Exodus 36 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXVI.Dechreu gwaith y babell. 3 Haelioni y bobl i’r gwaith hwn. 28 Y llenni. 19 Tô y babell. 20 Ystyllod y babell. 31 Y barrau.

1Yna y gweithiodd Besaleel ac Aholiab, a phôb gŵr celfydd y rhai y rhoddase yr Arglwydd gyfarwyddyd a deall ynddynt i fedru gwneuthur holl waith gwasanaeth y cyssegr: yn ôl yr hynn oll a orchymynnase yr Arglwydd.

2Canys Moses a alwase am Besaleel ac Aholiab, am bôb gŵr celfydd yr hwn y rhoddase yr Arglwydd gyfarwyddyd iddo, pôb vn yr hwn y dug ei galon ei hun ef i nessau at y gwaith iw weithio ef.

3A chymmerasant oddi ger bron Moses yr holl offrwm derchafel, yr hwn a ddygase meibion Israel i waith gwasanaeth y cyssegr iw weithio ef: a hwynt a ddugasant atto ef ychwaneg o offrwm gwir-fodd bôb borau.

4Felly yr holl rai celfydd a’r a oeddynt yn gweithio holl waith y cyssegr a ddaethant bôb vn oddi wrth ei waith yr hwn yr oeddynt yn ei wneuthur.

5A llefarasant wrth Moses gan ddywedyd y mae yr bobl yn dwyn mwy nac sydd digon: er gwasanaethu i’r gwaith yr hwn a orchymynnodd yr Arglwydd ei wneuthur.

6Yna Moses a orchymynnodd, a hwynt a barasant gyhoeddi yn y gwerssyll gan ddywedyd, na wnaed na gwr na gwraig waith mwy tu ac at offrwm derchafel y cyssegr: felly y gwaharddwyd y bobl rhac dwyn

7Canys yr ydoedd digon o ddefnydd i’r holl waith, er gwneuthur hynny, ac ychwaneg.

8A’r holl rai celfydd o’r rhai oeddynt yn gweithio gwaith y tabernacl, a wnaethant ddec llenn o sidan gwynn cyfrodedd, a sidan glâs, a phorphor, ac scarlat Cerubiaid, o waith cywraint y gwnaethant hwynt.

9Hŷd pôb llenn wyth gufydd ar hugain, a llêd pôb llen bedwar cufydd: yr vn fesur i’r holl lenni.

10Ac efe a gydiodd bum llenn wrth eu gylydd: ac a gydiodd y pum llenn wrth eu gilydd.

11Ac efe a wnaeth ddolennau o sidan glâs ar ymyl y llenn gyntaf, ar chwrr eithaf yn y cydiad: felly y gwnaeth efe ar ymyl llenn eithaf yn yr ail cydiad.

12Dec dolen a deugain a wnaeth efe ar vn llenn, a dec dolen a deugain a wnaeth efe yn y cwrr eithaf i’r llen yr hon yn yr ail cydiad: y dolennau oeddynt yn dal y naill wrth y llall.

13Ac efe a wnaeth ddec a deugain o dderbynniadau aur: ac a gydiodd y naill lenn wrth y llall a’r derbynniadau, fel y bydde yn vn tabernacl.

14Efe a wnaeth hefyd lenni geifr yn babell-len ar y tabernacl: yn vn llenn ar ddec y gwnaeth efe hwynt.

15Hŷd vn llen oedd ddec cufydd ar hugain, a llêd vn llenn bedwar cufydd: a’r vn fesur oedd i’r vn llenn ar ddec.

16Ac efe a gydiodd bum llenn wrthynt eu hunain: a chwe llenn wrthynt eu hunain.

17Efe a wnaeth hefyd ddec dolen a deugain ar ymyl y llenn eithaf yn y cydiad: a dec dolen a deugain a wnaeth efe ar ymyl llenn yr ail cydiad.

18Ac efe a wnaeth ddec a deugain o derbynniadau prês: i gydio y babell-len i fod yn vn.

19Ac efe a wnaeth dô i’r babell-lenn o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion: a thô o grwyn daiar-foch yn vchaf.

20Ac efe a wnaeth styllod i’r tabernacl o goed Sittim yn eu sefyll.

21Dec cufydd hŷd styllenn: a chufydd a hanner cufydd lled pôb styllen.

22Dau dyno i’r vn styllenn wedi gosod fel ffynn yscal y naill ar gyfer y llall: felly y gwnaeth efe i holl styllod y tabernacl.

23Ac efe a wnaeth styllod y tabernacl: yn vgain styllen i’r tu dehau tua’r dehau.

24A deugain mortais arian a wnaeth efe dann yr vgain styllen: dwy fortais dann vn styllen iw dau dyno, a dwy fortais dann styllen arall iw dau dyno.

25Ac i ail ystlys y tabernacl o du’r y gogledd: efe a wnaeth vgain styllen.

26Ai deugain mhortais o arian: dwy fortais tann vn styllen, a dwy fortais tann styllen arall.

27Ac i du gorllewyn y tabernacl y gwnaeth efe chwech styllen.

28A dwy styllen a wnaeth efe yng-honglau y tabernacl i’r ddau ystlys.

29Ac yr oeddynt Exod.26.24.wedi eu cydio oddi tanodd, ac yr oeddynt hefyd wedi eu cydio oddi arnodd wrth vn fodrwy: felly y gwnaeth iddynt ill dwy yn y ddwy gongl.

30Ac yr oedd wyth styllen ai morteisiau yn vn ar bymthec o forteisiau arian: Exod.25.27,31. exod.30.4.sef dwy fortais tann bôb styllen.

31Ac efe a wnaeth farrau o goed Sittim: pump i styllod vn ystlys i’r tabernacl.

32A phum barr i styllod ail ystlys y tabernacl, a phum barr i styllod y tabernacl i’r ystlys o du yr gorllewyn.

33Ac efe a wnaeth y barr canol i farrio yng-hanol yr styllod o gwr i gwrr.

34Ac efe a oreurodd y styllod ag aur, ac a wnaeth eu modrwyau hwynt o aur i fyned am y barrau: ac a oreurodd y barrau ag aur.

35Ac efe a wnaeth wahan-lenn o sidan glâs, a phorphor a scarlat, a sidan gwynn cyfrodedd: o waith cywraint y gwnaeth efe hi Cerubiaid.

36Ac efe a wnaeth iddi bedair colofn Sittim, ac ai goreurodd hwynt ag aur, ai pennau o aur: ac efe a fwriodd iddynt bedair mortais o arian.

37Ac efe a wnaeth gaead-len i ddrws y tabernacl o sidan glâs, a phorphor, ac scarlat, a sidan gwynn cyfrodedd: o waith edef a nodwydd.

38A’i phump colofn, ai pennau, ac a oreurodd eu pennau hwynt, ai cylchau ag aur: ai pum mortais o brês.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help