1Felly holl dywysogion y llu, a Iohanan mab Careah, a Iezaniah mab Osiah, a’r holl bobl o fychan hyd fawr a nesasant,
2A hwynt a ddywedasant wrth Ieremi y prophwyd, Iere.36.7.atolwg gwrando di ein deisyfiad ni, a gweddia trosom ni ar yr Arglwydd dy Dduw tros yr holl weddill hyn, canys nyni a adawyd o lawer yn ychydig, fel y mae dy lygaid ti yn ein gweled ni:
3Fel y dangoso yr Arglwydd dy Dduw i ni y ffordd y mae i ni rodio ynddi: a’r peth a wnelom.
4Yna Ieremi y prophwyd a ddywedodd wrthynt, myfi a’ch clywais wele mi a weddiaf ar yr Arglwydd eich Duw yn ôl eich geiriau chwi: a pheth bynnac a ddywedo yr Arglwydd am danoch, myfi ai mynegaf i chwi, nid ataliafi ddim oddi wrthych.
5A hwy a ddywedasant wrth Ieremi, yr Arglwydd fyddo tyst gwirion a ffyddlon rhyngom ni, y gwnawn yn ôl pôb gair a’r a anfono yr Arglwydd dy Dduw thi attom ni.
6Os da neu os drwg ar lais yr Arglwydd ein Duw (yr hwn yr ydym ni yn dy anfon atto) y gwrandawn ni: fel y byddo da i ni pan wrandawom ar lais yr Arglwydd ein Duw.
7Ac Iere.40.1.ym mhen y deng-nhiwrnod y daeth gair yr Arglwydd at Ieremi.
8Yna efe a alwodd ar Iohanan fab Careah, ac ar holl dywysogion y llu y rhai gyd ag ef, ac yr holl bobl o fychan hyd fawr,
9Ac efe a ddywedodd wrthynt, fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, yr hwn yr anfonasoch chwi fi atto, i roddi i lawr eich gweddiau ger ei fron ef:
10Os mynnwch chwi drigo yn y wlâd hon, myfi a’ch adailadaf chwi, ac ni’s dinistriaf, myfi a’ch plannaf chwi, ac ni’s diwreiddiaf: o blegit y mae yn edifar gennifi am y drwg yr hwn a wneuthum i chwi.
11Nac ofnwch rhac brenin Babilon, yr hwn y mae arnoch chwi ei ofn, nac ofnwch ef ddim medd yr Arglwydd: canys myfi a fyddaf gyd â chwi i’ch achub chwi, ac i’ch gwaredu chwi oi law ef.
12Ac mi a ganiadhaf i chwi drugaredd, fel y trugarhao efe wrthych, ac y dygo efe chwi trachefn i’ch gwlad eich hun.
13Ond os dywedwch, ni thrigwn ni yn y wlad hon: heb wrando ar lais yr Arglwydd eich Duw,
14Gan ddywedyd nagê, o blegit i wlad yr Aipht yr awn ni, lle ni welir ryfel, ac ni chlywir sain vdcorn, ac ni bydd arnom newyn bara, ac yno y trigwn ni.
15Am hynny ô gweddill Iuda gwrandewch bellach air yr Arglwydd, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd Duw Israel: os chwi gan osod a osodwch eich wynebau i fyned i’r Aipht, ac a ewch i ymdeithio yno,
16Y cleddyf yr hwn yr ydych chwi yn ei ofni a fydd yno, efe a’ch Ier.45.25.(sic.)goddiwedda chwi yn nhîr yr Aipht: a’r newyn yr hwn yr ydych yn gofalu rhagddo a’ch dilyn chwi i’r Aipht, ac yno y byddwch feirw.
17A’r holl wŷr a osodasant eu hwynebau i fyned i’r Aipht i aros yno a leddir a’r cleddyf, â newyn, ac â haint, ac ni bydd vn o honynt yn weddill, neu yn ddiangol gan y dialedd yr hwn a ddygafi arnynt.
18Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd Duw Israel, megis y tywalltwyd fy llid, a’m digofaint ar bresswyl-wŷr Ierusalem, felly y tywelltir fy nigofaint arnoch chwithau pan ddeloch i’r Aipht: a chwi a fyddwch yn felldith, yn anghyfanneddol, yn ddirmyg, ac yn warth, ac ni chewch chwi weled y lle hwn mwyach.
19O gweddill Iuda, yr Arglwydd a ddywedodd wrthych, nac ewch i’r Aipht: gwybyddwch chwi yn hyspys i mi eich rhybuddio chwi heddyw.
20Diau eich bod chwi yn dwyllodrus yn eich calonnau, am fy anfon i at yr Arglwydd eich Duw gan ddywedyd: gweddia di trosom ni ar yr Arglwydd ein Duw, a mynega di i ni yn ôl yr hyn oll a ddywedo yr Arglwydd ein Duw ni, ac nyni ai gwnawn.
21Am hynny y mynegais i chwi heddyw, ond ni wrandawsoch ar lais yr Arglwydd eich Duw, nac ar ddim oll a’r a anfonodd efe mi attoch chwi.
22Ac yn awr gwybyddwch chwi yn hyspys mai drwy’r cleddyf, thrwy newyn, a thrwy haint y byddwch chwi feirw yn y lle, yr hwn yr ydych yn ewyllysio myned i ymdeithio ynddo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.