Nahum 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.Dinistr Assyria, ac ymwared Israel.

1 Esai.13.1. Baich Ninife, llyfr gweledigaeth Nahum yr Elcosiad.

2Duw eiddigus, a’r Arglwydd sydd yn dial, ac yn berchen llid: dïalwr’r Arglwydd ar ei wrthwyneb-wŷr, a dal y mae efe iw elynion.

3Yr Arglwydd hwyrfrydig i ddîg, a mawr ei rymm, ac ni ddieuoga[’r anedifeiriol,] yr Arglwydd ai lwybr yn y corwynt, ac yn y rhyferthwy, a’r cwmwl llwch ei draed ef.

4Efe a gerydda y môr, ac ai sŷch; yr holl ffrydau a ddiespydda efe: llescaodd Basan, a Charmel, a llescaodd blodeun Libanus.

5Y mynyddoedd a grynant rhagddo, a’r brynnau a ymollyngant, a’r ddaiar a lysc rhag ei olwg, a’r byd hefyd a chwbl ac a drigant ynddo.

6Pwy a saif o flaen ei lid? a phwy a gyfyd yng-hynddaredd ei ddigofaint? ei lid a dywelltir fel tân, a’r creigiau a dynn efe i lawr.

7Daionus’r Arglwydd, yn noddfa yn erbyn blinder, ac a edwyn y rhai a ymddyriedant ynddo.

8A hedlif y gwnaiff efe drangc ei lle hi, a thywyllwch hefyd a erlid ei elynnion ef.

9Beth a ddychymmygwch yn erbyn yr Arglwydd? efe a wna drangc, ni chyfyd blinder ddwy-waith.

10Canys tra’r ymddyryso y drain, a thra meddwo y gwledd-wŷr, yssir hwynt fel sofl wedi llawn wywo.

11O honot y daeth allan a ddychymmyga ddrwg yn erbyn yr Arglwydd, cynghorwr drygionus.

12Fel hyn y dywed yr Arglwydd, pe byddent heddychol, ac felly morr aml, etto torrir hwynt felly fel yr ele efe heibio: er dy flino ni’th flinaf mwyach.

13Ac yr awran torraf ei iaû ef oddi arnat, a datodaf dy rwymau.

14Yr Arglwydd hefyd a orchymynnodd o’th blegit na hauer o’th enw mwyach: torraf o dŷ dy dduw y gerfiedic a’r dawdd ddelw, gosodaf dy fedd am it fyned yn wael.

15 Esa.52.7. Rhuf.10.15. Wele ar y mynyddoedd draed yr efangylwr, cyhoeddwr heddwch: cadw di ô Iuda dy ŵyliau, tâl dy addunedau, nid aiff y drygionus trwot mwy, cwbl dorrwyd ef ymmaith.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help