1A gair yr Arglwydd a ddaeth attaf gan ddywedyd:
2Prophwyda fab dŷn yn erbyn bugeiliaid Israel: prophwyda, a dywet wrthynt wrth y bugeiliaid: fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, gwae fugeiliaid Israel y rhai ydynt yn eu porthi eu hunain: oni phortha y bugeiliaid y praidd?
3Y brasder a fwyttewch, a’r gwlân a wiscwch, y brâs a leddwch, ni phorthwch y praidd.
4Ni chryfhausoch y rhai llesc, ac ni feddiginiaethasoch y gwann, ni rwymasoch y drylliedic y chwaith, a’r cyfeiliornus ni ddugasoch adref: y colledic hefyd ni cheisiasoch, eithr llywodraethasoch hwynt mewn caledi, a chreulondeb.
5Am hynny y gwascarwyd hwynt o eisieu bugail, ac y buant yn ymborth i holl fwyst-filod y maes pan wascarwyd hwynt.
6Fy mhraidd a gyrwydrasant ar hyd yr holl fynyddoedd, ac ar bob brynn vchel: ie gwascarwyd fy mhraidd ar hŷd holl wyneb y daaiar, ac nid oedd gofynne, nac ceisie.
7Am hynny fûgeiliaid, gwrandewch air yr Arglwydd.
8[Nid] byw fi medd yr Arglwydd Dduw, onid am fod fy mhraidd yn yspail, a bod fy mhraidd yn ymborth i holl fwyst-filod y maes o eisieu bugail (canys fy mugeiliaid ni cheisiasant fy mhraidd, eithr y bugeiliaid ai porthasant eu hun, ac ni phorthasant fy mhraidd mau fi)
9Am hynny o fugeiliaid gwrandewch air yr Arglwydd,
10Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi at y bugeiliaid, a gofynnaf fy mhraidd oi dwylo hwynt, a gwnaf iddynt beidio a phorthi y praidd: ie y bugeiliaid ni phorthant eu hun mwy, eithr gwaredaf fy mhraidd oi safn hwy, fel na byddant yn ymborth iddynt.
11Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele myfi, ie myfi a ymofynnaf fy mhraidd, ac at ceisiaf hwynt.
12Fel y cais bugail ei fintai ar y dydd y byddo ym mysc ei braidd gwascaredic, felly y ceisiaf fy mhraidd, ac y gwaredaf hwynt o bob lle yr hwn y gwascarer hwynt iddo ar ddydd cwmyloc a niwloc.
13A dygaf hwynt allan o fysc y bobloedd, a chasclaf hwynt o’r tiroedd, dygaf hwynt iw tir eu hun, a phorthaf hwynt ym mynyddoedd Israel, yn y cymmau, ac yn holl drigleoedd y wlâd.
14Mewn porfa dda y porthaf hwynt, ac yn vchel fynyddoedd Israel y bydd eu porfa hwynt: yno y gorweddant mewn porfa dda, îe mewn porfa frâs y porant ar hyd mynyddoedd Israel.
15Myfi a borthaf fy mhraidd, a myfi ai gorweddfâf hwynt medd yr Arglwydd Dduw.
16Y colledic a geisiaf: a’r tarfedic a ddychwelaf, a’r briwedic a rwymaf, a’r llesc a gryfhaf: eithr dinistriaf y brâs a’r cryf, mewn barn y porthaf hwynt.
17Chwithau fy mhraidd fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: wele fi yn barnu rhwng milin a milin, rhwng yr hyrddod a’r bychod.
18Ai bychan gennych bori o honoch y borfa dda, a sathru dan eich traed y rhan arall o’ch porfa? ac yfed o honoch y dyfroedd tra yr oeddynt ddyfnion, a mathru o honoch y rhan arall a’ch traed?
19Felly y pôrodd fy mhraidd sathrfa eich traed: a mathrfa eich traed a yfasant.
20Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrthynt hwy, wele minne a farnaf hefyd rhwng milin brâs, a milin cûl.
21O herwydd gwthio o honoch ag ystlys, ac ag yscwydd, a chornio o honoch a’ch cyrn y rhai llesc oll hyd oni wascarasoch hwynt allan:
22Am hynny y gwnaf iechydwriaeth i’m praidd, fel na byddant mwy yn yspail, a barnaf rhwng milin a milin.
23Cyfodaf hefyd vn bugail arnynt, ac efe ai portha hwynt, sef fyngwâs Iere.30.9.|JER 30:9. Ose.3.5.Dafydd, efe ai portha hwynt, ac efe a fydd yn fugail iddynt.
24A minnef yr Arglwydd a fyddaf yn Dduw iddynt, a’m gwâs Dafydd yn dywysog yn eu mysc: myfi yr Arglwydd a leferais
25Gwnaf hefyd â hwynt gyfammod heddwch, a gwnaf i’r bwyst-fil drwg beidio o’r tîr, fel y trigant mewn anialwch, ac y cyscant mewn coedydd yn ddiogel.
26Hwynt hefyd, ac amgylchoedd fy mrynn a roddaf yn fendith, a gwnaf i’r glaw ddescyn yn ei amser: glaw bendithiol fydd.
27Yna y rhydd prenn y maes ei ffrwyth, a’r tîr a rydd ei gynnyrch, a byddant yn eu tîr eu hun mewn diogelwch: yna y cafant ŵybod mai myfi yr Arglwydd: pan dorrwyf rwymau eu iau hwynt, ai gwared hwynt o law y rhai ai caethiwant.
28Ac ni byddant hwy mwyach yn yspail i’r cenhedloedd, a bwyst-fil y tir ni’s bwyttu hwynt, eithr trigant mewn diogelwch, ac ni dychrynnudd.
29Cyfodaf iddynt hefyd Esa.11.1.blanhigin enwoc, ac ni byddant mwy wedi trengu o newyn yn y tîr, ac ni ddygant mwy wradwydd y cenhedloedd.
30Eithr cafant ŵybod mai myfi’r Arglwydd eu Duw gyd â hwynt, a hwythau tŷ Israel fy mhobl maufi, medd yr Arglwydd Dduw.
31Chwithau fy mhraidd mau fi, defaid fy mhorfa, dynion chwi, myfi eich Duw chwi, medd yr Arglwydd Dduw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.