1Yna y brenin a anfonodd: 2.Cron.34.29.a holl henuriaid Iuda, ac Ierusalem a ymgynnullasant atto ef.
2A’r brenin a aeth i fynu i dŷ’r Arglwydd, a holl wŷr Iuda, a holl drigolion Ierusalem gyd ag ef, yr offeiriaid hefyd a’r prophwydi, a’r holl bobl o fychan hyd fawr: ac efe a ddarllenodd lle y clywsant hwy holl eiriau llyfr y cyfammod, yr hwn a gawsid yn nhŷ’r Arglwydd.
3A’r brenin a safodd wrth 2.Bren.11.14.y golofn, ac a wnaeth gyfammod ger bron yr Arglwydd ar fyned ar ôl yr Arglwydd, ac ar gadw ei orchymynnion ef, ei destiolaethau, ai ddeddfau, ai holl galon, ac ai holl enaid, gan gwplau geiriau y cyfammod hwn, y rhai oeddynt scrifennedic yn y llyfr hwnnw: a’r holl bobl a safodd wrth y cyfammod.
4Yna y brenin a orchymynnodd i Helecia yr arch-offeiriad, ac i’r offeiriaid o’r ail ac i geidwaid y cyntedd ddwyn o deml yr Arglwydd yr holl lestri y rhai a wnelsid i Baal, ac i’r llwyn, ac i holl lu y nefoedd: ac ai lloscodd hwynt o’r tu allan i Ierusalem ym meusydd Cedron, ac a ddug eu llŵch hwynt i Bethel.
5Ac efe a ddiswyddodd offeriaio y rhai a osodase brenhinoedd Iuda i arogldarthu yn yr dchelfcudd, yn ninasoedd Iuda, ac yn amgylchion Ierusalem: a’r rhai oeddynt yn arogl-darthu i Baal, i’r haul, ac i’r lleuad, ac i’r planedau, ac i holl lû y nefoedd.
6Efe a ddûg allan hefyd y llwyn o dŷ’r Arglwydd i’r tu allan i Ierusalem hyd afon Cedron, ac ai lloscodd ef wrth afon Cedron, ac ai malodd yn llwch: ac a daflodd ei lwch ar feddau meibion y bobl.
7Ac efe a ddestruwiodd dai y Sodomiaid y rhai wrth dŷ’r Arglwydd: lle yr oedd y gwragedd yn gweu cortynau i’r llwyn.
8Ac efe a ddûg yr holl offeiriaid o ddinasoedd Iuda, ac a halogodd yr vchelfeudd y rhai yr oedd yr offeiriaid yn arogldarthu arnynt o Geba hyd Beer-seba: destruwiodd hefyd vchelfeudd y pyrth y rhai ddrws porth Iosuah tywysog y ddinas, yr hwn ar y llaw asswy i bawb i borth y ddinas.
9Etto offeiriaid yr vchelfeudd ni ddaethant i fynu ac allor yr Arglwydd i Ierusalem: ond hwy a fwytawsant fara croiw ym mysc eu brodyr.
10Efe hefyd a ddifwynodd Topheth yr hon yn nyffryn meibion Hinnom: fel na yrre neb ei fab, nai ferch drwy dân i Moloch.
11Ac efe a ddifethodd y meirch y rhai a roddase brenhinoedd Iuda i’r haul, o ddyfodfa tŷ yr Arglwydd i stafell Nathan-melech yr stafelludd yr hwn ar y pentrefydd: ac efe a loscodd gerbydau’r haul yn tân.
12Yr allorau hefyd y rhai ar nenn stafell Ahas, y rhai a wnelse brenhinoedd Iuda, a’r allorau y rhai a wnelse Manasses yn nau gyntedd tŷ’r Arglwydd a ddestruwiodd y brenin: ac a redodd oddi yno, ac a daflodd eu llŵch hwynt i afon Cedron.
13Y brenin hefyd a ddifwynodd yr vchelfeudd y rhai ar gyfer Ierusalem, y rhai o’r tu dehau i fynydd y llwgredigaeth, y 1.Bren.11.7.rhai a adailadase Salomon brenin Israel i Asteroth gaudduw y Sidoniaid, ac i Chamos gaudduw y Moabiaid, ac i Milchom gaudduw meibion Ammon.
14Ac efe a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwynau: ac a lawnodd eu lle hwynt ag escyrn dynion.
15Yr allor hefyd 1.Bren.12.29.yr hon yn Bethel vchelfa’r hon a wnaethe Ieroboam mab Nabat’r hon y gwnaethe efe’r Israel bechu, îe’r allor, honno a’r vchelfa a ddestruwiodd efe: ac efe a loscodd yr vchelfa, malodd yn llŵch, ac a loscodd y llwyn.
16Ac Iosia a edrychodd, ac a ganfu feddau y rhai yno yn y mynydd, anfonodd hefyd, a chymmerth yr escyrn o’r beddau, ac ai lloscodd ar yr allor, ac ai halgodd hi: yn ôl gair yr Arglwydd yr hwn a gyhoeddase gŵr Duw, yr hwn a bregethase y geiriau hynny.
17Yna efe a ddywedodd, pa lun hwn yr hwn yr ydwyfi yn ei weled? a gwŷr y ddinas a ddywedasant wrtho ef, bedd gŵr Duw’r hwn a ddaeth o Iuda, ac a brophwydodd y pethau hyn y rhai a wnaethost ti i allor Bethel.
18Ac efe a ddywedodd, gedwch ef yn llonydd, nac ymyrred neb ai escyrn ef: felly’r achubasant ei escyrn ef gyd ag escyrn 1.Bren.13.31.y prophwyd yr hwn a ddaethe o Samaria.
19Iosia hefyd a dynnodd ymmaith holl dai’r vchelfeudd y rhai yn ninasoedd Samaria, y rhai a wnelse brenhinoedd Israel i ddigio ac efe a wnaeth iddynt yn ôl yr holl weithredoedd y rhai a wnelse efe yn Bethel.
20Ac efe a laddodd holl offeiriaid yr vchelfeudd y rhai yno, ar yr allorau, ac a loscodd escyrn dynion arnynt hwy: ac a ddychwelodd i Ierusalem.
21Yna’r brenin 2.Cron.35.1|2CH 35:1. 3.Esdra.1.1.a orchymynnodd i’r holl bobl gan ddywedyd, gwnewch Basc i’r Arglwydd eich Duw, Exod.18.3. Deut.16.2.fel y mae yn scrifennedic yn llyfr y cyfammod hwn.
22Canys ni wnaed y fath Basc a hwn, er dyddiau y barn-wŷr y rhai a farnasant Israel: nac holl ddyddiau brenhinoedd Israel, na brenhinoedd Iuda.
23Ac yn y ddeu-nawfed flwyddyn i frenin Iosia y cynhaliwyd y Pasc hwn i’r Arglwydd yn Ierusalem.
24Y swynyddion hefyd, a’r dewiniaid, a’r delwau, a’r eulynnod, a’r holl ffieidd-dra y rhai a welwyd yng-wlâd Iuda, ac yn Ierusalem, a dynnodd Iosia ymmaith: fel y cyflawne efe Lefit.20.27. Deut.18.11.eiriau y gyfraith, y rhai oeddynt yn scrifennedic yn y llyfr yr hwn a gafodd Helcia’r offeiriad yn nhŷ’r Arglwydd.
25Ac ni bu oi flaen ef frenin oi fath ef, yr hwn a drôdd at yr Arglwydd ai holl galon, ac ai holl enaid, ac ar holl egni, yn ôl cwbl o gyfraith Moses: ac ar ei ôl ef ni chyfododd ei fâth ef.
26Er hynny ni thrôdd yr Arglwydd oddi wrth lid ei ddigofaint mawr ef’r hwn y llidiodd ei ddigllonedd ef yn erbyn Iuda: o herwydd yr holl ddigter yr hwn y digiase Manasses ef.
27Am hynny y dywedodd yr Arglwydd, Iuda hefyd a fwrriaf ymmaith o’m gŵydd, fel y bwrriais ymmaith y ddinas hon Ierusalem, yr hon a ddetholais, a’r tŷ yr hwn y dywedais, 1.Bren.8.29. & 9.3. 2.Bren.21.7.fy enw a fydd yno.
28A’r rhan arall o hanes Iosia, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe: onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinnoedd Iuda?
29Yn ei ddyddiau ef y daeth Pharao Necho brenin yr Aipht i fynu yn erbyn brenin Assyria hyd afon Euphrates: 2.Cron.35.20.a’r brenin Iosia a aeth iw gyfarfod ef, a ai lladdodd ef ym Megido, pan ei gwelodd ef.
30Ai weision ai cludasant ef mewn cerbyd yn farw o Megido, ac ai dugasāt ef i Ierusalem, ac ai claddasant ef yn ei feddrod ei hun: a 2.Cron.36.1.phobl y wlâd a gymmerasant Ioachaz ei fab ef, ac ai heneiniasant ef, ac ai hurddasant ef yn frenin yn lle ei dad.
31Mab tair blwydd ar hugain Ioachaz pan aeth efe yn frenin, a thri mîs y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac enw ei fam ef Hamutal merch Ieremia o Libna.
32Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd: yn ôl yr hyn oll a’r a wnaethe ei dadau ef.
33A Pharao Necho ai rhwymodd ef yn Riblah yng-wlad Hemath, pan oedd efe yn teyrnasu yn Ierusalem: ac a osododd dreth ar y wlâd cant talent o arian, a thalent o aur.
34A Pharao Necho a osododd Eliacim fab Iosia yn frenin yn lle Iosia ei dâd, ac a drôdd ei henw ef Ioachim: ac efe a ddûg ymmaith Ioachaz, ac a ddaeth i’r Aipht, ac yno y bu efe farw.
35Ac Ioachim a roddodd i Pharao yr arian, a’r aur, ond efe a drethodd y wlâd i roddi arian wrth orchymyn Pharao: efe a drethodd bob vn o bobl y wlâd yn ôl ei allu, arian, ac aur iw rhoddi i Pharao Necho.
36Mab pum mlwydd ar hugain Ioachim pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac vn mlynedd ar ddec y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac enw ei fam ef Zebuda merch Pedaia o Ruma.
37Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwybd: yn ôl yr hyn oll a wnelse ei dadau ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.