1 Psal.57.7. Parod yw fyng-halon ô Dduw, yw fyng-halon: canaf a chanmolaf a’m gogoniant.
2Deffro y nabl a’r delyn, deffroaf yn foreu.
3Clodforaf di Arglwydd ym mysc y bobloedd: canmolaf di ym mysc y cenhedloedd.
4Canys mawr yw dy drugaredd oddi ar y nefoedd, a’th wirionedd hyd yr wybr.
5Ymddercha ô Dduw, vwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaiar.
6Fel y gwareder dy rai annwyl: achub a’th ddeheu-law, a gwrando fi.
7Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd y llawenychaf) rhannaf Sichem, a messuraf ddyffryn Succoth.
8Eiddo fi Gilead, eiddof fi Manasses: Ephraim hefyd nerth fy mhen: Iuda fy nedd-fwr.
9 Psal.60.8. Moab fyng-hrochan golchi, ar Edom y taflaf fy escid: buddugoliaethaf yn erbyn Palestina.
10Pwy a’m dŵg fi i’r ddinas gadarn? pwy a’m dŵg hyd yn Edom?
11Onid tydi ô Dduw a’n ffieiddiaist, ac nid eit ti allan ô Dduw gyd a’n lluoedd.
12Dyro i ni gynnorthwy rhag y gelyn, canys gau yw ymwared dŷn.
13Trwy Dduw y gwnawn wroldeb, ac efe a sathr ein gorthrym-wŷr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
