1Yna Moab a wrthryfelodd yn erbyn Israel, wedi marwolaeth Ahab.
2Ac Ahazia a syrthiodd drwy fenestr ddellt oi loft yr hon yn Samaria, ac a glafychodd: am hynny efe a anfonodd gennadau, ac a ddywedodd wrthynt, ewch, ac ymofynnwch a Baal-zebub duw Ecron, a fyddafi byw o’r clefyd hwn.
3Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Elias y Thesbiad, cyfot, dos i fynu i gyfarfod a chennadau brenin Samarai: a dywet wrthynt, ai am nad Dduw yn Israel yr ydych chwi yn myned i ymgynghori a Baal-zebub duw Ecron?
4Ac am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, ni ddescynni o’r gwely’r hwn y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw: felly Elias a aeth ymmaith.
5Pan ddychwelodd y cennadau atto ef: efe a ddywedodd wrthynt hwy, pa ham y dychwelasoch chwi?
6A hwynt a ddywedasant wrtho, gŵr a ddaeth i fynu i’n cyfarfod ni, ac a ddywedodd wrthym ni, ewch, dychwelwch at y brenin yr hwn a’ch anfonodd chwi, a lleferwch wrtho ef, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, ai am nad Duw yn Israel yr ydwyt ti yn anfon i ymgynhori a Baal-zebub duw Ecron? o herwydd hynny ni ddescynni o’r gwely yr hwn y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw.
7Ac efe a ddywedodd wrthynt, pa ddull y gŵr yr hwn a ddaeth i fynu i’ch cyfarfod chwi, ar a lefarodd wrthych yr ymadroddion ymma?
8Ac hwy a ddywedasant wrtho ef, gŵr blewog oedd efe, wedi ymwregyssu hefyd a gwregys croen am ei lwynau: yna y dywedodd yntef, Elias y Thesbiad efe.
9Yna efe a anfonodd atto ef dywysog ar ddêc a deugain gyd ai ddêc a deugain: yr hwn a aeth i fynu atto ef, (ac wele ef yn eistedd ar ben y mynydd) ac a lefarodd wrtho ef, o ŵr Dduw, y brenin a lefarodd, tyret i wared.
10Ac Elias a attebodd, ac a ddywedodd wrth dywysog y dêc a deugain, os gŵr Duw ydwyfi, descynned tân o’r nefoedd, ac yssed di, a’th ddêc a deugain: felly tân a ddescynnodd o’r nefoedd, ac ai hyssodd ef, ai ddêc a deugain.
11A’r a anfonodd eilwaith atto ef dywysog dêc a deugain arall, ai ddêc a deugain: ac efe a lefarodd, ac a ddywedodd, ô ŵr Duw fel hyn yr archodd y brenin, tyret i wared yn ebrwydd.
12Ond Elias a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt hwy, os gŵr Duw ydwyfi, descynned tân o’r nefoedd, ac yssed di a’th ddêc a deugain: felly tân Duw a ddescynnodd o’r nefoedd, ac ai hyssodd ef, ai ddêc a deugain.
13[Y brenin] gan hynny a anfonodd etto y trydydd tywysog ddêc a deugain, ai ddêc a deugain: a’r trydydd tywysog ddêc a deugain a aeth i fynu, ac a ddaeth, ac a ymgrymmodd ar ei liniau ger bron Elias, ac a ymbiliodd ag ef, ac a lefarodd wrtho ef, o ŵr Duw, attolwg bydded fy enioes i, ac enioes dy ddêc gwâs a deugain hyn yn werthfawr yn dy olwg di.
14Wele descynnodd tân o’r nefoedd, ac yssodd y ddau dywysog gyntaf ar ddêc a deugain, ai ddêc a deugain: ond yn awr bydded fy enioes i yn werthfawr yn dy olwg di.
15Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Elias, dos i wared gyd ag ef, nac ofna rhac ei wyneb ef: felly efe a gyfododd, ac a aeth i wared gyd ag ef at y brenin.
16Ac efe a ddywedodd wrtho ef, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, o herwydd it anfon cennadau i ymgynghori a Baal-zebub duw Ecron (ai am nad Duw yn Israel i ymgynghori ai air) am hynny ni ddescynni o’r gwely’r hwn y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw.
17Felly efe a fu farw yn ôl gair yr Arglwydd yr hwn a lefarase Elias, ac Ioram a deyrnasodd yn ei le ef yn yr ail flwyddyn i Ioram fab Iehosaphat brenin Iuda: canys nid oedd mab iddo ef.
18A’r rhan arall o hanes Azaria, y rhai a wnaeth efe: onid ydynt hwy yn scrifennedic yn 1.Bren.11.41.llyfr Cronicl brenhinoedd Israel?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.