1Yna y cyfododd ar ôl Abimelech i waredu Israel Tholah mab Phuah mab Dodo, gŵr o Issachar: ac efe oedd yn trigo yn Samir ym mynydd Ephraim.
2Ac efe a farnodd Israel dair blynedd ar hugain, ac a fu farw, ac a gladdwyd yn Samir.
3Ac ar ei ôl ef y cyfododd Iair y Gileadiad: ac efe afarnodd Israel ddwy flynedd ar hugain.
4Ac iddo ef yr oedd deng-mab ar hugain yn marchogeth ar ddec ar hugain o ebolion assynnod, a dec dinas ar hugain ganddynt: y rhai a elwid Deut 3.14.trefydd Iair hyd y dydd hwn, y rhai yng-wlâd Gilead.
5Yna Iair a fu farw, ac a gladdwyd yn Camon.
6A meibion Israel Pen.2.11.|JDG 2:11 & 3.7.|JDG 3:7 & 4.1.|JDG 4:1 & 6.1.|JDG 6:1 & 13.1.a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd, ac a wasanaethasant Pen.2.13.Baalim, ac Astaroth, a duwiau Syria, a duwiau Sidon, a duwiau Moab, a duwiau meibion Ammon, a duwiau y Philistiaid: a gwrthodasant yr Arglwydd, ac nis gwasanaethasant ef.
7Am hynny y llidiodd digllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel: ac efe ai rhoddodd hwynt yn llaw y Philistiaid, ac yn llaw meibion Ammon.
8A hwynt a flinasant, ac a ddrylliasant feibion Israel o’r flwyddyn honno allan (sef tair blynedd ar bymthec) holl feibion Israel y rhai tu hwnt i’r Iorddonen, yng-wlâd yr Amoriaid yr hon yn Gilead.
9A meibion Ammon a aethant trwy’r Iorddonen i ymladd hefyd yn erbyn Iuda, ac yn erbyn Beniamin, ac yn erbyn tŷ Ephraim: fel y bu gyfyng iawn ar Israel.
10Yna meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd, gan ddywedyd: pechasom yn dy erbyn, o herwydd gwrthodasom ein Duw ni, a gwasanaethasom Baalim.
11A dywedodd yr Arglwydd wrth feibion Israel: oni rhac yr Aiphtiaid, ac rhac yr Amoriaid, ac rhac meibiō Ammō, ac rhac y Philistiaid?
12Y Sidoniaid hefyd a’r Amaleciaid a’r Moaniaid a’ch gorthrymmasant chwi: a chwi a alwasoch arnaf, a minne a’ch gwaredais chwi oi llaw hwynt.
13Etto chwi Deut.32.15. Ier.2.13.a’m gwrthodasoch i, ac a wasanaethasoch dduwiau dieithr: am hynny ni waredaf chwi mwyach.
14Ewch, a llefwch at y duwiau y rhai a ddewisasoch: hwynt a’ch gwaredant chwi yn amser eich cyfyngdra.
15A meibion Israel a ddywedasant wrth yr Arglwydd, pechasom, gwna di i ni fel y gwelech yn ddâ: etto gwaret ni attolwg y dydd hwn.
16Yna hwynt a fwriasant ymmaith y duwiau dieithr oi mysc hwynt, ac a wasanaethasant yr Arglwydd: ai enaid ef a dostyriodd o herwydd adfyd Israel.
17Yna meibion Ammon a ymgynnullasant, ac a werssyllasant yn Gilead: a meibion Israel a ymgasclasant, ac a werssyllasant yn Mispah.
18Y bobl hefyd thywysogion Gilead a ddywedasant bob vn wrth ei gilydd, pa ŵr bynnac a ddechreuo ymladd yn erbyn meibion Ammon: efe a fydd Pen.11.16.yn bennaeth ar drigolion Gilead.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.