Luc 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Genedigaeth Crist. 21 Ai enwaediad. 25 Prophwydoliaeth Simeon, ac Anna am dano ef. 46 Yntef yn ymresymmu â’r doctoriaid yn Ierusalem yn ddeuddec oed.

1Bu hefyd yn y dyddiau hynny fyned gorchymyn allan oddi wrth Augustus Cæsar i drethu yr holl fyd.

2(A’r trethiad ymma, a wnaethbwyd gyntaf pan oedd Cyrenius yn rhâglaw ar Syria)

3A phawb a aethant iw trethu bob vn iw ddinas ei hun.

4Ac aeth Ioseph o Galilæa o dref Nazareth i Iudæa, i dref Dafydd yr hon a elwir Ac wedi darfod i’r angelion fyned oddi wrthynt i’r nefoedd, yna y bugeiliaid a ddywedasant wrth eu gilydd: awn hyd Bethlehem, a gwelwn y peth hyn a ddangosodd yr Arglwydd i ni.

16A hwynt a ddaethant ar frys, ac a gawsant Mair, ac Ioseph: a’r dŷn bach yn gorwedd yn y preseb.

17Pan welsant, hwynt hwy a gyhoeddasant yr hyn a ddywedasid wrthynt am y bachgen hwnnw.

18A phawb a’r a’u clywsant, a ryfeddasant am y pethau a ddywedase y bugeiliaid iddynt.

19Eithr Mair a gadwodd y pethau hyn oll gan eu hystyried hwynt yn ei chalon.

20A’r bugeiliaid a ddychwelasant gan ogoneddu a moliannu Duw, am bôb peth a’r a glywsent, ac a welsent, fel y dywedasid iddynt.

21Aphan ddaeth yr Ac wedi cyflawni dyddiau puredigaeth yn ôl *deddf Moses, hwynt a’i dugasant ef i Ierusalem iw gyflwyno i’r Arglwydd,

23(Fel yr scrifennir yn neddf yr Arglwydd: Lefit.12.6. Exod.13.2. Num.8.18.pob gwryw cyntafanedic a elwir yn sanctaidd i’r Arglwydd)

24Ac i roddi offrwm, yn ôl yr hyn a ddywedir Lefit.12.6.yn neddf yr Arglwydd: pâr o durturod neu ddau gyw colomen.

25Ac wele yr oedd gŵr yn Ierusalem a’i enw Simeon, hwnnw oedd ŵr cyfiawn a duwiol, ac yn disgwil am ddiddanwch yr Israel, a’r Yspryd glân oedd arno.

26Ac yr oeddid wedi ei rybuddio ef gan yr Yspryd glân na wele efe angeu cyn iddo weled Crist yr Arglwydd.

27Efe a ddaeth trwy’r Yspryd i’r Deml, a phan ddug ei rieni y bachgen Iesu, i wneuthur trosto yn ôl defod y gyfraith:

28Efe a’i cymmerth ef yn ei freichiau, ac a foliannodd Dduw gan ddywedyd:

29Yr awran y gollyngi dy wâs mewn tangneddyf ô Arglwydd, yn ôl dy air,

30Canys fy llygaid a welsant dy iechydwriaeth,

31Yr hon a baratoaist yng-ŵydd yr holl bobloedd,

32Goleuni i dywynnu i’r cenhedloedd, a gogoniant dy bobl Israel.

33A rhyfeddu a wnaeth Ioseph a’i fam ef, am y pethau a ddywedwyd am dano ef.

34A Simeon a’i bendithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Fair ei fam ef: Esa.8.14. Rhuf.9.32. 1.Pet.2.8.Wele, hwn a osodwyd yn gwymp, ac yn gyfodiad i lawer yn Israel, ac yn arwydd i ddywedyd yn ei erbyn.

35(A thrwy dŷ enaid di dy hun yr aiff y cleddyf) i ddadcuddio meddyliau llawer o galonnau.

36Ac yr oedd Anna brophwydes merch Phanuel o lwyth Aser: hon oedd oedrannus iawnwedi iddi fyw gyd â gŵr saith mlynedd, o’i morwyndod:

37Ac yn weddw yng-hylch pedair a phedwar vgain mhlynedd: yr hon nid ae allan o’r Deml, gan wasanaethu mewn ymprydiau a gweddiau, dydd a nos.

38A hon hefyd yn yr awr honno gan sefyll ger llaw a gyd-foliannodd yr Arglwydd, ac a lefarodd am dano ef wrth y rhai oll oeddynt yn Ierusalem yn edrych am ymwared.

39Ac wedi iddynt orphen pob peth yn ôl deddf yr Arglwydd, dychwelasant i Galilæa iw dinas Nazareth.

40A’r bachgen a gynnyddodd, ac a gryfhaodd yn yr Yspryd, yn llawn o ddoethineb: a grâs Duw oedd gyd ag ef.

41A’i rieni ef a aent i Ierusalem bôb blwyddyn Deut.16.1.ar ŵyl y Pasc.

42Pan oedd efe yn ddeuddeng-mlwydd oed, hwynt hwy a aethant i fynu i Ierusalem yn ôl defod yr ŵyl.

43Wedi gorphen y dyddiau, a hwynt yn dychwelyd, arhosodd y bachgen Iesu yn Ierusalem: yr hwn beth ni wydde Ioseph a’i fam ef.

44Eithr gan dybied ei fod efe yn y fintai, myned a wnaethant daith diwrnod, ac hwy a’i ceisiasant ef ym mhlith eu cenedl a’i cydnabod.

45A phryd na chawsant ef, hwynt a ddychwelasant i Ierusalem, gan ei geisio ef.

46A bu yn ôl tri-diau gael o honynt hwy ef yn y Deml yn eistedd yng-hanol y doctoriaid yn gwrando arnynt, ac yn eu holi hwynt.

47A synnu a wnaeth pawb ar a’i clywsant ef, am ei ddoethineb a’i attebion.

48A phan welsant ef rhyfeddu a wnaethant, a’i fam a ddywedodd wrtho: fy mab pa ham y gwnaethost felly â ni? wele dy dad a minne yn ofidus a’th geisiasom di.

49Ac efe a ddywedodd wrthynt: Pa ham y ceisiech fi? oni ŵyddech fod yn rhaid i mi fod yng-hylch y pethau a berthynant i’m Tad?

50Eithr hwynt ni ddeallasant y geiriau a ddywedodd efe wrthynt.

51Yna yr aeth efe i wared gyd â hwynt, ac y daeth i Nazareth, ac a fu vfudd iddynt.

52 A’i fam ef a gadwodd yr holl bethau hyn yn ei chalon.

53A’r Iesu a gynnyddodd mewn doethineb, a chorpholaeth, a ffafor gyd â Duw a dynion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help