1Gwrandewch y gair gofidus ymma, ’r hwn a dderchafaf arnoch tŷ Israel.
2Y weryf Israel a syrthiodd, ac ni chyfyd mwy: gadawyd hi ar ei thîr, nid ai cyfyd.
3Canys y modd hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, y ddinas a êl allan mîl a weddill gant, a’r hon a êl allan ei chanfed a weddill ddêc i dŷ Israel.
4O herwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth dŷ Israel, ceisiwch fi, a byw fyddwch.
5Ac nac ymgeisiwch â Bethel, ac nac ewch i Gilgal, ac na thrammwywch Beerseba: o herwydd gan gaeth-gludo y caeth-gludir Gilgal, a Bethel a fydd yn ddiddim.
6Ymgeisiwch a’r Arglwydd a byw fyddwch rhac iddo ef fyned tros dŷ Ioseph fel tân, ai ddifa, ac na byddo ai ddiffoddo yn Bethel.
7Troi y maent farn yn wermod: a chyfiawnder a adawant ar y llawr.
8Yr hwn a wnaeth Pleiades, Iob.9.9.ac Orîon, yr hwn a dry gyscod angen yn foreu-ddydd, ac a dywylla y dydd yn nôs: yr hwn a eilw ddyfroedd y môr, ac ai tywallt ar wyneb y ddaiar: yr Arglwydd ei enw.
9Yr hwn sydd yn nerthu dinistrudd yn erbyn y cryf: fel y delo y dinistrudd ar yr amddeffynfa.
10Câs ganddynt a geryddo yn y porth, a ffiaidd ganddynt a lefaro yn berffaith.
11O herwydd hynny am iwch sathru y tlawd, a dwyn y baich ŷd oddi arno: chwi a adailadasoch dai o gerric nadd, ac ni thrigwch ynddynt: plannasoch winllanoedd blyssiol, ac nid yfwch eu gwîn hwynt.
12Canys mi a adwen eich anwireddau lawer, a’ch pechodau cryfion, y rhai ydych yn blino y cyfiawn, yn cymmeryd iawn, ac yn gŵyro y tlawd yn y porth.
13Am hynny y neb a fyddo call a ostega’r amser hwnnw, canys amser drwg yw.
14Ymgeisiwch â daioni, ac nid â drygioni fel y byddoch fyw, ac felly Arglwydd Dduw y lluoedd fydd gyd â chwi fel y dywedasoch.
15Casewch ddrygioni, a hoffwch ddaioni, a gosodwch farn yn y porth: galle Arglwydd Dduw y lluoedd fod yn raslawn i weddill Ioseph.
16Am hynny fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Arglwydd Dduw y lluoedd, ym mhob heol tristwch, ac ym mhob priffordd y dywedant, oh, oh, a galwant yr arddwr i dristwch, a galar i’r neb a fedro alaru.
17Ac ym mhob gwinllan tristwch, canys trammwyaf trwy dy ganol di, medd yr Arglwydd.
18Gwae y neb sydd yn dymuno dydd yr Arglwydd, beth hwn i chwi? tywyllwch ac nid goleuni yw dydd yr Arglwydd.
19Megis pe ffoe gŵr o flaen y llew, ac arth yn cyfarfod ag ef, a myned i’r tŷ a phwyso ei law ar y pared, ai frathu o sarph:
20Oni dydd yr Arglwydd yn dywyllwch ac nid yn oleuni, yn dywyllwch ac heb lewyrch iddo?
21Caseais, a ffieiddiais eich gwiliau, ac nid aroglaf yn eich cynnulleidfaoedd.
22Canys er i chwi offrymmu i mi boeth offrymmau, a’ch offrymmau bwyd, ni fyddaf fodlon, ac nid edrychaf ar hedd offrwm eich pascedigion.
23Symmud oddi wrthif luosogrwydd dy ganiadau: canys ni wrandawaf buroriaeth dy nablau.
24Ond barn a ymdreigla fel dwfr, a chyfiawnder fel ffrŵd grêf.
25A offrymmasoch chwi i mi aberthau, a bwyd offrymmau yn y diffaethwch ddeugain mlhynedd tŷ Israel?
26Ond dugasoch Siccwth eich brenin, Chiwn hefyd eich delwau, seren eich duwiau yr hon a wnaethoch iwch eich hunain.
27Am hynny y caeth-gludaf chwi i’r tu hwnt i Ddamascus medd yr Arglwydd, Duw y lluoedd ei enw ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.