1.Cronicl 7 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VII.1 Hiliogaeth, Issachar, Beniamin, Nephthali. 14 Manasses. 20 Ephraim. 30 ac Aser.

1Ac am feibion Issachar pedwar Tola, a Phua, Iasub, a Simron.

2A meibion Tola, Uzzi, a Rephaia, ac Ieriel, ac Iamai, ac Iebsam, a Semuel pennaethiaid ar dŷ eu tadau: o Tola gwŷr cedyrn nerth yn eu cenhedlaethau: eu 2.Sam.24.1.rhîf yn nyddiau Dafydd ddwy fil ar hugain, a chwe chant.

3A meibion Uzzi, Iezrahia: a meibion Iezrahia, Michael, ac Obadia, ac Ioel, Iesia pump yn bennaethiaid oll.

4A chyd a hwynt yn eu cenhedlaethau yn ôl tŷ eu tadau byddinoedd llu ryfel o vn mil ar bymthec ar hugain: canys llawer oedd ganddynt o wraged, a meibion.

5Ai brodyr cedyrn nerth o holl deuluoedd Issachar a roddasant eu rhifedi wrth eu hachau yn saith mil a phedwar vgain oll.

6[A meibion] Beniamin dri: Bela, a Becher, ac Iediel.

7A meibion Bela, Esbon, ac Uzzi, ac Uzziel, ac Ierimoth, ac Iri: pumb o bennau tŷ eu cenedl cedyrn nerth, a rhoddasant eu rhifedi wrth eu hachau yn ddwy fil ar hugain, a phedwar ar ddec ar hugain.

8A meibion Becher Zemira, ac Ioas, ac Eliezer, ac Elionai, ac Omri, ac Ierimoth, ac Abia, ac Anathoth, ac Alamath: y rhai hyn oll feibion Becher.

9A hwynt a rifwyd yn ôl eu cenhedlaethau yn bennau eu cenedl cedyrn nerth yn vgain mil a dau cant.

10A meibion Iediel, Bilhan: a meibion Bilhan, Ieus, a Beniamin, ac Ehud, a Chanaana, a Zethan, a Tharsis, ac Ahisahar.

11Y rhai hyn oll feibion Iediel yn bennau cenedl cedyrn o nerth, yn myned allan mewn llu i ryfel, yn ddwy fil ar bymthec, a deu-cant.

12Suppim hefyd, a Huppim feibion Ir: Husim fab Aher.

13Meibion Nephthali Iahziel, a Guni, ac Iezer, a Salum, meibion Bilha.

14Meibion Manasses: Azriel yr hwn a ymddug ei ei ordder-wraig o Syria a ymddug Machir Gen.46.24.tâd Gilead.

15A Machir a gymmerodd wraig gā Huppim, a Suppim, ac henw eu chwaer hwynt Maacha, ac enw’r ail Zalphaad: ac i Zalphaad yr oedd merched.

16A Maacha gwraig Machir a ymddug fab, a hi a alwodd ei enw ef Pherez, ac enw ei frawd ef Seres, ai feibion ef Ulam, a Recem.

17A meibion Ulam, Bedan: dymma feibion Gilead fab Machir, fab Manasses.

18A Molecath ei chwaer ef a ymddug Ieshod, ac Abieser, a Mahelah.

19A meibion Semida oeddynt Ahian, a Sichem, a Lichi, ac Aniham.

20A meibion Ephraim, Suthelah, a Bered ei fab ef, a Thahath ei fab yntef, ac Elodah ei fab yntef, a Thahath ei fab yntef,

21A Sabad ei fab yntef, a Suthelah ei fab yntef, ac Eser, ac Elead: a dynion Gad y rhai, a anwyd yn y tîr ai lladdodd hwynt, o herwydd descyn o honynt i ddwyn eu hanifeiliaid hwynt.

22Ac Ephraim eu tâd a alarodd ddyddiau lawer: ai frodyr ef a ddaethant iw gyssuro ef.

23A phan aeth efe at ei wraig, hi a feichiogodd, ac a escorodd ar fab: ac efe alwodd ei enw ef Beria am ei fod mewn dryg-fyd am ei dŷ

24Seera hefyd ei ferch ef, a hi a adailadodd Beth-horon yr issaf, a’r vchaf hefyd, ac Uzen Seera.

25A Rapha ei fab ef, a Reseph, a Thelah ei fab yntef, a Thahan ei fab yntef.

26Ladan ei fab yntef, Amihud ei fab yntef, Elisama ei fab yntef.

27Nun ei fab yntef, Iosuah ei fab yntef.

28Eu meddiant, ai cyfanneddau Bethel ai phen-trefydd: ac o du dwyrain Naaran, ac i du’r gorllewyn i Gazer, ai phen-trefydd hefyd: a Sechem ai phen-trefydd, Adaia ai phentrefydd.

29Ac ar derfynau meibion Manasses, Bethsean ai phentrefi, Thaamach ai phentrefi, Megido ai phentrefi, Dor ai phentrefi: meibion Ioseph mab Israel a drigasant yn y rhai hyn.

30Meibion Aser Iimna, ac Iesua, ac Isu, a Beria, a Serah eu chwaer hwynt.

31A meibion Beria, Heber, a Melchiel, hwn yw tâd Birsafith.

32A Heber a genhedlodd Iaphlet, a Somer, a Hotham, a Sua eu chwaer hwynt.

33A meibion Iaphlet, Pasac, a Bimhal, ac Asuah: dymma feibion Iaphlet.

34A meibion Semer Ahi, a Rohga, Iehuba, ac Aram.

35A meibion Helem ei frawd ef Zophah, ac Iimna, a Seles, ac Amal.

36Meibion Zophah, Suah, ac Harnepher, a Sual, a Beri, a Iimrah,

37Bezer, a Hod, a Samma, a Silsa, ac Iethran, a Beera.

38A meibion Iether: Iephun, Pispa, ac Ara.

39A meibion Ola, Areh, a Haniel, a Rezia.

40Dymma holl feibion Aser, pennau cenedl yn ddewis gwŷr o nerth yn bennau capteniaid, wedi eu cyfrif drwy eu hachau mewn byddyn i ryfel: rhîf y dynion chwe mil ar hugain.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help