ac Ionas.
24O’r cantorion sanctaidd, Eleazarus, Bacchurus.
25O’r porthorion, Salumus, ’a Tholbāes.
26O hwyntau o Israel o feibion Phorus, Hiermas, ac Edias, a Melchias, a Maelus, ac Eleazar, ac Asibias, a Banaias.
27O feibion Ela, Mathanias, Zacharias, ac Hierelas, ac Hieremoth, ac Aedias.
28Ac o feibion Zamoth, Eliadas, Elisimus, Othonias, Iarimoth, a Sabatus, a Sardeus.
29O feibion Bebai, Ioannes, ac Ananias ac Iosabad, ac Ematheas.
30O feibion Mani, Olamus, Hamuchus, Iedaias, Iasulbus, Iasael, ac Ieremoth.
31Ac o feibion Adi, Naathus, Moosias, Caleus, a Naidus, a Matthanias, a Seschel, a Balnuus, a Manasseas.
32Ac o feibion Annas, Elionas, ar Aseas, a Melchias, a Sabbeus, a Simon, a Chosamite.
33Ac o feibion Asom, Altaneus, a Matthias, a Banais, Eliphalet, a Manasses a Semi.
34Ac o feibion Maani, Ieremias, Momdis, Omairus, Inel, Mamai, a Phaclias, ac Amos, Carabasion, ac Efasibus, a Mamnimatanaius, Elisiasis, Famus, Eliali, Samis, Selemias, Nathanias: ac o feibion Ozoras, Sesis, Esril, Ezailus, Samatas Sambis, Iosiphus,
35Ac o feibion Ethna, Mazitias, Zabadias, Ethes, Inel, Banaias.
36Yr holl rai hyn a briodasent wragedd dieithr, a hwynt ai gyrrasant hwy ymmaith ai plant.
37A’r offeiriaid a’r Lefiaid a’r rhai oeddynt o Israel a drigasant yn Ierusalem, ac yn y wlâd y dydd cyntaf o’r seithfed mîs, a meibion Israel yn eu tai eu hun.
38Yna yr holl dyrfa a ddaethant yng-hyd, o vn frŷd i’r fann ehang o flaen porth y Deml yr hwn sydd tua yr dwyrain,
39A hwynt a ddywedasant wrth Esdras yr arch-offeiriad a’r darllenydd am iddo ef ddwyn cyfraith Moses yr hon a roddase Arglwydd Dduw Israel.
40Yna Esdras yr arch-offeiriad a ddug y gyfraith at yr holl dyrfa yn wŷr ac yn wragedd, ac at yr holl offeiriaid, fel y clywent hwy y gyfraith ar y dydd cyntaf o’r seithfed mîs.
41Ac efe a ddarllenodd yn y lle ehang cyntaf yr hwn sydd o flaen porth y Deml o’r boreu hyd hanner dydd, o flaen y gwŷr a’r gwragedd: a’r holl dyrfa a wrandawsant ar y gyfraith.
42Felly Esdras yr offeiriad a darllenydd y gyfraith a safodd i fynu mewn pulpud o goed yr hwn ydoedd wedi ei ddarparu.
43A Mathathias, Samus, Ananias, Azarias, Vrias Ezecias a Balasan a safasant yno wrth ei ymyl ef ar ei law ddehau ef.
44Ac ar ei law asswy ef Phaldeus, Sael, Melchias, Aosathuphus, a Nabarias.
45Yna Esdras a gymmerth lyfr y gyfraith o flaen y dyrfa (canys efe oedd anrhydeddusaf o honynt hwy eu gyd)
46A thra yr ydoedd efe yn yspyssu y gyfraith hwynt hwy a safasant yn eu hiniawn sefyll, ac Esdras a fendithiodd yr Arglwydd Dduw goruchaf, holl-alluoc Dduw y lluoedd.
47A’r holl gynnulledifa a attebasant, Amen.
48Yna Iesus, Anus, Sarabias, Adimas, Iacobus, Battaias, Autamas, Mainanias, a Chalitas, Azarias, Iohasabdus, Ananias, a Biatas y Lefiaid a godasant eu dwylo, ac a syrthiasant i lawr, ac a ddolasant yr Arglwydd,
49Ac a ddyscasant gyfraith yr Arglwydd, ac a safasant hefyd yn ddyfal wrth ei darllen.
50Yna y dywedodd Atharates wrth Esoras yr arch-offeiriad a’ darllenyd, ac wrth y Lefiaid y rhai oeddynt yn dyscu y dyrfa ymmhob peth: y dydd hwn sydd sanctaidd i’r Arglwydd a phawb a ŵylasant wrth glywed y gyfraith.
51Ewch chwi gan hynny a bwytewch fwydydd breision, ac yfwch ddiodydd melys, ac anfonwch roddion i’r rhai nid oes dim ganddynt.
52Canys y dydd hwn sydd sanctaidd i’r Arglwydd, ac na fyddwch chwi drîst: canys yr Arglwydd a’ch gogonedda chwi.
53Felly y Lefiaid a orchymynnasant yr holl bethau hyn i’r bobl gan ddywedyd: y dydd hwn sydd sanctaidd i’r Arglwydd, na thristewch.
54Yna hwynt a ymadawsant bawb i fwyta, ac i yfed, ac i lawenychu, ac i roddi rhoddion i’r rhai nid oedd dim ganddynt, ac i wneuthur yn llawen.
55O herwydd yr oeddynt hwy etto yn gyflawn o’r geiriau a’r rhai y dyscasid hwynt, pan ymgasclasent hwy yng-hyd.
Terfyn tryddyd llyfr Esdras.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.