1A Rhyw wraig o wragedd Pen.2.3.meibion y prophwydi a lefodd ar Elisêus gan ddywedyd, dy wâs di, fyng-ŵr mau fi a fu farw, a thi a wyddost fod dy wâs di yn ofni yr Arglwydd: a’r echwyn-wr a ddaeth i gymmeryd ymmaith fy nau fab i yn weision iddo ef.
2Yna Elisêus a ddywedodd wrthi hi, beth a wnafi i ti? mynega i mi, beth sydd gennit ti yn dŷ? dywedodd hithe, nid dim gan dy law-forwyn yn tŷ onid ystêned o olew.
3Ac efe a ddywedodd, dos, cais it lestri oddi allan gan dy holl gymmydogion: llestri gweigion nid ychydig.
4Pan ddelech i mewn, yna cae di’r drws arnat, ac ar dy feibion, a thywallt i’r holl lestri hynny: a phâr dynnu ymmaith yr hwn llawn.
5Felly hi a aeth ymmaith oddi wrtho ef, ac a gaeodd y drws arni hi, ac ar ei meibion: hwyntwy a ddugasant atti hi, a hithe a dywalltodd.
6A phan lawnwyd y lestri, yna hi a ddywedodd wrth ei mab, dŵg etto attafi lestr, dywedodd yntef wrthi hi, nid mwyach llestr: a’r olew a beidiodd.
7Yna hi a ddaeth, ac a fynegodd i ŵr Duw, dywedodd yntef, dôs, gwerth yr olew, a thâl dy ddylêd: a bydd di fyw ti a’th feibion ar y rhan arall.
8Ac Elisêus a drammwyodd ryw ddiwrnod i Sunem, ac yno gwraig oludog yr hon ai cymhellodd ef i fwytta bara: a chynnifer gwaith ac y trammawye efe heibio, efe a droe yno i fwytta bara.
9A hi a ddywedodd wrth ei gŵr, wele yn awr mi a wn mai gŵr Duw sanctaidd yr hwn sydd yn cynniwer heibio i ni yn oestadol.
10Gwnawn yn awr stafell gaeroc fechan, a gosodwn iddo yno wely, a bwrdd, a maingc, a chanhwyll-bren: fel y trô efe yno, pan ddelo efe attom ni.
11Ac ar ddydd-cwaith efe a ddaeth yno: ac a drôdd i’r stafell, ac a orphywysodd yno.
12Ac efe a ddywedodd wrth Gehezi ei langc, galw ar y Sunamites hon: yntef a alwodd arni hi, hithe a safodd ger ei fron ef.
13Dywedodd hefyd wrtho ef, dywet yn awr wrthi hi, wele ti a ofelaist trosom ni a’r holl ofal ymma, beth ei wneuthur i ti? a oes di ei ddywedyd wrth y brenin, neu wrth dywysog y llu: hithe a ddywedodd, yng-hanol fy mhobl yr ydwyfi yn trigo.
14Yna y dywedodd beth gan hynny iw wneuthur erddi hi? a Gehezi a ddywedodd, diau nad iddi fab, ai gŵr hên.
15Am hynny efe a ddywedodd, galw am dani hi, ac efe a alwodd a’m dani hi, ac y hi a safodd yn y drws.
16Ac efe a ddywedodd, Gen.18.10,14.yn yr amser nodedic hwnnw wrth amser bywiolaeth, ti a gofleidi fab: hithe a ddywedodd, na-ge fy arglwydd gŵr Duw, na ddywet gelwydd i’th law-forwyn.
17Felly y wraig a feichiogodd, ac a ymddug fab wrth yr amser nodedic hwnnw, yn ôl amser bywiolaeth, yr hwn a lefarase Elisêus wrthi hi.
18A’r bachgen a gynnyddodd: ac a aeth ddydd-cwaith allan at ei dâd, at y medelwŷr.
19Ac efe a ddywedodd wrth ei dâd, fy mhen, fy mhen dywedodd yntef wrth ryw langc, dŵg ef at ei fam.
20Ac efe ai cymmerth, ac ai dûg ef at ei fam: ac efe a eistedodd ar ei gliniau hyd hanner dydd, ac a fu farw.
21Yna hi a aeth i fynu, ac ai gosododd ef i orwedd ar wely gŵr Duw: ac a gaeodd arno ef, ac a aeth allan.
22A hi a alwodd ar ei gŵr, ac a ddywedodd, anfon attolwg gyd a mi vn o’r llangciau, ac vn o’r assynnod: canys mi a redaf hyd at ŵr Duw, ac a ddychwelaf.
23Dywedodd yntef, pa ham yr ydwyt ti yn myned atto ef heddyw? nid yn newyddloer, nac yn Sabboth: hithe a ddywedodd, pob peth yn ddâ.
24Yna hi a gyfrwyodd yr assyn, ac a ddywedodd wrth ei llangc, gyrr, a dôs ymmaith: gan farchogeth, nac aros am danafi onid archwyf it.
25Felly hi a aeth, ac a ddaeth at ŵr Duw i fynydd Carmel: a phan welodd gŵr Duw hi o bell, yna efe a ddywedodd wrth Gehezi ei langc, wele y Sunamites honno.
26Rhêd yn awr attolwg iw chyfarfod, a dywet wrthi hi, a ydŵyt ti yn llawen? a ydyw dy ŵr y llawen? a ydyw dy fachgen yn llawen? dywedodd hithe, llawen.
27Pan ddaeth hi at ŵr Duw i’r mynydd, yna hi a ymaflodd yn ei draed ef: a Gehezi a nessaodd iw gwthio hi ymmaith, ond gŵr Duw a ddywedodd, gad ti hi yn llonydd, canys ei henaid sydd ofidus ynddi, a’r Arglwydd a gêlodd oddi wrthifi, ac nis mynegodd i mi.
28Yna hi a ddywedodd, a ddymunais i fab gan fy arglwydd? oni ddywedais, na thwylla fi?
29Yna efe a ddywedodd wrth Gehezi, gwregysa dy lwynau, a chymmer fy ffonn yn dy law, a dôs ymmaith, o chyfarfyddi a nêb na Luc.10.4.chyfarch iddo, ac o chyfarch neb di nac atteb ef: a gosot fy ffon i ar wyneb y bachgen.
30A mam y bachgen a ddywedodd, mai byw’r Arglwydd, ac mai byw dy enaid ti nid ymadawafi a thi: yna efe a gyfododd ac a aeth ar ei hôl hi.
31A Gehezi a gerddodd oi blaen hwynt ac a osododd y ffon ar wyneb y bachgen, ond nid ymadrodde, ac ni chlywe efe: am hynny efe a ddychwelodd iw gyfarfod ef, ac a fynegodd iddo gan ddywedyd, ni ddeffrôdd y bachgen.
32Yna Elisêus a ddaeth i mewn i’r tŷ: ac wele y bachgen wedi marw yn gorwedd ar ei wely ef.
33Felly efe a ddaeth i mewn, ac a gaeodd y drws arnynt ill dau: ac a weddiodd ar yr Arglwydd.
34Yna efe 1.Bren.17.21. Act.20.10.a aeth i fynu, ac a orweddodd ar y bachgen, gosododd hefyd ei enau ar ei enau yntef, ai lygaid ar ei lygaid ef: ai ddwylaw ar ei ddwylaw ef, ac efe a ymestynnodd arno ef, fel y cynhêsodd cnawd y bachgen.
35Ac efe a ddychwêlodd, ac a rodiodd ar hŷd y tŷ i fynu ac i wared, yna efe aeth i fynu ac a ymestynnodd arno ef: a’r bachgen a disiodd hyd yn saith-waith, yna’r bachgen a agorodd ei lygaid.
36Ac efe a alwodd ar Gehezi, ac a ddywedodd, galw ar y Sunamites hon, yna efe a alwodd arni hi, a hi a ddaeth atto ef: dywedodd yntef, cymmer dy fâb.
37A hi a ddaeth, ac a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a ymgrymmodd i lawr: ac a gymmerodd ei mab, ac a aeth allan.
38Yna Eliseus a ddychwelodd i Gilgal, a newyn yn y wlâd, a meibion y prophwydi oeddynt yn aros oi flaen ef: ac efe a ddywedodd wrth ei langc, trefna y crochan mawr, a berw gawl i feibion y prophwydi.
39Ac vn a aeth allan i’r maes i gasclu brefech, ac efe a gafodd winwydden wyllt, ac a gasclodd o honi fresech gwylltion loned ei wisc: ac a ddaeth, ac ai briwodd yn y crochaned cawl: canys nid adwaenent
40Yna y tywalltâsant i’r gwŷr i fwytta: a phan fwyttasant o’r cawl, yna hwynt a waeddasant, ac a ddywedasant, ô ŵr Duw angau yn y crochan, ac nid allent fwytta.
41Yna efe a ddywedodd, dygwch flawd, ac efe ai bwriodd yn y crochan: dywedodd hefyd, tywallt i’r bobl fel y bwyttânt, ac nid oedd dim niwed yn y crochan.
42A daeth gŵr o Baal Salisa, ac a ddûg i ŵr Duw o fara y blaen ffrwyth vgain torth haidd, a thwyssennau irion yn ei col: ac efe a ddywedodd dod ti i’r bobl fel y bwyttânt.
43Ai wenidog ef a ddywedodd, i ba beth y rhoddaf hyn ger bron can-wr? dywedodd yntef, dyro i’r bobl fel y bwyttânt, canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, hwy a fwyttânt, ac a weddillir.
44Felly efe ai rhoddodd ger eu bron hwynt, a hwynt a fwyttasant, ac a weddillasant yn ôl gair yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.