1A’R Iesu a aeth i fynydd yr Oliwydd:
2Ac a ddaeth trachefn y boreu i’r deml, a’r holl bobl a ddaethant atto ef: yntef gan eistedd a’u dyscodd hwynt.
3Yna’r scrifennyddion a’r Pharisæaid a ddugasant atto ef wraig yr hon a ddaliasid mewn godineb: ac wedi ei gosod hi yn y canol,
4Hwynt hwy a ddywedasant wrtho ef: ô Athro, y wraig hon a ddaliwyd ar y weithred yn godinebu:
5A Pwy o honoch chwi a’m argyoedda i o bechod, od wyfi yn dywedyd y gwir, pa ham nad ydych chwi yn credu i mi?
47Y 1.Ioan.4.6.mae yr hwn sydd o Dduw yn gwrando geiriau Duw, a’m hynny nid ydych chwi yn gwrando, am nad ydych o Dduw.
48Yna’r attebodd yr Iddewon, ac y dywedasant wrtho ef, ond da yr ydym ni yn dywedyd mai Samaritan wyt ti, a bod gennit gythrael?
49Yr Iesu a attebodd, nid oes gennif gythrael, ond yr wyf yn perchi fy Nhad, ac yr ydych chwithau yn fy amherchi inne.
50Ac nid wyfi yn ceisio fyng-ogoniant fy hun, y mae a gais, ac a farn.
51Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, os ceidw neb fy ymadrodd mau fi, ni wel efe farwolaeth byth.
52Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho ef, yr awron y gwybuom fod gennit gythrael: bu Abraham farw a’r prophwydi, ac meddi di os ceidw neb fy ymadrodd i nid ar chwaetha efe farwolaeth byth.
53A’i mwy wyt ti nâ’n tad Abraham? yr hwn fu farw, a’r prophwydi fuant feirw: pwy yr wyt ti yn dy wneuthur dy hun?
54Attebodd yr Iesu, os myfi sydd yn fyng-ogoneddu fy hun nid yw fyng-ogoniant ddim: fy Nhad yw yr hwn sydd yn fyng-ogoneddu i yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd mai eich Duw chwi yw efe.
55Ond nid adnabuoch chwi ef, eithr myfi a’i hadwen ef, ac os dywedaf nad adwen ef, mi a fyddaf fel chwithau yn gelwyddog, ond mi a’i hadwen ef, ac yr wyfyn cadw ei air ef.
56Gorfoledd oedd gan eich tad Abraham weled fy nydd mau fi, ac efe a welodd, ac a lawenychodd.
57Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho ef, nid wyt ti ddêc a deugain etto, ac a welaist ti Abraham?
58Dywedodd yr Iesu wrthynt, yn wir yn wir meddaf i chwi, cyn bod Abraham yr wyfi.
59Yna hwynt hwy a godasant gerrig iw taflu atto ef, a’r Iesu a ymguddiodd, ac a aeth allan o’r Deml, gan ddyfod trwy eu canol hwynt, ac felly yr aeth efe heibio.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
