1Yna gwŷr Ephraim a ddywedasant wrtho ef, pa ham y gwnaethost y peth hyn a ni, heb alw arnom ni pan aethost i ymladd yn erbyn y Madianiaid? ac ai dwrdiasant ef yn dôst.
2Ac efe a ddywedodd wrthynt, beth a wneuthum i yn awr megis chwi? onid gwell yw lloffiad grawn-win Ephraim, na chascliad grawnwin Abiazar?
3Duw a roddodd yn eich llaw chwi dywysogion Madian Oreb, a Zeeb, a pheth a allwn i ei wneuthur wrthych chwi? yna’r arafodd eu dig hwynt tu agatto ef, pan lefarodd efe y geiriau hyn.
4A Daeth Gedeon i’r Iorddonen: i fyned trosti hi, efe a’r trychan-nwr y rhai gyd ag ef yn ddeffygiol, ac yn erlid.
5Ac efe a ddywedodd wrth wŷr Succoth, rhoddwch attolwg dorthau o fara i’r bobl y rhai ydynt i’m canlyn: canys lluddedic ydynt hwy a minne yn erlyd ar ôl Zebah, a Salmunna brenhinoedd Madian.
6A dywedodd tywysogion Succoth a llaw Zebah, a Salmunna’n awr yn dy law di: fel y rhoddem ni fara i’th lû di?
7Yna y dywedodd Gedeon, o herwydd hynny pan roddo’r Arglwydd Zebah a Salmunna yn fy llaw i: yna y dyrnaf eich cnawd chwi a drain yr anialwch, ac a mieri.
8Ac efe a aeth i fynu oddi yno i Penuel, ac a lefarodd wrthynt hwythau felly: a gwŷr Penuel ai hattebasant ef, fel yr attebase gwŷr Succoth.
9Ac efe a lefarodd hefyd wrth wŷr Penuel gan ddywedyd: pan ddychwelwyf mewn heddwch mi a ddestruwiaf y tŵr ymma.
10A Zebah a Salmunna yn Carcor, ai lluoedd gyd a hwynt yng-hylch pymtheng-mil, yr hyn oll a adawsid o holl fyddin meibion y dwyrain: a lladdwyd cant ac vgain mil o wŷr yn tynnu cleddyf.
11A Gedeon a aeth i fynu tua’r rhai oeddynt yn trigo mewn pabellau o’r tu dwyrain i Nobah, ac i Iogbeha: ac efe a darawodd y fyddin, canys y fyddin oedd ysceulus.
12Ond Zebah a Salmunna a ffoasant, ac efe a erlidiodd ar eu hôl hwynt: ac a ddaliodd ddau frenin Madian sef Zebah a Salmunna, ac a wascarodd yr holl lû.
13Felly Gedeon mab Ioas a ddychwelodd o’r rhyfel cyn codi’r haul.
14Ac efe a ddaliodd langc o wŷr Succoth ac a ymofynnodd ag ef: ac yntef a scrifennodd iddo dywysogion Succoth ai henuriaid, dau wr ar bymtheg a thrugain.
15Ac efe a ddaeth at wŷr Succoth ac a ddywedodd, wele Zebah a Salmunna:’r rhai yr amberchasoch fi gā ddywedyd, a llaw Zebah a Salmunna yn awr yn dy law di? fel y rhoddem fara i’th wŷr lluddedic?.
16Yna efe a gymmerth henuriaid y ddinas a drain yr anialwch, a’r miêri: ac a ddrylliodd wŷr Succoth a hwynt.
17Tŵr Penuel hefyd a ddinistriodd efe: ac a laddodd wŷr y ddinas.
18Yna efe a ddywedodd wrth Zebah, ac wrth Salmunna, pa fath wŷr y rhai a laddasoch chwi yn Thabor? a dywedasant tebyg i ti, vn o ddull meibion brenin.
19Ac efe a ddywedodd, fy mrodyr meibion fy mam hwy: mai byw’r Arglwydd pc gadawsech hwynt yn fyw ni laddwn chwi.
20Yna efe a ddywedodd wrth Iether ei gyntafanedic, cyfot, lladd hwynt, ond ni thynne y llangc ei gleddyf: o herwydd efe a ofnodd, canys bachgen efe etto.
21Yna y dywedodd Zebah a Salmunna, cyfot ti a rhuthra i ni, canys fel’r gŵr ei rym: a Gedeon a gyfododd, ac a laddodd Zebah a Salmunna, ac a gymmerth y colêrau y rhai am yddfau eu camelod hwynt.
22A gwŷr Israel a ddywedasant wrth Gedeon, arglwyddiaetha arnom ni, tydi hefyd a’th fab, a mab dy fab: canys gwaredaist ni o law Madian.
23A Gedeon a ddywedodd wrthynt, ni arglwyddiaethafi arnoch, ac ni arglwyddiaetha fy mab arnoch, yr Arglwydd a arglwyddiaetha arnoch.
24Dywedodd Gedeon hefyd wrthynt, gofynnaf arch oddi gennwch, ar roddi o bob vn o honoch chwi i mi glustdlysau ei anrhaith: canys clust-dlysau aur ganddynt hwy, o herwydd mai Imaeliaid oeddynt hwy.
25A dywedasant gan roddi y rhoddwn a lledasant ryw wisc, a thaflasant yno bob vn ei glust-dlws yr hwn a gawse efe yn sclyfaeth.
26A phwys y clust-dlysau aur y rhai a ofynnase efe oedd fîl, a saith gant aur, heb law’r colêrau, a’r arogl-bellenau, a’r gwiscoedd porphor y rhai am frenhinoedd Madian, ac heb law y tyrch y rhai am yddfau eu camelod hwynt.
27A Gedeon a wnaeth hynny yn Ephod, ac ai gosododd yn ei ddinas ei hun Ephra, a holl Israel a butteiniasant ar ei hôl hi yno: a bu yn dramgwydd i Gedeon, ac iw dŷ ef.
28Felly y darostyngwyd Madian o flaen meibion Israel, fel na chwanegasant dderchafu eu pennau: a’r wlâd a gafodd lonydd ddeugain mhlynedd yn nyddiau Gedeon.
29Yna Ierubbaal mab Ioas a aeth ymmaith, ac a drigodd yn ei dŷ ei hun.
30Ac i Gedeon yr oedd deng-mab a thrugain a ddeuthe allan oi gorph ef: canys gwragedd lawer oeddynt ganddo ef.
31Ai ordderch-wraig ef yr hon yn Sichem a ymddug hefyd iddo ef fab: ac efe a osododd ei henw ef yn Abimelech.
32Felly Gedeon mab Ioas a fu farw mewn oedran têg, ac a gladdwyd ym meddrod Ioas ei dad yn Ephra tad yr Esriaid.
33A phan fu farw Gedeon, yna meibion Israel a ddychwelasant, ac a butteiniasant ar ôl Baalim: ac a osodasant Baal-berith yn dduw iddynt.
34Felly meibion Israel ni chofiasant yr Arglwydd eu Duw: yr hwn ai gwaredase hwynt o law eu holl elynnion o amgylch.
35Ac ni wnaethant drugaredd a thŷ Ierubbaal Gedeon: yn ôl yr holl ddaioni a’r a wnaethe efe i Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.