1Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Ioel fab Pethuel.
2Gwrandewch hyn chwi henuriaid, a rhoddwch glust holl drigiolion y wiâd: a fu y fâth beth yn eich dyddiau? neu yn nyddiau eich tadau?
3Mynegwch hyn i’ch plant, a’ch plant iw plant hwythau, ai plant hwythau i’r genhedlaeth nesaf.
4Gweddill y lindis a fwyttaodd y ceiliog rhedyn, a gweddill y ceiliog rhedyn a ddifaodd pryf y rhwd, a gweddill pryf y rhwd a yssodd y Locust.
5Deffroiwch fedd-wŷr, ac ŵylwch, ac vdwch holl yf-wŷr gwîn am y gwin newydd: canys torrwyd ef oddi wrth eich mîn chwi.
6O herwydd cenhedlaeth gref anifeiriol a ddaeth i fynu ar fy nhîr, dannedd llew ei dannedd, a chil ddannedd hen lew iddi.
7Gosododd fyng-winwydden yn ddifrod, a’m ffigus-bren yn ddiriscledd, gan ddinoethi dinoethodd hi, a thaflodd ymmaith, ei changau a wynnasant.
8Uda fel gweryf wedi ymwregysu sach-liain am briod ei hieuengtid.
9Torrwyd oddi wrth dŷ’r Arglwydd offrwm bwyd, ac offrwm diod: y mae’r offeiriaid gwenidogion yr Arglwydd yn galaru.
10Difrodwyd y maes, y ddaiar a alara am wneuthur difrawd ar yr ŷd, sychodd y gwîn newydd, llescaodd yr olew.
11Cywilyddiwch y llafur-wŷr, vdwch y gwin-wŷr am y gwenith, ac am yr haidd: canys darfu am gynhaiaf y maes.
12Gwywodd y win-wŷdden, llescaodd y ffigus-bren, pren y pomgranat, y balm-wydden, a’r afallen, holl brennau y maes a wywâsant am wywo llawenydd oddi wrth feibion dynion.
13Ymwregyswch a griddfenwch chwi offeiriaid, vdwch wenidogion yr allor, deuwch wenidogion fy Nuw dros nôs mewn sach-liain, am yr attelir oddi wrth dy eich Duw offrwm bwyd, ac offrwm diod.
14Gosodwch ympryd, gelwch gynnulleidfa, cesclwch yr henuriaid holl drigolion y wlad dŷ’r Arglwydd eich Duw, a gwaeddwch ar yr Arglwydd.
15Och rhag heddyw, canys dydd yr Arglwydd sydd yn nesaû, ac a ddaw fel difrod oddiwrth yr Holl-alluawg.
16Oni thorwyd yng-ŵydd ein llygaid ni oddi wrth tŷ ein Duw y bwyd, y llawenydd, a’r digrifwch?
17Pydrodd yr hadau dann eu priddellau, yr yscuboriau a anrhaithiwyd, yr yd-lannau a fwriwyd i lawr, am wywo’r ŷd.
18Oh o’r griddfan y mae’r anifeiliaid, y mae yn gyfing ar y minteioedd gwarthec, am nad borfa iddynt, y bagadau defaid hefyd a anrhaithiwyd.
19Arnat ti Arglwydd y galwaf, am i’r tân ddifa porfeudd yr anialwch, a’r fflam a oddeithiodd holl brennau y maes.
20Anifeiliaid y maes hefyd sydd yn brefu arnat, am sychu o’r ffrydau dwfr, a’r tân a yssodd borfeudd yr anialwch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
