Zacharias 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.Gweledigaeth y canhwyll-bren aur ai deongliad.

1A’r Angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi a ddychwelodd, ac a’m deffrôdd fel y deffroir vn oi gwsc.

2Ac efe a ddywedodd wrthif, beth a weli? yna y dywedais: edrychais, ac wele ganhwyll-bren oll o aur, ai gaead ar ei ben, ai saith lusern arno, a saith o bibellau i’r lusernau y rhai oeddynt ar ei benn ef.

3A dwy oliwydden wrtho, y naill o’r tu dehau, a’r llall o’r tu asswy i’r caead:

4Ac mi a attebais, ac a ddywedais wrth yr Angel a oedd yn ymddiddan â mi, gan ddywedyd, beth y rhai hyn fy Arglwydd?

5A’r Angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi, a attebodd, ac a ddywedodd wrthif: oni wyddost beth y rhai ymma? yna y dywedais, na wn fy Arglwydd.

6Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrthif, gan ddywedyd: hyn gair yr Arglwydd at Zorobabel gan ddywedyd: nid â llu, ac nid â nerth, ond a’m Hyspryd mau fi medd Arglwydd y lluoedd.

7Pwy ti y mynydd mawr? ger bron Zorobabel yn wastad: ac efe a ddŵg allan y maen pennaf weiddi, rhâd, rhâd iddo.

8Daeth gair yr Arglwydd attaf trachefn gan ddywedyd:

9Dwylo Zorobabel a sylfaenasant y tŷ hwn, ai ddwylo ef ai gorphen, a chei ŵybod mai Arglwydd y lluoedd am hebryngodd attoch.

10Canys pwy a ddiystyrodd ddydd y bychain? llawenychant pan welant y garrec alcam yn llaw Zorobabel, dymma saith lygaid yr Arglwydd, y rhai yn myned trwy’r holl dîr.

11A mi a attebais, ac a ddywedais wrtho ef, beth y ddwy oliwydden hyn, ar y tu dehau i’r canhwyll-bren, ac ar ei asswy?

12Ac mi a attebais trachefn, ac a ddywedais wrtho ef, beth y ddau bingcin oliwydden, y rhai trwy y ddwy bibell aur sydd yn tywallt o honynt aur?

13Ac efe a lefarodd wrthif gan ddywedyd, oni ŵyddost pa beth y rhai hyn? a dywedais, fy Arglwydd.

14Ac efe a ddywedodd, dymma y ddwy gaingc oliwydden y rhai ydynt yn sefyll ger bron Arglwydd yr holl dir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help