1A Thobit a ddywedodd ei gyffes.
2Ac yr oedd efe amyn dwy trugian o flynyddoedd pan gollodd oi olwg, ac yn ôl ŵyth mlynedd y cafodd ef elwaith, ac efe a wnaeth elusenau canys efe a roese ei fryd ar ofni yr Arglwydd ei Dduw, ai foliannu ef.
3Ac wedi ei fyned yn hên iawn, efe a alwodd ei fab a chwech o blant ei fab, ac a ddywedodd wrtho: wele fy mab, mi a heneiddiais, ac ar fyrder yr ymadawaf â’r byd hwnn:
4Cymmer dy blant fy mab a dos ymmaith i dir Media o athos yr ydwyf yn credu, am bob peth ar a ddywedodd Ionas y prophwyd yng-hylch Ninife y cyflawnir hwynt y destruwir hi, ac y bydd amlach heddwch yn nhir Media dros amser, ac y gwascerir ein brodyr ni ar hŷd y gwledydd allan o’r tir da: ac y diffeithir Ierusalem, a Theml yr Arglwydd yr hon sydd ynddi a loscir ac a ddiffeithir oni ddel y cyfnod.
5A thrachefn y trugarhâ Duw wrthynt, ac ai dychwel hwynt i’r wlad. Yno yr adeiladant y Deml, nid o fath y gyntaf, oni gyflawner cyfnodau yr hyd: Ac yn ôl hynny y dychwelant oi caethiwed, ac yr adeiladant Ierusalem yn anrhydeddus, a thŷ Dduw a adailedir ynddi ag adeilad gogoneddus yn holl oesoedd y byd, modd y dywedodd yr prophwydi am dani.
6A’r holl genhedlaethau a wir ddychwelant i ofni yr Arglwydd Dduw, ac a gladdant eu delwau.
7Yna y bendithia holl genhedlaethau yr Arglwydd, ai bobl ef a gyffesant Dduw, a’r Arglwydd a dderchaif ei bobl, a phawb a lawenychant a’r a garant yr Arglwydd Dduw mewn gwirionedd a chyfiawnder gan wneuthur trugaredd a’n brodyr ni.
8Ac yn awr fy mab dos ymmaith o Ninife, o blegit diogel fydd i’r pethau a ddywedodd y prophwyd Inas ddyfod i ben.
9Eithr cadw di yr ddeddf a’r gorchymynnion, a bydd drugarog a chyfiawn fel y byddo rhwydd rhagot.
10Cladd fi yn weddaidd a’th fam gyd â mi, ac nac arhoswch mwyhaiach yn Ninife. Ystyria fy mab beth a wnaeth Aman i Achiacharus yr hwnn ai magodd ef, y môdd yr arweiniodd efe ef o’r goleuni i’r tywyllwch, ac fel y gobrwyodd ef, ac etto er hynny Achiarcharus a ddiangodd, eithr efe a gafodd ei haeddedigaeth ac a ddescynnodd i’r tywyllwch. Manasses a wnaeth drugaredd, ac a ddiangodd o fagl yr angeu a osodasent iddo, eithr Aman a syrthiodd i’r fagl, a darfu am dano.
11Ac yr awran fy mhlentyn ystyria beth a wna elusendod a’r modd y gwared cyfiawnder. A phan ddywedodd efe y pethau hynn, ei enaid ef a balllodd yn y gwely: canys yr oedd efe yn gant ac amyn dwy trugain mlwydd o oed, A ai cladddodd ef yn anrhydeddus: a phan fu farw Anna, efe ai claddodd hi gyd âi dad. Ac aeth Tobias efe ai wraig ai blant i Echatan at Raguel ei chwegrwn.
12Ac efe a heneiddiodd mewn vrddas, ac a gladdodd dad a mam ei wraig yn anrhydeddus, ac a berchennogodd eu da hwynt gyd â da Thobit ei dad:
13Ac a fu farw yn Echatan yng-wlad Media pan oedd gant a saith ar hugain o flwyddau o oed.
14A chynn ei farw, efe a glybu ddinistrio Ninife, yr hon a ddugase Nabuchodonosor ac Asserus i gaethiwed: felly efe a lawenychodd cyn ei farw am Ninife.
Terfyn llyfr Tobias.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.