1Trugarhâ wrthif ô Dduw yn ôl dy drugarogrwydd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau delea fy anwireddau.
2Golch fi yn llwyr-ddwys oddiwrth fy anwiredd: a glanhâ fi oddi wrth fy mhechod.
3Canys adwen fyng-hamweddau: a’m pechod sydd yn wastad ger fy mron.
4Yn dy erbyn di dy hunan y pechais, ac y gwneuthum yr hyn oedd ddrwg yn dy olwg di: fel i’th gyfiawnhaer pan leferech, y byddit bûr pan farnech.
5Wele mewn anwiredd i’m llunniwyd, ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf.
6Wele ceraist wirionedd oddi mewn: a pheri i mi ŵybod doethineb yn ddirgel.
7Glanhâ fi Lefit.14.6.ag Yssop, a mi a lanheuir: golch fi, a byddaf wynnach na’r eira.
8Pâr di i mi glywed gorfoledd, a llawenydd, y llawenycho’r escyrn a ddrylliaist di.
9Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau: a delea fy holl anwireddau.
10Crea galon lân ynof ô Dduw, ac adnewydda yspryd iniawn o’m mewn.
11Na fwrw fi ymmaith oddi ger dy fron: ac na chymmer dy Yspryd sanctaidd oddi wrthif.
12Dwg trachefn i mi orfoledd dy iechydwriaeth: ac a’th hael Yspryd cynnal fi.
13Dyscaf dy ffyrdd i rai anwir: a phechaduriaid a droant attat.
14Gwaret fi oddi wrth waed ô Dduw Duw fy iechydwriaeth: a’m tafod a gân o’th gyfiawnder.
15Arglwydd agor fyng-wefusau, a’m genau a fynega dy foliant.
16Canys ni chwennychi aberth, pe amgen, mi ai rhoddwn, phoeth offrwm ni fynni.
17Aberthau Duw yspryd drylliedic: calon ddryllioc gystuddiedic ô Dduw ni ddirmygi.
18Bydd ddâ wrth Sion o herwydd dy ewyllyscarwch: adailada furau Ierusalem.
19Yna y byddi fodlon i ebyrth cyfiawnder poeth offrwm, ac aberth llosc: yna’r offrymmant fustych ar dy allor.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
