Genesis 36 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXVI.2 Gwragedd Esau. 7 Cyfoeth Iacob, ac Esau. 9 Hiliogaeth Esau. 24 Caffaeliad mûlod.

1Ac dymma genedlaethau Esau: efe yw Edom.

2Esau a gymmerth ei wragedd o ferched Canaan: Ada, merch Elon yr Hethiad, ac Aholibama merch Ana, merch Sibeon yr Hefiad.

3Basemath hefyd merch Ismael, chwaer Nebaioth.

4Ac 1.Cron.1.35.Ada a ymddug Eliphas i Esau, a Basemath a escorodd ar Rehuel.

5Aholibama hefyd a escorodd ar Iehus, ac Ialam, a Chorah: dymma feibion Esau, y rhai a anwyd iddo yng-wlad Canaan.

6Ond Esau a gymmerase ei wragedd, ai feibion, ai ferched, a holl ddynion ei dŷ, ai anifeiliaid, ai holl yscrubliaid, ai holl gyfoeth ef yr hyn a gasglase efe yng-wlad Canaan, ac a aeth ymmaith i wlad cynn dyfod ei frawd Iacob.

7O blegit eu cyfoeth hwynt oedd fwy, nac y gellynt gyd trigo: ac nis galle gwlâd eu hymdaith eu cynnwys hwynt gan eu hanifeiliaid.

8Felly y Iosua. 24.4.trigodd Esau ym mynydd Seir: Esau Edom.

9Ac dymma genedlaethau Esau tâd yr Edomiaid ym mynydd Seir.

10Dymma henwau meibion Esau: 1.Cron.1.35.Eliphas mâb Ada gwraig Esau: Rehuel mâb Basemath gwraig Esau.

11A meibion Eliphas oeddynt Theman, Omar, Sepho, a Gatham, a Chenaz.

12A Thimna oedd ordderch-wraig i Eliphas mab Esau, ac a escorodd Amalec i Eliphas, dymma feibion Ada gwraig Esau.

13Ac dymma feibion Rehuel: Nahath, a Serah, Samma, a Mizza, y rhai hyn oeddynt feibion Basemath gwraig Esau.

14Hefyd y rhai hyn oeddynt feibion Aholibama merch Ana, merch Sibeon gwraig Esau: a hi a ymddug i Esau, Iehus, ac Ialam, a Chorah.

15Dymma ddûgiaid meibion Esau: meibion Eliphas cyntafanedic Esau, duwc Theman, duwc Omar, duwc Sepho, duwc Cenaz.

16Duwc Corah, duwc Gatham, duwc Amalec: dymma ddûgiaid Eliphas yng-wlad Edom: dymma feibion Ada.

17Ac dymma feibion Rehuel mab Esau, duwc Nahath, duwc Serah, duwc Samma, duwc Mizza: dymma ddugiaid Rehuel, yng-wlad Edom: dymma feibion Basemath gwraig Esau.

18Dymma hefyd feibion Aholibama gwraig Esau, duwc Iehus, duwc Ialam, duwc Corah: dymma ddugiaid Aholibama merch Ana gwraig Esau.

19Dymma feibion Esau, a dymma eu dûgiaid hwynt: efe Edom.

20Dymma feibion Seir yr Horiad, cyfanneddwyr y wlad Lotan, a Sobal, a Sibeon, ac Ana.

21A Dison, ac Eser, a Disan: dymma ddûgiaid yr Horiaid meibion Seir yng-wlad Edom.

22A meibion Lotan oeddynt Hori, a Hemam: a chwaer Lotan Thimna.

23A dymma feibion Sobal: Alfan, a Manahath, ac Ebal, Sepho, ac Onam.

24Ac dymma feibion Sibeon: sef, Aia, ac Ana: hwn yw Ana’r hwn a gafodd y mulod yn yr anialwch wrth borthi o honaw asŷnnod Sibeon ei dâd.

25Ac dymma feibion Ana: Dison ac Aholibama merch Ana.

26Dymma hefyd feibion Dison: Hemdan, ac Esban, ac Iethran, a Cheran.

27Dymma feibion Eser, Bilhan, a Saafan, ac Acan.

28Dymma feibion Disan: Us, ac Aran.

29Dymma ddugiaid yr Horiaid: Duwc Lotan, duwc Sobal, duwc Sibeon, duwc Ana,

30Duwc Dison, duwc Eser, duwc Disan: dymma ddugiaid yr Horiaid, wrth eu dugiaethau yng-wlâd Seir.

31Dymma hefyd y brenhinoedd y rhai a deyrnasasant yng-wlad Edom cyn teyrnasu brenin ar feibion Israel.

32Yn gyntaf y teyrnasodd yn Edom Bela mab Beor: a henw ei ddinas ef Dinhebah.

33Yna Bela a fu farw: a Iobab mab Serah o Bosra a deyrnasodd yn ei le ef.

34Iobab hefyd a fu farw: a Husam o wlâd Temani, a deyrnasodd yn ei le ef.

35A bu Husan farw: yna Hadad mab Bedad yr hwn a darawodd y Midian ym maes Moab, a deyrnasodd yn ei le ef: a henw ei ddinas ef Afith.

36Marw hefyd a wnaeth Hadad, a Samlah o Masrecah a deyrnasodd yn ei le ef.

37A bu Sumla farw; a Saul, o Rehoboth wrth yr afon, a deyrnasodd yn ei le ef.

38A phan fu Saul farw, a Baalhanan mab Achbor a deyrnasodd yn ei le ef.

39A phan fu Baalhanan mab Achbor farw: Hadar a deyrnasodd yn ei le ef, a henw ei ddinas ef Pau: A henw ei wraig Mehetabel, merch Matred, merch Mezahab.

40Dymma gan hynny henwau y dûgiaid Esau ynol eu teuluoedd hwynt, yn eu trig-leoedd hwynt, erbyn eu henwau hwynt: duwc Timna, duwc Alfah, duwc Ietheth.

41Duwc Aholibama, duwc Ela, duwc Pinon.

42Duwc Cenaz, duwc Theman, duwc Mibsar,

43Duwc Magdiel, duwc Iran: dymma ddugiaid Edom, yn ol eu presswylfeudd yng-wlad eu perchennogaeth hwynt: dymma Esau tâd yr Edomiaid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help