1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd:
2Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel, a dywet wrthynt, dymma y peth yr hwn a orchymynnodd yr Arglwydd, gan ddywedyd:
3Pob vn o dŷ Israel yr hwn a laddo ych, neu hes bwrn, neu afr, o fewn y gwerssyll, neu’r hwn a laddo allan o’r gwerssyll:
4Ac heb ei ddwyn i ddrws pabell y cyfarfod, i offrymmu offrwm i’r Arglwydd, o flaen tabernacl yr Arglwydd, gwaed a fwrir yn erbyn y gŵr hwnw, gwaed a dywalltodd efe, a thorrir y gŵr hwnnw ymmaith o blith ei bobl.
5O herwydd yr hwn beth, dyged meibion Israel eu haberthau y rhai y maent yn eu haberthu ar wyneb y maes, îe dygant hwynt i’r Arglwydd i ddrws pabell y cyfarfod, at yr offeiriad yr aberthant hwynt yn aberthau hedd i’r Arglwydd.
6A thaenelled yr offeiriad y gwaed ar allor yr Arglwydd ddrws pabell y cyfarfod, a llosced y gwêr Exod.29.18. Lefit.4.31.yn arogl eswyth i’r Arglwydd.
7Ac nac aberthant eu haberthau mwy i gythreuliaid y rhai y buant yn putteinio ar eu hol: deddf dragywyddol fydd hyn iddynt, yn eu cenedlaethau.
8Dywet gan hynny wrthynt, pwy bynac o dŷ Israel, ac o’r dieithriaid (y rhai a ymdeithiant yn eich mysc) a offrymmo boeth offrwm, neu aberth
9Ac nis dwg ef i ddrws pabell y cyfarfod, iw offrymmu i’r Arglwydd, y torrir y gŵr hwnnw oddi wrth ei bobl.
10A phwy bynnac o dŷ Israel ac o’r dieithr a ymdeithio yn eich mysc a fwyttu ddim gwaed, rhoddaf fy wyneb yn erbyn yr enaid a fwyttu y gwaed, a thorraf ef ymmaith o fysc ei bobl.
11O herwydd enioes y cnawd sydd yn y gwaed a mi ai rhoddais i chwi ar yr allor, i wneuthur iawn tros eich eneidiau: o herwyd y gwaed hwn a wna iawn tros enaid,
12Am hynny y dywedais wrth feibion Israel, na fwyttaed vn enaid o honoch waed, a’r dieithr a ymdeithio yn eich mysc na fwytiaed waed.
13A phwy bynnac o feibion Israel, neu o’r dieithr yr hwn a ymdeithio yn eu mysc a helio helfa o fwyst-fil, neu o aderyn yr hwn a fwytteir, tywallted ymmaith ei waed ef, a chuddied ef a llwch.
14O herwydd enioes pôb cnawd yw ei waed, yn lle ei enioes y mae efe, am hynny y dywedais wrth feibion Israel, Genes.9.4.|GEN 9:4. Lefit.3.17.na fwyttewch waed vn cnawd, o herwydd enioes pôb cnawd yw ei waed: pwy bynnac ai bwytu a dorrir ymmaith.
15A phôb dŷn a’r a fwyttu furgyn neu sclyfaeth, o briodor neu o ddieithr-ddyn, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: yna glân fydd.
16Ond os efe nis gylch ac ni ylch ei gnawd: yna y dŵg efe ei anwiredd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
