1Car dithe’r Arglwydd dy Dduw, a chadwei gadwriaeth ef, ai ddeddfau, ai farnedigaethaû, ai orchymynnion byth.
2A chydnabyddwch heddyw nad gan eich plant (y rhai nid adnabuant, ac ni welsant) y mae athrawiaeth yr Arglwydd eich Duw chwi, ei fawredd, ei law gref, ai fraich estynnedic,
3Ei arwyddion hefyd, ai weithredoedd, y rhai a wnaeth efe yng-hanol yr Aipht, i Pharao brenin yr Aipht, ac iw holl dîr,
4A’r hyn a wnaeth efe i lu’r Aipht, iw feirch ef, ac iw gerbydau: y modd y gwnaeth efe i ddyfroedd y môr côch lenwi tros eu hwynebau hwynt, pan oeddynt yn ymlid ar eich ôl, ac y difethodd yr Arglwydd hwynt hyd y dydd hwn.
5A’r hyn a wnaeth efe i chwi yn yr anialwch nes eich dyfod i’r lle hwn:
6A’r hyn a wnaeth efe i Ddathan, ac i Abiram, meibion, Eliab, mab Ruben: y modd yr agorodd y ddaiar ei safn, ac ai llyngcodd hwynt, ai tai, ai pebyll, a’r holl olud’r hwn ganddynt ym mysc holl Israel.
7Eithr eich llygaid chwi oeddynt yn gweled holl fawrion weithredoedd yr Arglwydd, y rhai a wnaeth efe.
8Cedwch chwithau bob gorchymyn yr hwn yr ydwyfi yn ei orchymyn heddyw, fel y cryfhaoch, ac yr eloch, ac y gorescynnoch y tîr yr hwn yr ydych yn myned trosodd iddo iw orescyn.
9Ac fel yr estynnoch ddyddiau ar y ddaiar yr hon a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau, ar ei rhoddi iddynt, ac iw hâd, tîr yn llifeirio, o laeth a mêl.
10O herwydd y tîr yr hwn yr wyf yn myned iddo iw orescyn, nid fel tîr yr Aipht y mae efe yr hwn y daethoch allan o honaw, lle’r heuaist dy hâd, ac y dwfrheaist a’th droed, fel garddlyssiau.
11Ond’y tir yr hwn yr ydych yn myned trosodd iddo iw orescyn, fynydd-dîr, a dyffryn-dir a yf ddwfr o law y nefoedd.
12Tîr yr hwn y mae’r Arglwydd dy Dduw yn ei ymgeleddu, llygaid yr Arglwydd dy Dduw bob amser arno, o ddechreuad y flwyddyn, hyd ddiwedd y flwyddyn hefyd.
13A bydd os gan wrando y gwrandewch ar fyng-orchymynnion y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i chwi heddyw, gan garû’r Arglwydd eich Duw, a chan ei wasanaethu a’ch holl galon, ac a’ch holl enaid:
14Yna y rhoddaf law i’ch tîr yn ei amser, y cynnar-law, a’r diweddar-law, fel y casclech dy ŷd a’th wîn, a’th olew.
15A rhoddaf wellt-glâs yn dy faes i’th anifeiliaid, fel y bwytteich, ac i’th ddigoner.
16Gwiliwch arnoch rhac twyllo eich calon, a chilio o honoch, a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymmu iddynt,
17Ac enynnu digllonedd yr Arglwydd i’ch erbyn, a chaeuo honaw ef y nefoedd, fel na byddo glaw, ac na roddo y ddaiar ei chnŵd, a’ch difetha yn fuan o’r tîr daionus, yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei roddi ichwi.
18Am hynny gosodwch fyng-eiriau hyn Deut.6.6.yn eich calon, ac yn eich meddwl, a rhwymwch hwynt Deut.6.8.yn arwydd ar eich dwylo, a byddant yn rhactalau, rhwng eich llygaid.
19A dyscwch hwynt i’ch plant, gan grybwyll am danynt, pan eisteddech yn dy dŷ, a phan rodiech ar y ffordd, pan orweddech hefyd, a phan godech.
20Ac scrifenna hwynt ar bŷst dy dŷ, ac ar dy byrth:
21Fel yr amlhao eich dyddiau chwi, a dyddiau eich plant chwi ar y ddaiar, yr hō a dyngodd yr Arglwydd wrth eich tadau am ei rhoddi iddynt, fel dyddiau y nefoedd ar y ddaiar.
22Canys os gan gadw y cedwch yr holl orchymynion hyn, y rhai yr ydwyfi yn eu gorchymyn i chwi iw gwneuthur, gan garu yr Arglwydd eich Duw, gan rodio yn ei holl ffyrdd ef, a chan lynu wrtho ef:
23Yna y gorescyn yr Arglwydd yr holl genhedloedd hyn, o’ch blaen chwi, a chwi a orescynnwch genhedloedd mwy a chryfach na chwi.
24Pob Iosua 1.3.man a’r y sathro gwadn eich troed chwi arno fydd eiddo chwi, o’r anialwch a Lybanus o’r afon afon Euphrates, hyd y môr olaf y bydd eich terfyn chwi.
25Ni saif gŵr yn eich wyneb, eich arswyd a’ch ofn a rydd yr Arglwydd eich Duw ar wyneb yr holl dîr, yr hwn a sathroch arno: megis ac y llefarodd wrthych.
26Wele rhoddi’r ydwyfi o’ch blaen chwi heddyw, fendith, a melldith.
27 Deut.28.2. deut.30.1. Bendith, os gwrandewch ar orchymynnion yr Arglwydd eich Duw, y rhai’r ydwyfi yn gorchymyn i chwi heddyw:
28A melldith, oni wrandewch ar orchymynnion yr Arglwydd eich Duw: ond cilio o honoch o’r ffordd yr hon yr ydwyfi yn ei gorchymyn i chwi heddyw: gan fyned ar ôl Duwiau dieithr, y rhai nid adnabuoch.
29Bydded gan hynny pan ddygo’r Arglwydd dy Dduw di i’r tîr yr hwn yr ydwyt yn myned iddo iw orescyn, roddi o honot y Deut.27.13. Iosua 8.33.fendith ar fynydd Garizim, a’r felldith ar fynydd Ebal.
30Onid y rhai hyn or tu hwynt i’r Iorddonen, tua’r lle y machluda haul yn nhir y Canaanead, yr hwn sydd yn trigo yn y rhôs, ar gyfer Gilgal, ger llaw llwyn Morah?
31Canys myned yr ydych tros yr Iorddonen, i fyned i orescyn y tir yr hwn y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei roddi i chwi: a chwi ai gorescynnwch ac a bresswyliwch ynddo.
32Gwiliwch chwithau am Deut.5.32.wneuthur yr holl ddeddfau a’r barnedigaethau y rhai’r ydwyfi yn eu rhoddi o’ch blaen chwi heddyw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.