Psalmau 27 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. xxvij.Dominus illuminatio.Psalm Dafydd.

1 Yr Arglwydd fyng-oleuni, a’m iechydwriaeth, rhag pwy yr ofnaf? yr Arglwydd nerth fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf?

2Pan nessaodd y rhai drygionus, fyng-wrthwyneb-wŷr a’m gelynnion i’m herbyn i fwytta fyng-hnawd: hwynt a dramgwyddâsant, ac a syrthiâsant.

3Pe gwersylle llu i’m herbyn, nid ofne fyng-halon: pe cyfode câd i’m herbyn, er hyn mi a fyddwn hydêrus.

4Un peth a ddeisyfiais i gan yr Arglwydd, hynny a geisiaf, caffel trigo yn nhŷ’r Arglwydd holl ddyddiau fy mywyd: i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, ac i ymweled ai Deml.

5Canys yn y dydd drwg efe a’m cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei bresswylfod y cuddia efe fi, ar graig i’m dercha efe fi.

6Ac yn awr y dercha efe fy mhen goruwch fyng-elynnion o’m hamgylch: am hynny’r aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd: canaf a chan-molaf yr Arglwydd.

7Clyw ô Arglwydd fy lleferydd, trugarhâ hefyd wrthif, a gwrando arnaf lefwyf.

8Y mae fyng-halon yn ymddiddan â thi ceisiwch fy wyneb: dy wyneb a geisiaf ô Arglwydd.

9Na chuddia dy wyneb oddi wrthif, na fwrw ymmaith dy wâs mewn sorriant: fyng-hymmorth i fuost: gan hynny na âd fi, ac na wrthot fi ô Dduw fy iechydwriaeth.

10Er i’m tâd, a’m mam fyng-wrthod: etto yr Arglwydd a’m derbynnie.

11Dysc i mi dy ffordd Arglwydd: ac arwain fi ar hŷd llwybr iniondeb, o herwydd fyng-elynnion.

12Na ddyro fi wrth ewyllys fyng-wrthwyneb-wŷr: canys gau dystion, a a adroddant drawster a gyfodâsant i’m herbyn.

13[Deffygiaswn,] pe na chredaswn weled daioni’r Arglwydd yn nhîr y rhai byw.

14Disgwil ŵrth yr Arglwydd, ymwrola, ac efe a nertha dy galon: ac ymddyriet yn yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help