1.Brenhinoedd 12 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XII.1 Rehoboam yn teyrnasu ar ôl Salomon, a thrwy ei anghallineb ei hun yn colli deg o’r deuddeg llwyth. 20 Y rhai a dewisasant Ieroboam yn frenin arnynt.

1Yna Rehoboam a aeth i Sichem: 2.Cron.10.11.canys i Sichem y daethe holl Israel iw vrddo ef yn frenin.

2A phan glybu Ieroboam mab Nabat ac efe etto yn yr Aipht, canys efe 1 Bren.11.40.a ffoase rhac Salomon y brenin: (ac Ieroboam a arhosase yn yr Aipht,)

3Yna’r anfonasant, ac y galwasant arno ef, ac Ieroboam a holl gynnulleidfa Israel a ddaethant: ac a ymddiddanasant a Rehoboam gan ddywedyd,

4Dy dâd ti 1 Bren.4.7.a wnaeth ein hiau ni yn drom: ac yn awr yscafnhâ o gaethiwed caled dy dâd ti, ac oi iau drom ef yr hon a roddes efe arnom m, ac ni a’th wasanaethwn di.

5Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, ewch etto dridiau, yna dychwelwch attafi: a’r bobl a aethant.

6A’r brenin Rehoboam a ymgynghorodd a’r henuriaid y rhai a fuasent yn sefyll o flaen Salomon ei dad ef, tra yr ydoedd efe yn fyw, gan ddywedyd: pa fodd yr ydych chwi yn cynghori atteb ymadrodd y bobl hyn?

7A hwynt a lefarasant wrtho ef gan ddywedyd, os byddi di heddyw wâs i’r bobl hyn, ai gwasanaethu hwynt, ai hatteb hwynt, a llefaru wrthynt eiriau têg: yna y byddant yn weision i ti byth.

8Ond efe a wrthododd gyngor yr henuriaid yr hwn a gynghorasent iddo ef: ac efe a ymgynghorodd a’r bechgyn, y rhai a gynnyddasent gyd ag ef, a’r rhai oeddynt yn sefyll ger ei fron ef.

9Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, beth yr ydych chwi yn ei gynghori, fel yr attebom ymadrodd y bobl hyn: y rhai a lefarasont wrthif gan ddywedyd, yscafnhâ o’r iau’r hon a roddodd dy dâd ti arnom ni?

10Yna y bechgyn y rhai a gynnyddasent gyd ag ef a lefarasant wrtho ef gan ddywedyd, fel hyn y dywedi di wrth y bobl ymma y rhai a Iefarasant wrthit gan ddywedyd, dy dâd ti a drymhaodd ein hiau ni, ond yscafnhâ di bach freiscach na llwynau fy nhâd.

11Ac yn awr fy nhâd a’ch llŵythodd ag iau drom, a minne a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhâd a’ch cospodd chwi a gwielyn, a mi a’ch cospaf chwia ffrewyllau.

12Yna y daeth Ieroboam, a’r holl bobl at Rehoboam y trydydd dydd: fel y llefarase yr brenin gan ddywedyd, dychwelwch attafi y trydydd dydd.

13A’r brenin a attebodd y bobl yn sarric: ac a wrthododd gyngor yr henuriaid yr hwn a gyng-horasent hwy iddo ef.

14Ac efe a lefarodd wrthynt hwy yn ôl cyngor y bechgyn gan ddywedyd, 2.Cron.10.11.fy nhâd a wnaeth eich iau chwi yn drom, a minne a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhâd a’ch ceryddodd chwi a gwielyn, a minne a’ch ceryddaf chwi a ffrewyllau.

15Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl: o herwydd 1 Bren.11.11.yr achos oedd oddi wrth yr Arglwydd, fel y cwplauid ei air ef yr hwn a lefarase yr Arglwydd drwy law Ahia y Siloniad wrth Ieroboam fab Nabat.

16Pan welodd holl Israel na wrandawe’r brenin arnynt hwy, yna y bobl a attebasant y brenin gan ddywedyd, pa ran i ni yn Nafydd? nid ettifeddiaeth ym mab Isai, ô dy dŷ Dafydd: felly Israel a aethant iw pabellau.

17Ar feibion Israel y rhai oeddynt yn presswylio yn ninasoedd Iuda, y teyrnasodd Rehoboam.

18A’r brenin Rehoboam a anfonodd Adoram yr hwn ar y drêth, a holl Israel ai llabyddiasant ef a mein fel y bu efe farw: yna’r brenin Rehoboam a ymegniodd i fyned i fynu mewn cerbyd i ffoi i Ierusalem.

19Felly Israel a wrthryfelasant yn erbyn tŷ Ddafydd hyd y dydd hwn.

20Pan glubu holl Israel ddychwelyd o Ieroboam, yna hwy a anfonasant, ac ai galwasant ef at y gynnulleidfa, ac ai gosodasant ef yn frenin ar holl Israel; nid oedd ar ôl tŷ Ddafydd onid llwyth Iuda * yn vnic.

21Yna 1 Bren.11.13.Rehoboam a ddaeth i Ierusalem, ac a gasclodd o holl dŷ Iuda, ac o lwyth Beniamin gant, a phedwar vgain mîl dewisol cymmwys i ryfel: i ymladd yn erbyn tŷ Israel, i ddwyn trachefn y frenhiniaeth i Rehoboam fab Salomon.

22Ond gair Duw a ddaeth at Semaia gŵr Duw gan ddywedyd:

23Adrodd wrth Rehoboam fab Salomon brenin Iuda, ac wrth holl dŷ Iuda, a Beniamin, a gweddill y bobl gan ddywedyd,

24Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, nac ewch i fynu, ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr meibion Israel, dychwelwch bob vn iw dŷ ei hun, canys drwofi y gwnaethpwyd y peth hyn: a hwynt a wrandawsant ar air yr Arglwydd, ac a ddychwelasant i fyned ymmaith yn ôl gair yr Arglwydd.

25Yna Ieroboam a adailadodd Sichem ym mynydd Ephraim, ac a drigodd ynddi hi, ac efe a aeth oddi yno, ac a adailadodd Phanuel.

26Yna Ieroboam a feddyliodd yn ei galon: yn awr y dychwel y frenhiniaeth at dŷ Dafydd.

27Os aiff y bobl hyn i fynu i wneuthur aberthau yn nhŷ’r Arglwydd yn Ierusalem, yna y try calon y bobl hyn at eu harglwydd Rehoboam brenin Iudo: ac y lladdant fi, ac y dychwelant at Rehoboam brenin Iuda.

28Yna’r brenin a ymgyng-horodd, ac a wnaeth ddau lo aur ac a ddywedodd wrthynt hwy: gormod yw i chwi fyned i fynu i Ierusalem, wele dy dduwiau di o Isrel y rhai a’th ddugasant di i fynu o wlâd yr Aipht.

29Ac efe a osododd vn yn Bethel: ac a roddes y llall yn Dan.

30A’r peth hyn a aeth yn bechod: o blegit y bobl a aethant ger bron y naill hyd Dan.

31Ac efe a wnaeth dŷ vchelfeudd: ac a wnaeth offeiriaid o’r rhai gwaelaf o’r bobl, y rhai nid oeddynt o feibion Lefi.

32Ac Ieroboam a wnaeth vchel-ŵyl yn yr wythfed mîs, ar y pympthecfed dydd o’r mîs, fel yr vchelŵyl yr hon yn Iuda, ac efe a offrymmodd ar yr allor felly y gwnaeth efe yn Bethel gan aberthu i’r lloi y rhai a wnaethe efe: ac efe a osododd yn Bethel offeiaid yr vchelfaoedd y rhai a wnaethe efe.

33Ac efe a offrymmodd ar yr allor yr hon a wnaethe efe yn Bethel y pympthecfed dydd o’r wythfed mis, yn y mis yr hwn a ddychymygase efe yn ei galon: ac efe a wnaeth ŵyl arbennic i feibion Israel, ac efe aeth i fynu at yr allor i arogl-darthu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help