1Fy mab cadw fyng-eiriau, a chuddia fyng-orchymynnion gyd â thi.
2Cadw fyng-orchymynnion, a byw fyddi, a’m cyfraith fel cannwyll dy lygaid.
3Rhwyma hwynt yng-hylch dy fysedd, ac scrifenna hwynt ar lech dy galon.
4Dywet wrth ddoethineb, fy chwaer wyt ti, a galw ŵybodaeth yn gâres.
5Fel i’th gadwer oddi wrth y wraig ddieithr, a rhag y fenyw a’r ymadrodd gwenieithus.
6Canys a mi yn ffenestr fy nhŷ, mi a edrychais drwy fy ffenestr.
7Ac mi a welais ym mysc y ffyliaid mi a ganfûm ym mhlith y plant, ddŷn ieuangc anehallus,
8Yn ymdaith drwy yr heol, ger-llaw ei chongl hi, ac yn myned ar hŷd y ffordd iw thŷ hi,
9Yn y cyfnos gyd a’r hwyr pan oedd hi yn nôs du ac yn dywyll.
10Ac wele fenyw yn cyfarfod ag ef, a chanthi ymddygiad puttain, ac â chalon ddichellgar.
11Siaradus anufuddgar yw hi, ei thraed ni arhôant yn ei thŷ.
12Weithie yn y drŵs, weithie yn yr heolydd, ac yn cynllwyn ym mhob congl.
13Hi a ymafaelodd ynddo, ac ai cussanodd, ac yn ddigywilydd hi a ddywedodd wrtho ef:
14[Yr oedd] arnafi aberthau hedd, heddyw y cywirais fy adduned:
15Ac am hynny y daethum allan i gyfarfod â thi, i chwiho am dy wyneb, a chefais afael arnat.
16Mi a drwsiais fyng-wely â chortinau, ac â thasselau, a llieiniau o lin yr Aipht.
17Mi a fwgdarthais fyng-hysugl â myrh, aloes, a Synnamon.
18Tyret moes ymlenwi o garu hyd y boreu, gwnawn yn llawen a’r faswedd.
19Canys nid yw fyng-wr gartref, efe aeth i ffordd bell.
20Efe a gymmerth godaid o arian yn ei law, efe a ddaw adref ar y dydd ammodol.
21Hi ai troes ef, ai haml eiriau melysion, ac â gweniaith ei gwefusau hi ai gyrrodd ef.
22Efe ai canlynodd hi ar frys, fel yr ŷch yn myned i’r lladdfa, ac fel ynfyd yn myned i’r cyffion iw gospi:
23Hŷd oni ddryllio yr saeth ei afi ef, fel yr aderyn yn pryssuro i’r fagl, heb ŵybod ei bod yn erbyn ei enioes ef.
24Am hynny (fy meibion) gwrandewch arnafi, ac ystyriwch wrth eiriau fyng-enau.
25Na thuedded dy galon at ei ffyrdd hi, na chyrwydra ar hyd ei llwybrau hi.
26Canys llawer a gwympodd hi yn archolledic, gwŷr grymmus oll a laddodd hi.
27Ffyrdd Pen.2.18.i uffern ei thŷ hi, descyn i stafelloedd angeu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
