1Diolchaf i’r Arglwydd bob amser: ei foliant yn fyng-enau yn wastad.
2Yn yr Arglwydd y gorfoledda fy enaid: yr rhai gostyngedic a glywant ac a lawenychant.
3Mawrygwch yr Arglwydd gyd â mi: a chyd-dderchafwn ei enw ef.
4Ceisiais yr Arglwydd, ac efe a’m gwrandawodd: gwaredodd fi hefyd o’m holl ofn.
5Edrychant arno, a hwynt a eglirir: ai hwynebau ni chywilyddir
6Y tlawd hwn a lefodd, a’r Arglwydd clybu, ac ai gwaredodd oi holl drallodau.
7Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai ai hofnant ef, ac ai gwared hwynt.
8Profwch, a gwelwch morr ddâ yw’r Arglwydd: gwyn ei fyd y gŵr a ymddyriedo ynddo.
9Ofnwch yr Arglwydd ei sainct ef: canys nid eisieu ar y rhai ai hofnant ef.
10Y mae eisiau, a newyn ar y llewod, a’r sawl a geisiant yr Arglwydd, ni bydd arnynt eisieu dim daioni.
11Deuwch feibion, gwrandewch arnaf: dyscaf i chwi ofn yr Arglwydd.
12Pwy’r gŵr a chwennych fywyd, gan garu ddyddiau i weled daioni?
13Cadw dy dafod rhag drwg: a’th wefusau rhag traethu twyll.
14Ymwrthot a’r drwg, a gwna ddâ: ymgais a thangneddyf, a dilyn hi.
15Llygaid yr Arglwydd ar y rhai cyfiawn: ai glustiau iw llefain hwynt.
16Wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg: i dorri eu coffa oddi ar y ddaiar.
17[Yr rhai cyfiawn] a lefâsant, a’r Arglwydd a glybu, ac ai gwarêdodd oi holl drallodion.
18Agosr Arglwydd at y rhai drylliedic o galon: ac efe a geidw y rhai briwedic o yspryd.
19Llawer o ddrygau y cyfiawn: ond yr Arglwydd ai gwared ef oddi wrthynt oll.
20Efe a geidw ei holl escyrn: ni ddryllir vn o honynt.
21Drygioni a ladd yr annuwiol: a’r rhai a gasânt y cyfiawn a anrheithir.
22Yr Arglwydd a warêda eneidiau ei weision: a’r rhai oll a ymddyriedant ynddo ef nid anrheithir hwynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
