1Anfonwch oen i lywodraeth-wr y tir o graig yr anialwch, i fynydd merch Sion.
2Ac fel y bydd aderyn yn gwibio wedi ei ollwng nŷth, y bydd merched Moab rydau Arnon.
3Dŵg gyngor, gwna farn, gosot yng-halon hanner dydd dy gyscod fel nôs: cuddia y rhai gwascaredic, na ddatcuddia y cyrwydrad.
4Triged fyng-wascaredigion yn dy fysc di, Moab bydd di loches iddynt rhag y dinistrudd, canys diweddwyd y gorthrymmudd, yr anrheith-wŷr a ballasant, y mathr-wŷr a ddarfuant o’r tir.
5A gorsedd-faingc a ddarperir mewn trugaredd, ac arni yr eistedd mewn gwirionedd o fewn pabell Dafydd vn yn barnu, ac yn ceisio barnedigaeth, ac yn pryssuro at gyfiawnder.
6Clywsom falchder Moab, balch iawn ei falchder, ai draha, ai ddigllonedd nid felly Ier.48.2.ei gelwyddau.
7Am hynny’r vda Moabiad wrth Moabiad, pob vn a vda: am sylfeini Cir Hareseth y griddfenwch, er hynny hwynt a darewir.
8Canys gwin-wŷdd Hesbon a dorrwyd i lawr, win-wydden Sibma arglwyddi y cenhedloedd a escydwasant ei phêr winwydd hi, hyd Iazer y cyrhaeddasant, cyrwydrasant ar hŷd yr anialwch, ei changhennau a ymestynnasant, a aethant tros y môr.
9Am hynny’r wylaf tros Iazer, gwinwydden Sibma, dwfrhaf dithe Hesbon, ac Eleale a’m dagrau: canys ar dy ffrwythydd haf, ac ar dy gynhaiaf y syrthiodd bloedd.
10Y llawenydd hefyd a’r gorfoledd a dderfydd o’r dolydd, ni chenir, ac ni chrechwenir yn y gwinllannoedd, ni sathr sathrudd wîn yn y gwryfoedd: gwnaf i gân hyfrydaidd beidio.
11Am hynny y rhûa fy emyscaroedd am Moab fel telyn, a’m perfedd am Cir Hares.
12A phan weler blino o Moab ar yr vchel fann, yna y daw efe iw gyssegr i weddio, ond ni thyccia.
13Dymma yr gair yr hwn a lefarodd yr Arglwydd yn erbyn Moab yr amser hwnnw.
14Llefarodd yr Arglwydd yr awr hon hefyd gan ddywedyd: o fewn tair blynedd fel blynyddoedd gwâs cyflog y dirmygir gogoniant Moab ym mhôb tyrfa fawr, a’r gweddill ychydig bach, dirym.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
