1Pan fyddo ymrafael rhwng dynion, ai dyfod i’r gyfraith iw barnu: yna cyfiawnhant y cyfiawn, a beiant y beius.
2Ac o bydd y mab drygionus iw guro: yna pared y barnwr iddo orwedd, a phared ei guro ef ger ei fron ei hun yn ol ei ddryganieth dann rifedi.
3Pared iddo ddeugain na chwaneged, rhac chwanegu o honaw ei guro ef a llawer gwialennod vwch law hyn: a dirmygu dy frawd yn dy olwg.
4 1.Cor.9.9. 1.tim.5.18.|1TI 5:18. Ruth. 4.3.|RUT 4:3. mat.22.24.|MAT 22:24. mar.12.19. Na chae safn ŷch tra fyddo yn dyrnu.
5Os * brodyr a drigant yng-hyd, a marw vn o honynt ac heb fab iddo, na phrioded gwraig y marw ŵr dieithr oddi allan: aed ei chyfathrach-wr atti, a chymmered hi yn wraig iddo, a gwnaed iddi ran cyfathrach-wr.
6A bydded i’r cyntaf-anedic yr hwn a ymddwg hi sefyll ar enw ei frawd yr hwn fu farw: fel na ddeleuer ei enw ef allan o Israel.
7Ac oni bydd bodlon y gwr i gymmeryd ei gyfathrach-wraig, yna aed ei gyfathrach-wraig i fynu i’r porth at yr henuriaid, a dyweded: gwrthododd fyng-hyfathrach-wr godi iw frawd enw yn Israel, ni fynne efe wneuthur rhan cyfathrach-wr a mi.
8Yna galwed henuriaid ei ddinas amdano ef, ac ymrysymmant ag ef: o saif efe, a dywedyd, nid wyfi fodlon iw chymmeryd hi,
9Yna nessaed ei gyfathrach-wraig atto ef yng-ŵydd yr henuriaid a dattoded ei escîd ef oddi am ei droed, a phoered yn ei wyneb ef, a thestiolaethed, a dyweded: felly y gwneir i’r gŵr yr hwn nid adailado dŷ ei frawd.
10A gelwir ei henw ef yn Israel: tŷ’r hwn y dattodwyd ei escid.
11O therfysca dynion yng-hyd gŵr ai frawd, a nessau gwraig y naill i achub ei gŵr o law ei drawudd, ac estyn ei llaw ac ymaflyd yn ei warthle efe.
12Torr ymmaith ei llaw hi: nac arbeded dy lygad
13Na fydded gennit yn dy gôd amryw bwys: mawr a bychan.
14Na fydded gennit yn dy dŷ amryw fesur: Exod.16.36.[sef] mawr a bychan.
15Bydded gennit garrec gyflawn, a chyfiawn, bydded gennit Epha gyflawn a chyfiawn: fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaiar yr hon y mae’r Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi it.
16Canys ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw bôb vn a wnelo hyn, pawb ar a wnel anwiredd.
17 Exod.17.8. Cofia yr hyn a wnaeth Amalec i ti ar y ffordd pan ddaethoch allan o’r Aipht.
18Yr hwn a’th gyfarfu ar y ffordd, ac a laddodd o honot yr holl weiniaid 83 o’th ôl di: a thi yn lluddedic, ac yn ddeffygiol: ac nid ofnodd efe Dduw.
19Am hynny bydded pan esmwytho’r Arglwydd dy Dduw arnat oddi wrth dy holl elynnion oddi amgylch, yn y tîr yr hwn y mae’r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi it yn etifeddiaeth iw orescyn, dynnu o honot ymmaith goffadwriaeth Amalec oddi tann y nefoedd: nac anghofia
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.