Iosuah 16 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVI.Rhan Ephraim.

1Ac etifeddiaeth meibion Ioseph oedd yn myned o’r Iorddonen Iericho i ddyfroedd Iericho o du’r dwyrain: a’r anialwch yr hwn sydd yn myned i fynu o Iericho i fynydd Bethel.

2 Barn.1.26. Ac y mae yn myned o Bethel i Luz: ac yn cyfeirio at derfyn Archiataroth:

3Ac yn descyn tua’r gorllewyn i ardal Iaphleti hyd derfyn Beth-horon isaf, ac hyd Gazer: ai gyrrau eithaf ydynt hyd y môr.

4Felly meibion Ioseph, Manasses, ac Ephraim a gymmerasant etifeddiaeth.

5A therfyn meibion Ephraim oedd yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt o du’r dwyrain oedd Atroth Adarhyd Beth-horon vchaf.

6A’r terfyn hwn sydd yn myned tua’r môr, thua Micmetha o du’r gogledd a’r terfyn hwn sydd yn amgylchu o du’r dwyrain i Thaanah Siloh: ac yn myned heibio iddi o du’r dwyrain i Ianohah.

7Ac yn myned i wared o Ianohah Ataroth, a Naarathah: ac yn cyfwrdd ag Iericho, ac yn myned allan i’r Iorddonen.

8O Thappuah y mae y terfyn hwn yn myned tua’r dwyrain i afon Canah, ai gyrrau eithaf ydynt wrth y môr: dymma etifeddiaeth llwyth meibion Ephraim yn ôl eu teuluoedd,

9A dinasoedd nailltuedic meibion Ephraim ym mysc etifeddiaeth meibion Manasses: yr holl ddinasoedd ai pentrefydd.

10Ond ni orescynnasant hwy y Canaaneaid y rhai oeddynt yn trigo yn Gezer: am hynny y trigodd y Canaaneaid ym mhlith yr Ephraimiaid hyd y dydd hwn, ac y maent yn gwasanaethu tann dreth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help