Psalmau 112 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. cxij.Molwch yr Arglwydd.

1Gwyn ei fyd y neb a ofno’r Arglwydd, sydd yn hoffi ei orchymynnion ef yn ddirfawr.

2Ei had fydd cadarn yn y tîr, cenhedlaeth y rhai iniawn a fendithir.

3Golud a chyfoeth yn ei dŷ ef: ai gyfiawnder sydd yn parhau byth.

4Cyfododd goleuni i’r rhai iniawn yn y tywyllwch: trugarog, a thosturiol, a chyfiawn

5Gŵr dâ trugarog, a chymwynascar: wrth farn y llywodraetha efe ei eiriau.

6Canys byth nid yscogir ef, y cyfiawn, fydd byth mewn coffadwriaeth.

7Nid ofna efe rhag chwedl drwg, ei galon sydd ddisigl yn ymddyried yn yr Arglwydd.

8Attegwyd ei galon nad ofno efe hyd oni wêlo ei ewyllys ar ei elynnion.

9 2.Cor.2.9. Rhannodd, rhoddodd i’r tlodion, ai gyfiawnder sydd yn parhau byth: ei gorn a dderchefir mewn gogoniant.

10Yr annuwiol a wêl ac a ddigia, efe a yscyrnŷga ei ddannedd, ac a dawdd ymmaith: derfydd am ddymuniad y rhai annuwiol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help