Amos 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Dangos y mae efe aniolchgarwch ty Israel, ai rhybuddio o’r gosp a ydoedd yn dyfod am hynny.

1Gwrandewch y gair yr hwn a lefarodd yr Arglwydd i’ch erbyn chwi plant Israel: yn erbyn yr holl deulu a ddugym i i fynu o wlâd yr Aipht, gan ddywedyd:

2Chwi yn vnic a adnabum o holl deuluoedd y ddaiar: am hynny ymwelaf â chwi eich holl anwireddau.

3A rodia dau yng-hyd heb iddynt gydtuno?

4A rua y llew yn y goedwic heb iddo ysclyfaeth? neu a leisia cenew llew oi wâl heb iddo ddal?

5A syrth yr aderyn yn y fagl lawr heb fod adar-wr? a’ gyfyd efe y fagl oddi ar y ddaiar heb ddal dalfa?

6A genir vdcorn mewn dinas heb ddychrynu y bobl? a fydd niwed mewn dinas heb i’r Arglwydd ei wneuthur?

7Canys ni wnaiff yr Arglwydd ddim, a’r na’s dangoso ei ddirgelwch iw weision y prophwydi.

8Rhuodd y llew, pwy nid ofna? yr Arglwydd Ior a lefarodd, pwy ni prophwyda?

9Cyhoeddwch o fewn y palasau yn Asdod, ac yn y palasau yng-wlad yr Aipht: a dywedwch, deuwch yng-hyd ar fynyddoedd Samaria, a gwelwch derfyscoedd lawer oi mewn, a’r gorthrymmedigion yn ei chanol hi.

10Ac ni fedrant wneuthur iniondeb medd yr Arglwydd: pentyrru y maent drais, ac yspail yn eu palasau.

11Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, gelyn o amgylch y tir, ac a dynn i lawr dy nerth oddi wrthit, a’th balasoedd a yspeilir.

12Fel hyn y dywed yr Arglwydd, fel yr achub y bugail o safn y llew y ddwy goes, neu ddryll y glust: felly’r achubir meibion Israel y rhai ydynt yn trigo yn Samaria, mewn cwrr gwely o fewn Damascus gorweddle.

13 Esa.1.14. Gwrandewch a thestiolaethwch yn nhŷ Iacob medd yr Arglwydd, Arglwydd Dduw y lluoedd,

14Mai y dydd yr ymwelaf ag anwiredd Israel yn ei erbyn, y gofwyaf hefyd allorau Bethel: cyrn yr allorau a ddrylliwyd, ac a syrthiasant i’r llawr.

15A mi a darawaf y gaiaf-dŷ, a’r hafodtŷ, a derfydd am y tai Ifori: drylliaf hefyd y teiau mawrion ymmaith medd yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help