2.Brenhinoedd 13 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIII.Ioachas (wedi myned tann law y Syriaid) trwy weddi yn cael ymwared. 9 Ioas yn teyrnasu yn ei lê ef. 20 Marwolaeth Elisêus a Hazael.

1O’r drydedd flwyddyn ar hugain i Ioas fab Ahazias brenin Iuda: y teyrnasodd Ioachaz mab Iehu ar Israel yn Samaria ddwy flynedd ar bymthec.

2Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd: ac a rodiodd ar ôl pechodau Ieroboam mab Nabat, y rhai y gwnaethe efe i Israel bechu, ni thrôdd oddi wrthynt hwy.

3Am hynny digllonedd yr Arglwydd a lidiodd yn erbyn Israel: ac efe ai rhoddodd hwynt yn llaw Hazael brenin Syria, ac yn llaw Ben-hadad mab Hazael yr holl ddyddiau hynny.

4Ac Ioachaz a erfynniodd ar yr Arglwydd: a gwrandawodd yr Arglwydd arno ef, o herwydd iddo ganfod gorthrymder Israel, canys brenin Syria ai gorthrymmase hwynt.

5Am hynny’r Arglwydd a roddodd achubwr i Israel, fel yr aethant oddi tann law y Syriaid: a meibion Israel a drigasant yn eu pebyll fel cynt.

6Etto ni throesant hwy oddi wrth bechodau tŷ Ieroboam y rhai y gwnaethe efe i Israel bechu, rhodiasant ynddynt hwy: a’r llwyn hefyd a safodd yn Samaria.

7Canys ni adawodd efe i Ioachaz bobl onid dêc a deugain o wyr meirch, a dêc cerbyd, a deng-mil o wyr traed: o herwydd brenin Syria ai dinistriase hwynt, ac ai gosodase hwynt fel llwch iw dyrnu.

8A’r rhan arall o hanes Ioachaz, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe, ai gadermd: onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel?

9Ac Ioachaz a hunodd gyd ai dadau, a chladdasant ef yn Samaria: ac Ioas ei fab ef a deyrnasodd yn ei le ef.

10O’r ail flwyddyn ar bymthec ar hugain i Ioas frenin Iuda, y teyrnasodd Ioas mab Ioachaz ar Israel yn Samaria vn mlynedd ar bymthec.

11Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd: ni thrôdd efe oddi wrth holl bechodau Ieroboam mab Nabat, y rhai y gwnaethe efe i Israel bechu, efe a rodiodd ynddynt.

12A’r rhan arall o hanes Ioas, a’r hyn oll a wnaeth efe ai gadernid’r hwn yr ymladdodd efe ag Amasia brenin Iuda: onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel?

13Ac Ioas a hunodd gyd ai dadau, ac Ieroboam a eisteddodd ar ei deyrn-gader ef: ac Ioas a gladdwyd yn Samaria gyd a brenhinoedd Israel.

14Pan glafychodd Elisêus oi glefyd yr hwn y bu efe farw ynddo: yna Ioas brenin Israel a ddaeth i wared atto ef, ac a ŵylodd ar ei wyneb ef, ac a ddywedodd, fy nhâd, 2.Bren.2.12.fy nhâd, cerbyd Israel, ai farchogion.

15Yna Elisêus a ddywedodd wrtho ef, cymmer fŵa, a saethau: ac efe a gymmerth fŵa, a saethau.

16Ac efe a ddywedodd wrth frenin Israel, gosot dy law ar y bŵa, ac efe a osododd ei law: ac Elisêus a osododd ei ddwylaw ar ddwylo’r brenin,

17A dywedodd, agor y ffenestr tua’r dwyrain, yntef ai hagorodd: yna y dywedodd Elisêus, saetha, ac efe a saethodd, dywedodd yntef: saeth ymwared yr Arglwydd, a saeth iechydwriaeth yn erbyn y Syriaid, ti a darewi y Syriaid yn Aphec, nes eu difa hwynt.

18Hefyd efe a ddywedodd, cymmer y saethau, ac efe ai cymmerodd: dywedodd yntef wrth frenin Israel, taro’r ddaiar, ac efe a darawodd dair gwaith, ac a safodd.

19Yna gŵr Duw a ddigiodd wrtho ef, ac a ddywedodd daro bump neu chwech o weithiau, yna y tarawsit y Syriaid nes difa yn awr gan hynny tair gwaith y tarewi y Syriaid.

20Felly Elisêus a fu farw, a hwynt ai claddasant ef: a minteioedd o’r Moabiaid a ddaethant i’r wlâd y flwyddyn honno.

21A phan oeddynt hwy yn claddu gŵr, yna wele hwynt a ganfuant y dorf, am hynny y bwriasant y gŵr i feddrod Elisêus: pan aeth y gŵr a chyffwrdd ag escyrn Elisêus, Ecclesi.48.14.yna efe a ddadebrodd, ac a gyfododd ar ei draed.

22A Hazael brenin Syria a orthrymmodd Israel holl ddyddiau Ioachaz.

23A’r Arglwydd a drugarhaodd wrthynt hwy, ac a dosturiodd wrthynt hwy, ac a drôdd attynt hwy er mwyn ei gyfammod ag Abraham, Isaac, ac Iacob: ac ni fynnodd eu dinistrio hwynt, nai bwrw hwynt ymmaith oi ŵydd ef hyd yn hyn.

24Felly Hazael brenin Syria a fu farw: a Benhadad ei fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef.

25Ac Ioas mab Ioachaz a ddychwelodd ac a ennillodd y dinasoedd o law Benhadad mab Hazael, y rhai a ddugase efe o law Ioachaz ei dâd mewn rhyfel: Ioas ai tarawodo ef dair gwaith, ac a ddûg adref ddinasoedd Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help