1Yna Samson a aeth i Azzah, ac a ganfu yno buttein-wraig, ac efe a aeth i mewn atti hi.
2[A mynegwyd] i’r Azzathiaid gan ddywedyd, daeth Samson ymma, a hwynt a gylchynasant, ac a gynllwynasant iddo ef ar hŷd y nos ym mhorth y ddinas: a hwynt a ymostegasant yr holl nôs gan ddywedyd hyd y boreuawl oleuni, yna y lladdwn ef.
3Pan orweddase Samson hyd hanner nôs, yna efe a gyfododd yng-hefnynt y nos, ac a ymaflodd yn nryssau porth y ddinas, ac yn y ddau bost, ac efe a aeth ymmaith a hwynt yng-hyd a’r barr, ac ai gosododd ar ei yscwyddau, ac ai dûg hwynt i fynu i benn y mynydd yr hwn gyferbyn a Hebron.
4Ac wedi hyn efe a garodd wraig yn nyffryn Sorec: ai henw Dalila.
5Yna pendefigion y Philistiaid a aethant i fynu atti hi, ac a ddywedasant wrthi, huda ef, ac edrych ym mha ei fawr nerth ef, a pha fodd y gorthrechwn ef, fel y rhwymom ef iw gystuddio: ac ni a roddwn i ti bôb vn fil, a chant arian.
6A Dalila a ddywedodd wrth Samson mynega i mi attolwg ym mha dy fawr nerth di? a pha fodd i’th rwymid i’th gystuddio?
7Yna Samson a ddywedodd wrthi, pe rhwyment fi a saith o ŵdyn irion y rhai ni sychasent: yna y gwanhawn, ac y byddwn fel gŵr arall.
8A phendefigion y Philistiaid a ddugasant i fynu atti hi saith o ŵdyn irion y rhai ni chrinasent: a hi ai rhwymodd ef a hwynt.
9(A chyullwynwyr oedd yn aros genddi mewn stafell, a hi a dywedodd wrtho ef, y Philistiaid arnat Samson: ac efe a dorrodd y gwdyn, fel y torrir edef garth wedi cyffwrdd tân, felly nid adnabuwyd ei gryfder ef.
10Ac y dywedodd Dalila wrth Samson, wele ti a’m twyllaist, ac a ddywedaist gelwydd wrthif: yn awr mynega i mi attolwg pa fodd i’th rwymir.
11Yna y dywedodd efe wrthi, pe gan rwymo y rhwyment fi a rhaffau newyddion y rhai ni wnaethpwyd gwaith a hwynt: yna i’m gwanheuid, ac y byddwn fell gŵr arall.
12Am hynny Dalila a gymmerth raffau newyddion, ac ai rhwymodd ef a hwynt, ac a ddywedodd wrtho, y Philistiaid arnat ti Samson, (ac yr oedd cynllwyn yn aros mewn stafell: ) ac efe ai torrodd hwynt oddi ar ei freichiau fel edef.
13Dalila hefyd a ddywedodd wrth Samson, hyd yn hyn y twyllaist fi, ac y dywedaist gelwydd wrthif, mynega i mi a pha beth i’th rwymid: dywedodd yntef wrthi hi pe phlethit ti saith o gudynnau fy mhen wrth garfan gwehydd.
14A hi ai gwnaeth hwynt yn siccr a hoel, ac a ddywedodd wrtho ef, y Philistiaid arnat ti Samson: ac efe a ddeffrodd oi gwsc, ac efe a aeth ymmaith a hoel y wê, ac a’r garfan.
15Yna y dywedodd hi wrtho ef, pa fodd y dywedi cu gennif dy di, a’th galon heb gyd a mi? ac ni fynegaist i mi ym mha dy nerth di.
16Ac o herwydd ei bod hi yn ei flîno ef ai geiriau beunydd, ac yn ei boeni ef: yna ei enaid a ymofidiodd i farw.
17Am hynny efe a fynegodd iddi ei holl feddwl, ac a ddywedodd wrthi, ni chyffyrddodd ellyn a’m penn i canys Nazaread Duw ydwyfi o grôth fy mam: ped eillid fi, yna y cilie fy nerth oddi wrthif, ac y gwanhawn, ac y byddwn fel pôb dŷn
18Pan welodd Dalila fynegu o honaw ef iddi hi ei holl feddwl, yna’r anfonodd hi, ac y galwodd am bendefigion y Philistiaid gan ddywedyd, deuwch i fynu vn-waith, canys efe a fynegodd i mi ei holl feddwl: yna pendefigion y Philistiaid a ddaethant i fynu atti hi, ac a ddugasant arian yn eu dwylo.
19A hi a wnaeth iddo gyscu ar ei gliniau, ac a alwodd ar ŵr, ac a barodd eillio saith gudyn ei ben ef: a hi a ddechreuodd ei gystuddio ef, ai nerth a ymadawse oddi wrtho ef.
20Yna hi a ddywedodd, y Philistiaid arnat ti Samson: ac efe a ddeffrôdd oi gwsc, Num.24.1.ac a ddywedodd âf allan y waith hon fel cynt, ac ymescydwaf, ond ni wydded efe fod yr Arglwydd wedi cilio oddi wrtho.
21A’r Philistiaid ai daliasant ef, ac a dynnasant ei lygaid ef, ac ai dugasant ef i wared i Azzah, ac ai rhwymasant ef a gefynnau, ac efe a fu yn malu yn nhŷ y carcharorion.
22Eithr gwallt ei benn ef a ddechreuodd dyfu ar ôl ei eillio.
23Yna pendefigion y Philistiaid a ymgasclasant i aberthu aberth mawr i Ddagon eu duw, ac i orfoleddu: canys dywedasant ein duw ni a roddodd Samson ein gelyn yn ein llaw ni.
24Pan welodd y bobl ef, yna y canmolasant ei duw: canys dywedasant, ein duw ni a roddodd ein gelyn yn ein dwylo ni, a’r hwn a oedd yn anrheuhio ein gwlad ni, a’r hwn a laddedd lawer o honom ni.
25A phan oedd eu calon hwynt yn llawen, yna y dywedasant, gelwch am Samson i beri i ni chwerthyn: a hwynt a alwasant am Samson o’r carchar-dŷ fel y chwarâe oi blaen hwynt, a hwynt ai cyfleuasant ef rhwng y colofnau.
26Yna Samson a ddyweddodd wrth y llangc yr hwn oedd yn ymaflyd yn ei law ef, gollwng, a gad i mi gael gafel ar y colofnau y rhai y siccrhauwyd y tŷ arnynt: fel y pwyswyf arnynt.
27A’r tŷ oedd yn llawn o wŷr a gwragedd, a holl bendefigion y Philistiaid yno: ac ar y nenu yng-hylch tair mîl o wŷr a gwragedd yn edrych pan ydoedd Samson yn chware.
28Yna Samson a lefodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd: ô Arglwydd Iôr, cofia fi attolwg yn vnic y waith hon ô Dduw, fel y dialwyf vn dialedd ar y Philistiaid am fy nau lygaid i.
29A Samson a gofleidiodd y ddwy golofn ganol y rhai yr oedd y tŷ wedi ei siccrhau arnynt, ac efe a ymgynhaliodd wrthynt hwy: vn yn ei ddeheulaw, a’r llall yn ei law asswy.
30Yna y dywedodd Samson, bydded farw fy enioes gyd a’r Philistiaid, ac efe a ymdynnodd yn gryf, fel y syrthiodd y tŷ ar y pendefigion, ac ar yr holl bobl oeddynt ynddo: a’r meirw y rhai a laddodd efe wrth farw o honaw oeddynt fwy nac a laddase efe yn ei fywyd.
31Ai frodyr ef, a holl dŷ ei dad ef a ddaethant i wared, ac ai dugasant ef, ac a aethant i fynu, ac ai claddasant ef rhwng Sorah, ac Esthaol ym meddrod Manoah ei dad: ac efe a farnase Israel vgain mlhynedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.