1Ac yn ôl hyn yr ydoedd gan Absalom fab Dafydd chwaer dêg, ai henw Thamar: ac Amnon mab Dafydd ai carodd hi.
2Ac yr oedd mor flîn ar Amnon, fel y clafychodd efe o herwydd Thamar ei chwaer, canys gweryf hi: ac anhawdd y gwele Amnon wneuthur dim iddi hi.
3A chyfell gan Amnon, ai enw Ionadab mab Simah frawd Dafydd: ac Ionadab ŵr call iawn.
4Ac efe a ddywedodd wrtho ef, ti fab y brenin pa ham yr ydwyt yn curio fel hyn beunydd? oni fynegi di i mi? yna Amnon a ddywedodd wrtho ef, caru yr ydwyfi Thamar chwaer Absalom fy mrawd.
5Yna Ionadab a ddywedodd wrtho ef, gorwedd ar dy wely, a chymmer arnat glafychu: pan ddelo dy dad i’th edrych, yna dywet, wrtho ef, deued attolwg Thamar fy chwaer, fel y paro i mi fwyta bara, ac yr arlwyo fwyd yn fyng-olwg, fel y gwelwyf, ac y bwytawyf oi llaw hi.
6Felly Amnon a orweddodd, ac a gymmerth arno glafychu: a’r brenin a ddaeth iw edrych ef, ac Amnon a ddywedodd wrth y brenin, deued attolwg Thamar fy chwaer i grassu dwy deisen yn fyng-olwg i, fel y bwytawyf oi llaw hi.
7Yna Dafydd a anfonodd adref at Thamar gan ddywedyd: dos yn awr i dŷ Amnon dy frawd, a pharatoa fwyd iddo ef.
8Felly Thamar a aeth i dŷ Amnon ei brawd, (ac efe oedd yn gorwedd) a hi a gymmerth beillied, at ai telinodd, ac a wnaeth deisennau yn ei ŵydd ef, ac a grasodd y teisennau.
9Yna hi a gymmerth y radell, ac ai tywalltodd ger ei fron ef, ond efe a wrthododd fwytta: ac Amnon a ddywedodd, dugwch allan bawb oddi wrthifi, a phawb a aethant allan oddi wrtho ef.
10Yna Amnon a ddywedodd wrth Thamar, Dŵg y bwyd i’r stafell, fel y bwytawyf o’th law di: a Thamar a gymmerth y teisennau y rhai a wnaethe hi, ac ai dûg at Amnon ei brawd i’r stafell.
11Pan ddûg hi atto ef i fwytta: yna efe a ymaflodd ynddi hi, ac a ddywedodd wrthi hi, tyret, gorwedd gyd a mi fy chwaer.
12A hi a ddywedodd wrtho ef, paid fy mrawd na threisia fi, canys Lefit.18.9.ni wneir fel hyn yn Israel: na wna di yr ynfydrwydd hyn.
13Canys pa fodd y bwriaf ymmaith fyngwarth? a thi a fyddi fel vn o’r ynfydion yn Israel: yn awr gan hynny ymddiddan attolwg a’r brenin, canys ni ommedd efe fi i ti.
14Ond ni fynne efe wrando ar ei llais hi: eithr efe a fu drêch na hi, ac ai treisiodd, ac a orweddodd gyd a hi.
15Yna Amnon ai casâodd hi a thâs mawr iawn, canys mwy y câs a’r hwn y casauase efe hi, na’r cariad a’r hwn y carâse efe hi: ac Amnon a ddywedodd wrthi hi, cyfot dôs ymmaith.
16A hi a ddywedodd wrtho ef, nid y drygioni hwn fyng-yrru ymmaith fydd fwy na’r llall yr hwn a wnaethost a mi, ond ni fynne efe wrando arni hi.
17Eithr efe a alwodd ar ei langc ei wenidog, ac a ddywedodd, hebrwng allan attolwg hon oddi wrthifi: a chlôa y drŵs ar ei hôl hi.
18(Ac am deni hi mantell symmudliw: canys felly y dilladid merched y brenin, y rhai forwynion a mantellau: ) yna ei wenidog ef ai dûg hi allan, ac a glôdd y drws ar ei hòl hi.
19A Thamar a gymmerodd ludw ar ei phen, ac a rwygodd y fantell symmud-liw yr hon am deni hi: ac a osododd ei llaw ar ei phen, ac a aeth ymmaith dān gerdded a gweiddi.
20Ac Absalom ei brawd hi a ddywedodd wrthi hi, ai Amnon dy frawd a fu gyd a thi? er hynny yn awr taw a sôn fy chwaer, dy frawd ti efe, na osod dy galon ar y peth hyn: felly Thamar a drigodd yn anrhaithiedic yn nhŷ Absalom ei brawd.
21Pan glybu y brenin Dafydd yr holl bethau hynny: yna efe a ddigiodd yn aruthr.
22Ac ni ddywedodd Absalom wrth Amnon na drwg, na dâ: er hynny Absalom a gasaodd Amnon o herwydd iddo ef dreisio Thamar ei chwaer ef.
23Ac ar ôl dwy flynedd o ddyddiau, yr oedd gan Absalom rai yn cneifio yng-wastadedd Hazor, yr hwn wrth Ephraim: ac Absalom a wahoddodd holl feibion y brenin.
24Canys Absalom a ddaeth at a y brenin, ac a ddywedodd, wele yn awr tai yn cneifio i’th wâs di: deued attolwg y brenin ai weision gyd a’th wâs di.
25Yna y dywedodd y brenin wrth Absalom, nage fy mâb, ni ddeuwn ni i gyd yn awr, ac ni ormeswn arnat ti: ettoa fu daer arno ef, ond ni fynne efe fyned, eithr efe ai bendithiodd ef
26Yna y dywedodd Absalom, oni ddaw Amnon fy mrawd yn awr gyd a ni? a’r brenin a ddywedodd wrtho ef, i ba beth yr aiff efe gyd a thi?
27Etto Absalom fu daer arno ef, fel y gollyngodd efe Amnon gyd ag ef, a holl feibion y brenin.
28Ac Absalom a orchymynnodd iw lagciau gan ddywedyd, eorychwch attolwg pan fyddo llawen calon Amnon gan wîn, a ddywedwyf wrthych, tarewch Amnon, yna lleddwch ef, nac ofnwch: canys oni orchymynnais i chwi? ymnerthwch, a byddwch feibiō glewiō.
29A llangciau Absalom, a wnaethant i Amnon fel y gorchymynnase Absalom: a holl feibion y brenin a gyfodasant, a phôb vn a farchogodd ar ei fûl, ac hwy a ffoasant.
30A ar y ffordd y daeth y chwedl at Ddafydd gan ddywedyd: Absalom a laddodd holl feibion y brenin, ac ni adawyd vn o honynt.
31Yna y brenin a gyfododd, ac a rwygodd ei ddillad, ac a orweddodd ar y ddaiar: ei holl weision ef hefyd oeddynt yn sefyll ai gwiscoedd yn rhwygedit.
32Yna Ionadab mab Simah frawd Dafydd a attebodd, ac a ddywedodd, na ddyweded fy arglwydd iddynt hwy ladd yr holl langciau meibion y brenin, canys Amnon yn vnic a fu farw: canys yr oedd ym mryd Absalom a alarodd am ei fab yr holl ddyddiau hynny.
38Felly Absalom a ffoawdd, at a aeth i Gesur: ac yno y bu efe dair blynedd.
39Ac Dafydd y brenin a hiraethodd am fyned at Absalom: canys efe a gyssurasid am Amnon, o herwydd ei farw efe.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.