Exodus 15 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XV.Israel yn moliannu Duw am y fuddugoliaeth. 23 Chwerw ddyfroedd Maiah. 27 ffynhonnau Elim.

1Yna y Deut.10.20.cânodd Moses a meibion Israel y gân hon i’r Arglwydd, ac a lefarasant gan ddywedyd: canaf i’r Arglwydd; canys gwnaeth yn rhagorol iawn, taflodd y march, ai farchog i’r môr.

2Fy nerth a’m cân’r Arglwydd, ac y mae efe yn iechydwriaeth i mi: dymma fy Nuw, efe a ogoneddafi, Dduw fynhad, a mi ai derchafaf ef.

3Yr Arglwydd ryfel-wr: yr Arglwydd ei enw.

4Efe a daflodd gerbydau Pharao ai fyddin yn y môr: ei gaptenniaid dewisol a foddwyd yn y môr côch.

5Y dyfnderau ai toasant hwynt: descynnasant i’r gwaelod fel carrec.

6Dy ddeheu-law Arglwydd sydd ardderchoc o nerth: a’th ddeheu-law Arglwydd y ddrylli y gelyn.

7Yn amldra dy ardderchawgrwydd y tynnaist i lawr y rhai a gyfodasant i’th erbyn: dy ddigofaint a anfonaist ac efe ai hyssodd hwynt fel sofl.

8Trwy chwythad dy ffroenau y casglwyd y dyfroedd, y ffrydau a safasant fel pen-twrr: y dyfnderau a geulasant yng-hanol y môr.

9Y gelyn a ddywedodd mi a erlidiaf, mi a ddaliaf, mi a rannaf yr yspail: caf fyng-wynfyd arnynt, tynnaf fyng-hleddyf, fy llaw ai gorescyn hwynt.

10Ti a chwythaist a’th wynt, y môr ai tôawdd hwynt: soddasant fel plwm yn y dyfroedd cryfion.

11Pwy debyg i ti ô Arglwydd ym mhlith y duwiau? pwy fel tydi yn rhagorawl mewn sancteiddrwydd? yn ofnadwy o foliant, yn gwneuthur rhyfeddodau?

12Estynnaist dy ddeheulaw, llyngcodd y ddaiar hwynt.

13Arweiniaist yn dy drugaredd y bôbl y rhai a waredaist: yn dy nerth y tywysaist i anheddle dy sancteiddrwydd.

14Y bobloedd a glywant a ofnant: dolur a ddeil bresswyl-wyr Palestina.

15Yna y synna ar ddugiaid Edom hyrddod Moab, ofn ai deil hwynt: holl bresswyl-wyr Canaan a lesmeiriant.

16Ofn Deut.2.25. Iosu.2.9.ac arswyd a syrth arnynt, gan fawredd dy fraich y tawant fel carrec: nes myned trwodd o’th bôbl di Arglwydd, nes myned o’r bôbl y rhai a enillaist ti trwodd.

17Ti ai dygi hwynt i mewn, ac ai plenni hwynt ym mynydd dy etifeddiaeth, y lle a wnaethost ô Arglwydd yn anneddle it: y cyssegr Arglwydd a ddarparodd dy ddwylaw.

18Yr Arglwydd a deyrnasa byth, ac yn dragywydd.

19O herwydd meirch Pharao ai gerbydau, ai farchogion a ddaethant i’r môr, a’r Arglwydd a ddychwelodd ddyfroedd y môr arnynt: ond meibion Israel aethant a’r dîr sych drwy ganol y môr.

20A Miriam y brophwydes chwaer Aaron a gymmerodd dympan yn ei llaw: a’r holl fenwyaid a aethant allan ar ei hol a thympanau, ac a phibellau.

21A dywedodd Miriam wrthynt: cenwch i’r Arglwydd, canys gwnaeth yn ardderchog, bwriodd y march a’r marchog i’r môr.

22Yna Moses a ddug Israel oddi wrth y môr coch, ac aethant allan i anialwch Sur: a hwynt a gerddasant dri diwrnod yn yr anialwch ac ni chawsant ddwfr.

23Pan ddaethant i Marah ni allent yfed dyfroedd Mara, am eu bod yn chwerwon: o herwydd hynny y gelwir ei henw hi Marah.

24Yna’r bobl a duchanasant yn erbyn Moses gan ddywedyd, beth a yfwn?

25Ac efe a waeddodd ar yr Arglwydd, a’r Arglwydd a ddangossodd iddo ef brenn, ac efe a fwriodd i’r dyfroedd, a’r dyfroedd a bereiddiasant: yno efe a osododd iddo ddeddf, a chyfraith, ac efe ai profodd ef yno.

26Ac a ddywedodd, os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, ac os gwnei di yr hyn a fyddo inion yn ei olwg ef, a rhoddi clust iw orchymynnion ef, a chadw ei holl ddeddfau ef: ni roddaf arnat vn o’r clefydau y rhai a roddais ar yr Aiphtiaid, o herwydd myfi yr Arglwydd dy iachawdur.

27A daethant Num.33.9.i Elim, ac yno yr oedd deuddec ffynnon o ddwfr, a dec palm-wydden, a thrivgain: a hwynt a werssyllasant yno wrth y dyfroedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help