1Mab wyth mlwydd Iosia pan aeth efe yn frenin, 2.Cron.34.1.ac vn mlynedd ar ddec ar hugain y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac enw ei fam ef Iedida merch Adaiah o Boscath.
2Ac efe a wnaeth yr hyn oedd inion yng-olwg yr Arglwydd: ac a rodiodd yn holl lwybrau Dafydd ei dad, ac ni thrôdd efe ar y llaw ddehau, nac ar y llaw asswy.
3Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i frenin Iosia, y brenin a anfonodd Saphan fab Asalia, fab Mesulam yr scrifennudd i dy’r Arglwydd gan ddywedyd,
4Dos i fynu at Helcia yr arch-offeiriad, fel y cwplao efe’r arian y rhai a dducpwyd i dŷ’r Arglwydd: y rhai a gasclodd gwilwyr y cyntedd gan y bobloedd.
5A rhoddant hwy yn llaw gweithwyr y gwaith a’r swyddogion yn nhŷ’r Arglwydd: a rhoddant hwy i’r rhai ydynt yn gwneuthur y gwaith yr hwn yn nhŷ’r Arglwydd i gyweirio agennau y tŷ.
6I’r seiri, ac i’r adeiladwŷr, ac i’r priddwyr: ac i brynu coed, a cherric nadd i adnewyddu yr tŷ.
7Etto na chyfrifer a hwynt am yr arian, y rhai a roddwyd yn eu llaw hwynt: canys y maent hwy’n gwneuthur yn ffyddlon.
8A 2.Cron.34.14.Helcia’r arch-offeiriad a ddywedodd wrth Saphan yr scrifennudd, cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ’r Arglwydd: a Helcia a roddodd y llyfr ar Saphan, ac efe ai darllenodd ef.
9Felly Saphan yr scrifennudd a ddaeth at y brenin, ac a adroddodd y peth i’r brenin, ac a ddywedodd: dy weision di a doddasant yr arian yr hwn a gafwyd yn tŷ, ac ai rhoddasant yn llaw gweith-wŷr y gwaith swyddogion tŷ’r Arglwydd.
10Saphan yr scrifennudd hefyd a fynegodd i’r brenin gan ddywedyd, Helcia’r offeiriad a roddodd i mi lyfr: a Saphan ai darllenodd ef ger bron y brenin.
11A phan glybu y brenin eiriau llyfr y gyfraith: yna efe a rwygodd ei wiscoedd.
12Am hynny y brenin a orchymynnodd i Helcia’r offeiriad, ac i Ahicam fab Saphan, ac i Achbor fab Michaiah, i Saphan hefyd yr scrifennudd, 2.Cron.34.20.ac i Asaiah gwâs y brenin gan ddywedyd:
13Ewch, ymgynghorwch a’r Arglwydd drosofi, a thros y bobl, a thros holl Iuda am eiriau y llyfr hwn yr hwn a gawd: canys mawr yw llid yr Arglwydd yr hwn a enynnodd i’n herbyn ni, o herwydd na wrandawodd ein tadau ni ar eiriau y llyfr hwn i wneuthur yn ôl yr hyn oll a’r a scrifennwyd o’n plegit ni.
14Felly Helcia yr offeiriad, ac Ahicam, ac Achbor, Saphan hefyd, ac Asai a aethant at Huldah y brophwydes, gwraig Salum mab 2.Cron.34.23.Ticfa, fab Harhas ceidwad y gwiscoed, (a hi oedd yn trigo yn Ierusalem yn yr ail rhan, a hwynt a ymddiddanasant a hi.
15A hi a ddywedodd wrthynt hwy, fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel: dywedwch i’r gŵr yr hwn a’ch anfonodd chwi attafi,
16Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, wele fi yn dwyn drwg ar y lle hwn, ac ar ei drigolion: holl eiriau y llyfr yr hwn a ddarllenodd brenin Iuda.
17Am iddynt fyng-wrthodi, ac arogl-darthu i dduwiau dieithr, i’m digio i a holl waith eu dwylo: am hynny’r enynn fy llid yn erbyn y lle hwn, ac nis diffoddir ef.
18Ond am frenin Iuda yr hwn a’ch anfonodd chwi i ymgynghori a’r Arglwydd, fel hyn y dywedwch wrtho ef: fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel fyng-eiriau y rhai a glywaist ti.
19O blegit i’th galon feddalhau, ac i tithe ymostwng o flaen yr Arglwydd pan glywaist yr hyn a leferais am y lle hwn, ac am ei drigolion, i fod yn anghyfannedd, ac yn felldith, ac rwygo o honot dy wiscoedd, ac ŵylo ger fy mron i: am hynny y gwrandewais inne medd yr Arglwydd.
20O herwydd hynny wele mi a’th gymmeraf di ymmaith at dy dadau, a thi a ddugir ymmaith i’th fedd mewn heddwch, fel na wêlo dy lygaid yr holl ddrwg yr hwn yr ydwyfi yn ei ddwyn ar y fann hon: felly hwynt a ddugasant air i’r brenin drachefn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.