Genesis 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD I.Creadwriaeth y nêf, a’r ddaiar, 2 Y goleuni a’r tywyllwch, 8 Y ffurfafen, 16 Y pysc, yr adar, a’r anifeiliaid, 26 A dyn. 29 LLynniaeth dyn ac anifail.

1Yn y dechreuad y Psal.33.6. Psal.136.5. Eccle.18.1. Act.14.15. Act.17.24.creawdd Duw y nefoedd a’r ddaiar.

2Y ddaiar oedd afluniaidd, a gwâg, a thywyllwch ar wyneb y dyfnder, ac yspryd Duw yn ymsymmud ar wyneb y dyfroedd.

3Yna Duw a ddywedodd, Ebr.11.3.bydded goleuni, a goleuni a fû.

4Yna Duw a welodd y goleuni mai dâ a Duw a wahanodd rhwng y goleuni a’r tywyllwch.

5A Duw a alwodd y goleuni yn ddydd, a’r tywyllwch a alwodd efe yn nôs: a’r hwyr a fû, a’r borau a fû, y dydd cyntaf.

6Duw hefyd a ddywedodd Psal.136.5. Ierem.10.12. Ierem 51.15.bydded ffurfafen yng-hanol y dyfroedd, a bydded hi yn gwahanu rhwng dyfroedd a dyfroedd.

7Yna Duw a wnaeth y ffurfafen, ac a wahanodd rhwng y dyfroedd y rhai oddi tann y ffurfafen, a’r dyfroedd y rhai Psal.148.4.oddi ar y ffurfafen: ac felly y bu.

8A’r ffurfafen a alwodd Duw yn Nefoedd: felly yr hwyr a fû, a’r borau a fû, ’r ail ddydd.

9Duw hefyd a ddywedodd, Psal.33.7.cascler y dyfroedd oddi tann y nefoedd i’r vn lle, ac ymddangosed y sych-dîr: ac felly y bû.

10A’r sych-dîr a alwodd Duw yn ddaiar, a chascliad y dyfroedd a alwodd efe yn foroedd: a Duw a welodd mai dâ oedd.

11A Duw a ddywedodd, egîned y ddaiar egin llysiau yn hadu hâd, a phrennau ffrwythlawn yn dwyn ffrwyth, wrth eu rhywogaeth, y rhai eu hâd ynddynt ar y ddaiar: ac felly y bû.

12A’r ddaiar a ddûg egin llysiau yn hadu hâd wrth eu rhywogaeth, a phrennau yn dwyn ffrwyth, y rhai eu hâd ynddynt wrth eu rhywogaeth: a Duw a welodd mai da oedd.

13Felly yr hwyr a fu, a’r borau a fu, y trydydd dydd.

14Duw hefyd a ddywedodd, Psal.136.7. Deut.4.19.bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd i wahanu rhwng y dydd a’r nôs: a byddant yn arwyddion, ac yn dymmorau, ac yn ddyddiau, a blynyddoedd.

15A byddant yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaiar: ac felly y bu.

16O blegit Duw a wnaeth ddau oleuad mawrion, y goleuad mwyaf i lywodraethu y dydd, a’r goleuad lleiaf i lywodraethu y nôs: a’r sêr

17Ac yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes Duw hwynt, i oleuo ar y ddaiar:

18Ac Ierem.31.35.i lywodraethu y dydd a’r nôs, ac i wahanu rhwng y goleuni a’r tywyllwch: a gwelodd Duw mai dâ oedd.

19Felly yr hwyr a fu, a’r borau a fu, y pedwerydd dydd.

20Duw hefyd a ddywedodd, heigied y dyfroedd ymlusciaid byw, ac eheded ehediaid ar y ddaiar, at wyneb ffurfafen y nefoedd.

21A Duw a greawdd y mor-feirch mawrion, a phôb ymlusciad byw y rhai a heigiodd y dyfroedd yn eu rhywogaeth, a phôb ehediad ascellog yn ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai dâ oedd.

22Yna Duw ai bendigodd hwynt, gan ddywedyd, ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y dyfroedd yn y môroedd a lluosoged yr ehediaid ar y ddaiar.

23A’r hwyr a fû, a’r borau a fû, y pummed dydd.

24Duw hefyd a ddywedodd, dyged y ddaiar peth byw wrth ei rywogaeth, yr anifail, a’r ymlusciad, a bwyst-fil y ddaiar wrth ei rywogaeth: ac felly y bu.

25Felly y gwnaeth Duw fwyst-fil y ddaiar, wrth ei rywogaeth, ar anifail wrth ei rywogaeth, a phôb ymlusciad y ddaiar wrth ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai dâ oedd.

26Duw hefyd a ddywedodd Gene.5.1. Gene.9.6. 1.Cor.11.7 Colos.3.10gwnawn ddŷn ar ein delw ni, wrth ein llûn ein hunain, ac Eccles.17.1.arglwyddiaethant ar bŷsc y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar yr anifail, ac ar yr holl ddaiar, ac ar bôb ymlusciad yr hwn a ymlusco ar y ddaiar.

27Felly Duw a greawdd y dŷn ar Doeth.2.23. Mat.19.4.ei lûn ei hun, ar lûn Duw y creawdd efe ef: yn wryw ac yn fenyw y creawdd efe hwynt.

28Duw hefyd ai bendigodd hwynt, a Duw a ddywedodd wrthynt, ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y ddaiar, a darostyngwch hi; ac arglwyddiaethwch ar bysc y môr, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar bôb bwyst-fil yr hwn a symmudo ar y ddaiar.

29A Duw a ddywedodd wele mi a roddais i chwi bôb llyssieun yn hadu hâd, yr hwn ar wyneb yr holl ddaiar: a phôb prenn yr hwn ynddo ffrwyth prenn yn hadu hâd, Genes.9.3. Eccles. 39.21.a fydd yn fwyd i chwi.

30Hefyd i bôb bwyst-fil y ddaiar, ac i bôb ehediad y nefoedd, ac i bôb peth a ymsymmudo ar y ddaiar, yr hwn y mae enioes ynddo, y bydd pôb llyssieun gwyrdd yn fwyd: ac felly y bû.

31A Mar.7.37.gwelodd Duw yr hyn oll a’r a wnaethe, ac wele da iawn ydoedd: felly yr hwyr a fû, a’r borau a fu, y chweched dydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help